Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 7, 2014.
Pryd oedd y tro diwetha i chi chwarae – a mwynhau – gêm fwrdd?
Os ‘da chi wedi chwarae Settlers of Catan yn ddiweddar, neu Pandemic, neu Carcassonne, neu Incan Gold, neu Twilight Imperium 3, neu King of Tokyo, neu Small World, neu Zombicide, symudwch ymlaen. Dydi’r cofnod yma ddim i chi. ‘Da chi ar ben eich petha. Yn gwneud yn grêt. Ac mae’ch gwallt chi’n edrych yn briliant heddiw, gyda llaw.
Ond os eich unig atgof chi o gemau bwrdd ydi chwarae Monopoly efo’r teulu amser Dolig ugain mlynedd yn ôl, daliwch i ddarllen. Achos jyst fel gemau fideo, mae gemau bwrdd yn datblygu ac yn gwella gydag amser. Go brin y byddwch chi’n dewis chwarae Pong dros GTA 5, wedi’r cwbwl. Ac eto, mae trwch mawr o’r boblogaeth yn dal i gysylltu gemau bwrdd efo Risk, Cluedo, Trival Pursuit, a chreiriau eraill o’r ganrif ddiwetha.
Be am droi’n ôl at y gêm deuluol ‘na o Monopoly i ddangos gymaint mae’r hobi ‘di newid. Wrth ddechra’r gêm, mae’ch mam yn rowlio 3 ac yn glanio ar Whitechapel Road. Ddim yn home run, ond ddim yn ffôl. Mae’ch tad yn glanio ar Chance, ac yn ennill £10 am ddod yn ail mewn cystadleuaeth harddwch. Bach yn weird, ond OK. Mae’ch brawd yn dechra’n dda ac yn llwyddo i wanglo King’s Cross Station am £200. A ‘da chi’n rowlio 4, ac yn gorfod talu £200 o Dreth Incwm yn syth.
Faint o strategaeth aeth i mewn i hwnna? Dim. A tra bod chwaraewyr Monopoly profiadol yn defnyddio dipyn bach o strategaeth, dwi’m yn meddwl fydd Garry Kasparov yn colli cwsg dros y peth. Mae gemau modern yn tueddu i fod yn wahanol. Tra bod ‘na rai gemau tebyg, sy’n pwysleisio lwc dros strategaeth, fel Munchkin neu Fluxx, mae’r gemau yna’n dal i fod yn weddol hwyl i chwarae achos bod ganddyn nhw dipyn o gymeriad, ac yn gadael i chi roi cyllell yng nghefn eich ffrindiau rownd y rîl beth bynnag. Ond mae lot o’r gemau mwya poblogaidd heddiw – eich Catans, Carcassonnes, neu Ticket To Rides, yn cynnwys elfen gref o lwc ond yn pwysleisio’r strategaeth dros bopeth. Ac os dydi hynny ddim yn ddigon da i chi, croeso i chi fentro i fyd Game of Thrones neu Twilight Imperium, lle mae strategaeth yn frenin…
… a wela i chi wythnos nesa.
Yn ôl i Monopoly, ac mae’ch brawd wedi stormio ymlaen, yn berchen ar bob un rheilffordd, ac yn dechrau adeiladu tai ar Bow Street, Marlborough Street, a Vine Street. Yn barod, mae’n dechra dod yn glir sut mae’r cwci wedi crymblo…
A dyna wahaniaeth arall. Yn wahanol i Monopoly, gafodd ei rechu allan heb i unrhywun ei chwarae gynta (Nodyn: sgen i ddim tystiolaeth dros hyn o gwbwl), mae gemau modern yn cael eu chwarae a’u hailchwarae, drosodd a throsodd, gan ffrindiau, teulu a dieithriaid llwyr, i wneud yn siŵr bod bob un mecanwaith yn gweithio a bod un chwaraewr ddim yn debyg o ennill ar ôl llond llaw o dafliadau o’r dîs. Mae gemau modern yn tueddu i fod yn rhyfeddol o agos, y canlyniad ddim yn dod yn amlwg tan ddiwedd y gêm. Dydi hi ddim yn anghyffredin i rywun ennill gêm o Carcassonne neu Small World tra’n meddwl bod ganddyn nhw ddim gobaith gwneud. Sy’n neis.
A sôn am ddiwedd y gêm…
Oriau’n ddiweddarach, mae’ch mam wedi hen fynd, ei strategaeth o ddibynnu’n llwyr ar Whitechapel Road ac Old Kent Road wedi methu. ‘Da chi newydd eich cnocio allan, Park Lane wedi cymryd eich arian i gyd. Dim ond dau chwaraewr ar ôl yn y gêm. A tra bod buddugoliaeth eich brawd yn sicr, yntau’n berchen ar 75% o’r eiddo ar y bwrdd, mae gan eich tad ddigon o bres yn y banc i bara am sbel. Dydi o ddim am roi give up. Mae hi am fod yn noson hir.
Gesiwch be? Dydi cael eich cnocio allan o gêm a gorfod eistedd ar eich tîn tra bod pawb arall yn dal i chwarae ddim yn lot fawr iawn o hwyl. Yn ffodus, mae dylunwyr gemau modern wedi sylweddoli hyn, ac felly mae gemau fel’ma bellach wedi eu taflu i’r bin llawn trais a hiliaeth efo “Hanes” wedi ei sgwennu arno fo. Yn y rhan fwya o achosion, mae gemau modern yn cadw pawb i chwarae tan y chwiban ola.
OK, mae metaffor y gêm o Monopoly wedi hen redeg ei chwrs. Fy mhwynt ydi bod gemau bwrdd modern yn chyffing briliant. A dwi ddim ar ben fy hun yn hyn o beth. Mae rhaglenni fel Tabletop a Beer and Board Games wedi cyflwyno miliynau o bobol i’r hobi. Ddeng mlynedd yn ôl, fyddai siop yng Nghaerdydd yn delio’n unig mewn gemau bwrdd niche wedi methu’n racs. Heddiw mae Rules of Play ar agor yn Arcêd y Castell ac yn gwneud yn dda iawn, diolch yn fawr.
Wir. Ewch yna. Mae o’n briliant.
Yn ddiweddar, mae dau grŵp o fy ffrindiau wedi darganfod gemau bwrdd yn gwbwl annibynnol ohona i, a dwi wedi cyflwyno’r hobi i fwy ohonyn nhw. Anghofiwch am chwyldro Russell Brand – dyma’r chwyldro go iawn. The geeks shall inherit the Earth.
Felly. Os ‘da chi’n darllen hwn, debyg bod chi’n ddigon meddwlagored i bicio mewn i Rules of Play neu’ch siop gemau leol, neu chwilio drwy’r holl siopau gemau annibynnol ar y we (dim Amazon – duh), a dewis y gêm sy’n edrych fel y ffit gora i chi a’ch ffrindia. A gewch chi hwyl. Dwi’n gaddo.
A pam ddim gadael i fi wbod sut aeth hi? Ac os ‘da chi’n chwarae gemau bwrdd yn barod, croeso i chi adael sylw am hwnna hefyd. Wnewch chi ddim, ond waeth i fi drio bod yn gwrtais.
O.N. Dwi ‘di bod yn trio ffeindio lle i’r fideo yma am sbel, ond ddim yn gwbod lle i sticio fo. Darlith gan rywun o wefan Shut Up and Sit Down am “oes aur” ddiweddar gemau bwrdd. Mae’r boi dipyn bach yn smarmy, ond mae ‘na lot o bwyntia da ganddo fo, yn enwedig yn agosach at ddiwedd y fideo. Gwatsiwch o os oes ganddoch chi 40 munud i sbario. Ac os ‘da chi’n darllen hwn, mae ganddoch chi 40 munud i sbario.