Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 2, 2014.
Dwi ‘di bod yn pendroni sut i ddechrau’r cofnod yma – sut i wneud o’n glir faint o ffan Nintendo ydw i. Fedra i ddim gwneud hwnna mewn paragraff. Sori. Gofynnwch i unrhywun sy’n fy nabod i. Wnawn nhw ddeutha chi.
Neu jyst gwyliwch hwn.
Llawenydd pur.
Mae ‘na lot fawr iawn wedi ei sgwennu am broblemau diweddar Nintendo yn dilyn methiant eu consol diweddara, y Wii U. Ac mae gan bawb a’u nain eu syniadau am sut fedrith y cwmni droi petha rownd. Bo-ring.
Ia. Wel. Chi gliciodd ar hwn. ‘Da chi’n mynd i ista lawr, dysgu am fy hanes i efo consols cartre Nintendo, darllen fy sylwadau i ar ddyfodol y cwmni, a ‘da chi’n mynd i licio fo. Os nad oes ‘na flog Cymraeg arall ar ddiwylliant nyrd fysa’n well ganddoch chi ddarllen?
Na?
‘Na ni, ta.
NES
Cyn y Nintendo Entertainment System, roeddwn i ‘mond ‘di chwarae gemau ar yr Amstrad CPC 464. O’n i’n licio fo a phopeth (hoff gêm – Kwik Snax!) ond doedd o ddim yn berffaith, coeliwch neu beidio. I lwytho gêm, er enghraifft, roedd rhaid i chi ista drwy hwn:
Bob tro. A weithia, roedd ‘na ddwy gêm ar un ochr caset – ia, caset – oedd yn golygu bod rhaid i chi lwytho’r cynta, a wedyn llwytho’r ail. Jyst chwaraewch y fideo diwetha ‘na ddwywaith i ailgreu’r profiad yna.
Felly pan gyrhaeddodd y NES yn ein tŷ, fi’n chwech oed, roedd o fel bod alien wedi glanio o dan y teledu. Roedd y gemau’n llwytho’n syth! Ac yn edrych fel’ma! Ac yn… wel, jyst yn well. Fedra i ddim gorbwysleisio’r effaith gafodd y NES arna i. Ac er fy mod i dal yn ifanc, fy nghasgliad o gemau ddim yn fawr, dyma’r system wnaeth agor fy llygadau i bosibiliadau gemau fideo.
Hoff gêm: Super Mario Bros. 3
Pan o’n i’n fach iawn, dyma’r peth mwya cyffrous i fi weld erioed (oni bai, ella, am Teenage Mutant Ninja Turtles 2: The Secret of the Ooze):
Fyswn i ‘di gallu marw’n hapus ar ôl gwatshiad hwnna. A doedd o ddim yn dangos unrhywbeth o’r gêm, hyd yn oed! A pan gyrhaeddodd y gêm o’r diwedd, ar fore Dolig… waw. Mae pobol yn dal i’w gysidro fel un o’r gemau gorau erioed, ac am reswm da. Os ‘da chiddim ‘di chwarae Mario 3, mae ganddoch chi gwestiyna difrifol iawn i’w gofyn amdanoch chi’ch hun.
SNES
Fy hoff gonsol erioed, o bosib. Dyma’r pwynt lle ddechreuais i lyncu popeth mewn cylchgronau Nintendo, wnaeth fy nhroi i’n erbyn bob un consol arall am tua ugain mlynedd. Dim jôc, do’n i ddim yn berchen ar gonsol oni bai am rai Nintendo rhwng y Sega Game Gear a’r Xbox 360. Mae ‘na gap mawr yn fy mhrofiad i o gemau consol, a dwi ddim yn hapus am y peth, ond… ‘motsh. Mae’r SNES yn dal i fod yn briliant.
Dyma’r pwynt hefyd lle ddechreuais i a ‘mrawd brynu mwy a mwy o gemau. Roedden ni’n ddigon lwcus i gael siop gemau wych ar stepan ein drws, ACME Games (sydd bellach wedi symud i Landudno, ac yn gwerthu gemau bwrdd erbyn hyn). Roedd ganddyn nhw ddewis diddiwedd o gemau ar eu silffoedd, gan gynnwys rhai o America a Siapan. Yn fy nghasgliad gemau SNES felly, rhwng clasuron fel Super Mario World, A Link To The Past a Street Fighter II, mae ‘na fersiwn Siapaneaidd o Final Fight 3, a gemau astrys o America fel Space Megaforce a Knights of the Round.
Y Super Nintendo, yn fwy nag unrhyw system arall, wnaeth fy nhroi yn gamer – gemiwr? Cyfieithiadau Cymraeg ar gerdyn post, os gwelwch yn dda – yn hytrach na rhywun oedd ‘mond yn chwarae gemau o bryd i’w gilydd. Mae gen i gymaint o atgofion yn gysylltiedig â’r peth: ffraeo’n wyllt efo fy mrawd dros gemau o NBA Jam; treulio diwrnod Dolig i gyd yn chwarae Donkey Kong Country, fy Nain yn gwylio’r holl beth yn ddryslyd; y gêm Super Star Wars (yn hytrach nag unrhyw ffilm) yn fy nghyflwyno i’r gyfres Star Wars… ac wrth gwrs…
Hoff gêm: Earthbound
Fy hoff gêm erioed.
Mae stori Earthbound yn hir ac yn ddiddorol. Wna i sgwennu cofnod amdano fo ar ryw bwynt yn sicr. Os ‘da chi isio dysgu’r holl beth rwan, ewch drwy’r wefan wych starmen.net, a wela i chi wythnos nesa.
Fersiwn byr: Earthbound – Mother 2 yn Siapan – ydi’r ail gêm yng nghyfres Mother, a’r unig un i gael ei ryddhau y tu allan i Siapan. Er ei fod o’n cael ei gysidro’n un o’r gemau gorau erioed gan lawer, wnaeth o fethu’n llwyr yn America, a gafodd o ddim ei ryddhau yn Ewrop. Ges i fy nghopi Americanaidd i o ACME. Dwi weld gweld copiau yn mynd am £500 ar eBay yn ddiweddar. Diolch byth, os oes ganddoch chi Wii U, mae o ar gael i’w lawrlwytho erbyn hyn. Mae o werth prynu Wii U jyst i wneud hwnna.
Fel dwi’n deud, dwi’n bwriadu sgwennu cofnod manylach am Earthbound, ond am y tro: dwi’n licio popeth amdano fo, o’r hiwmor, i’r stori, i’r darn yma, i’r gerddoriaeth…
O, y gerddoriaeth…
Dyna ni am y tro. Fydd ‘na lot mwy am Earthbound yn y man, ond mae angen i bawb ei chwarae ar ryw bwynt. Os ‘da chi ddim ‘di gwneud, dwi’m isio siarad efo chi. Gadewch fi lonydd.
N64
Dwi erioed wedi ymateb i gêm fel wnes i wrth droi’r N64 ymlaen am y tro cynta, a chwarae Super Mario 64. Roedd neidio o hwn i hwn fel camu i blaned arall. Wnes i chwarae fo non-stop am fisoedd.
Es i dipyn bach yn nyts yn ystod oes y Nintendo 64, yn prynu mwy o gemau nag o’n i eu hangen. Fel Command & Conquer 64 a Buck Bumble.
O diar. Doedd y N64 ddim yn agos at fod mor boblogaidd â’r Sony Playstation, y dewis o gemau ddim mor eang, ond dyma fy hoff gonsol ar ôl y SNES, o bosib. Mae gan pawb o gwmpas fy oed i atgofion melys o chwarae Goldeneye 007 neu Mario Kart 64 efo ffrindiau, ac mae ‘na reswm pam bod pobol yn cynhyrfu pan ddeith yr N64 allan mewn parti hyd heddiw. Roedd o’n barhâd o’r SNES i fi, mewn lot o ffyrdd, ac er bod o dipyn bach yn llychlyd bellach, ac wedi ei orchuddio â sticeri Perfect Dark sydd wedi gweld dyddiau gwell, mae ‘na dal le iddo fo o dan fy nheledu.
Hoff gêm: ymm…
Fedra i ddim dewis un. Fedra i ddim. Goldeneye 007 oedd yr un cynta ddaeth i’r meddwl. Dwi’n dueddol o roi gêm yn ôl ar y silff ar ôl i’r credits rowlio am y tro cynta, ond orffennais i bob un dim ar Goldeneye. Gorffen bob lefel bedwar gwaith, a datgloi’r ‘cheats’ i gyd. Wnaeth o bron fy lladd i, ond wnes i o.
Ond wedyn mae ganddoch chi The Legend of Zelda: Ocarina of Time, ella’r gêm orau erioed. Neu Super Mario 64. Neu Mario Kart 64. Neu Banjo-Kazooie. Neu Lylat Wars. Neu Conker’s Bad Fur Day. Neu 1080 Snowboarding. Neu WWF No Mercy. Neu F-Zero X.
Sophie’s choice, myn uffar i.
Gamecube
Y blynyddoedd coll. Wnes i brynu un pan o’n i’n y chweched dosbarth, ac er mod i ‘di chwarae ar y Gamecube bron bob diwrnod ar ôl ysgol, yn pwmpio lot, lot gormod o oriau i mewn i gemau fel The Return of the King a Timesplitters 2, es i i’r coleg o fewn cwpwl o flynyddoedd, a ddaeth y Gamecube ddim efo fi. Fel canlyniad, wnes i ddim chwarae lot o’r gemau gora ar y system, fel Metroid Prime, Eternal Darkness, a Pikmin.
Gollais i ddiddordeb mewn gemau dipyn bach yn ystod y cyfnod yma, oni bai am un neu ddau o bethau ar y PC. A doedd y Gamecube ddim yn llwyddiannus iawn beth bynnag. Wedi meddwl, ella y dylswn i ‘di brathu’r bwled a phrynu Playstation 2.
Mae’r fanboy Nintendo sy’n dal i guddio y tu mewn i fi newydd sgrechian.
Hoff gêm: Sonic Mega Collection
Mae o’n deud lot ma’r gêm wnes i chwarae fwya ar y Gamecube oedd casgliad o gemau Sonic the Hedgehog wnaeth ymddangos gynta ar y Sega Megadrive. Ac er bod ‘na lot o gemau gwell ar y system, a minnau hyd yn oed yn berchen ar rai ohonyn nhw, fel Super Mario Sunshine, The Wind Waker, Super Smash Bros. Melee… c’mon. Sonic 1 – 3, Sonic & Knuckles, Sonic 3D, Sonic Spinball, a Dr. Robotnik’s Mean Bean Machine ar un ddisg? Game over.
Wii
Y Wii. Un o’r consols mwya llwyddiannus erioed. Hoff system gemau eich nain. Unig system gemau eich nain. A cocyn hitio bob un nyrd erioed. Mae Adam Koralik yn crynhoi’r holl betha o’i le efo’r Wii yn ei ffordd ddihafal ei hun. A dwi’n tueddu i gytuno efo lot o’i bwyntia.
Ond er hynny i gyd, ges i lot o hwyl efo’r Wii, yn benna achos o’n i’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd, yn fy nhŷ fy hun. Bron i bob un Dydd Sul, y drefn oedd mynd i gael brecwast (yn famma neu famma), wedyn treulio’r pnawn yn fy lle i yn chwara Wii Sports, neu Wii Sports Resort, neu Mario Kart Wii, neu Excite Truck, neu Guitar Hero 3. Ac efo’r gwasanaeth Virtual Console yn gadael i chi lawrlwytho clasuron y gorffennol, gafodd Mario Kart 64, Streets of Rage a Bomberman lot o sylw hefyd.
Ac er bod chwarae ar ben eich hun ddim hanner mor hwyl, y Wiimote yn troi gemau perffaith dda fel Madworld yn brofiad chydig yn rhwystredig, mae ‘na lot o betha da am y Wii. A’r peth gora un, yn fy marn i…
Hoff gêm: Donkey Kong Country Returns
Mae ‘na gemau gwell ar y Wii. Dwy gêm, i fod yn fwy penodol: Super Mario Galaxy 1 & 2. Ond roeddwn i’n ffan enfawr o’r gema Donkey Kong Country ar y SNES. A pan glywis bod Retro, y cwmni tu ôl i Metroid Prime, yn gwneud gêm Donkey Kong Country newydd sbon, o’n i’n hapusach na hwn.
A roedd y gêm hyd yn oed yn well nag o’n i wedi gobeithio. Y gorau o’r gyfres. A pan ‘da chi’n ei orffen, ‘da chi’n datgloi’r ‘Time Trials’, lle mae’r gêm yn herio chi i orffen bob lefel cyn gynted ag y gallwch chi, a ‘da chi’n sylweddoli bod bob un lefel wedi ei gynllunio fel y medrwch chi eu chwipio drwyddyn nhw fel Sonic the Hedgehog os ‘da chi isio.
Waw. Sut ‘da chi’n topio hwnna?
Wii U
O diar.
Gwrandwch. Dwi’n hoff iawn o’r Wii U. Dwi ddim ‘di bod yn berchen ar un am amser hir iawn, ond mae Super Mario 3D World ymhlith goreuon y gyfres Mario, Zombi U yn arbrawf reit ddiddorol (ac yn lot o hwyl, ar y cyfan), The Wind Waker HD yn syfrdanol o hardd, a NES Remix yn edrych yn dda (er ‘mod i ddim ‘di cael cyfle i’w chwarae eto). A dwi ‘di sôn bod Earthbound ar gael i’w lawrlwytho?
Wel, os ddim, mae Earthbound ar gael i’w lawrlwytho.
Earthbound.
Ac mae ‘na fwy o stwff da ar ei ffordd, gan gynnwys Mario Kart 8, gêm Super Smash Bros. newydd, Bayonetta 2, ac yn fuan iawn, Donkey Kong Country: Tropical Freeze.
Ond dydi o ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn, cynulleidfa enfawr y Wii ddim wedi cymryd yr abwyd, y Playstation 4 wedi gwerthu mwy mewn ychydig dros fis na wnaeth y Wii U mewn blwyddyn.
Felly sut ma troi petha rownd? Nintendo, os ‘da chi’n darllen hwn – sydd, os dwi’n onest, yn annhebyg – grandwch arna i. ‘Da chi ddim yn dechra blog am gemau heb wbod yn union sut ma’r busnes yn gweithio.
1. Marchnata, Marchnata, Marchnata
Dwi’n teimlo’n fudr yn sgwennu hwn, jyst achos dwi’n tueddu i gytuno efo Bill Hicks am farchnata. Ond dydi lot o bobol dal ddim yn gwybod bod y Wii U yn bodoli – ac os ydyn nhw, mae nhw’n meddwl ei fod o’n rywbeth ‘da chi’n ei ychwanegu at y Wii yn hytrach na system cwbwl newydd. Yn bersonol, dwi ddim ‘di gweld yr un hysbyseb ar gyfer y Wii U y tu allan i wefannau gemau fel IGN. Mae hwn yn broblem. Yn anffodus, mae hysbysebion yn gweithio. A tra bod hynny’n wir, waeth i Nintendo ecsbloitio’r system ddim.
2. Gemau, Gemau, Gemau
Erbyn hyn, dydi’r rhan fwya o gwmniau ddim yn cyhoeddi gemau gwreiddiol ar y Wii U, achos dydyn nhw jyst ddim yn gwerthu. Yn ddiweddar, er enghraifft, gafodd bwndel o gynnwys ychwanegol i Batman: Arkham Origins ei ganslo ar y Wii U. Ar y funud, mae bron i bawb – oni bai am Activision ac Ubisoft – wedi gadael y Titanic. A pwy all feio nhw? Mae busnes isio gwneud pres, wedi’r cwbwl.
Felly be sy yn gwerthu ar y Wii U? Wel… Mario.
Zelda.
Pikmin.
Ac, mae’n debyg, Donkey Kong, Metroid, Kirby, Yoshi, F-Zero, Pokemon, Smash Bros., Animal Crossing, Star Fox, ac yn y blaen. Gemau Nintendo sy’n tueddu i shifftio consols Nintendo. Pwy fysa’n meddwl?
Erbyn hyn, does gan Nintendo ddim llawer o ddiddordeb cystadlu yn erbyn y PS4 a’r Xbox One, a chwydu Call of Duty, Battlefield a Grand Theft Auto allan yn ddiddiwedd. Ac mae hynny’n ddigon teg. Ond mae gan Sony a Microsoft ddegau o gemau’n dod allan bob mis, a degau o gwmniau sy’n fodlon eu cynhyrchu.
Be ydi’r ateb felly? Wel, mae Nintendo wedi cymryd cam i’r cyfeiriad cywir yn ddiweddar gan gyhoeddi The Legend of Zelda: Hyrule Warriors gan Tecmo Koei. Er bod o’n fwy o spinoff o’r gyfres Zelda na gêm yn y prif gyfres, mae o’n edrych yn ddigon tebyg i gêm Zelda lawn i ddenu sylw rhywun. Ar ben hynny, Retro sydd wedi cynhyrchu’r gemau Donkey Kong a Metroid diweddara, ac mae’r Smash Bros. newydd wedi ei wneud gan Namco. Dyna’r ateb. Os medrith Nintendo gael help cwmniau eraill i gynhyrchu lot mwy o gemau yn eu cyfresi craidd (tua un y mis, ella?), fydd y Wii U yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i’r consols eraill, a fydd dim rhaid disgwyl misoedd a misoedd rhwng gemau da.
Dychmygwch gêm Fatal Frame wedi ei wneud gan y tîm tu ôl i Resident Evil, er enghraifft. Neu’r criw tu ôl i Rayman Legends yn gwneud gêm Yoshi. Neu hyd yn oed rai o fawrion y byd gemau bwrdd yn helpu dylunio gêm Mario Party newydd.
3. Mother 4
Neu Earthbound 2 i fi a chi. Dydi o ddim wedi ei gyhoeddi eto, ac mae Shigesato Itoi, yr dyn tu ôl i’r gyfres, wedi dweud bod y peth yn “amhosib”. Ond pwy ydi o i ddeud hynny? Dwi, awdur blog iaith Gymraeg am gemau does neb (hyd yn hyn) yn ei ddarllen yn mynnu bod o’n digwydd. Peidiwch a fy siomi i, Nintendo.