Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 1, 2014.
Helo. Croeso. Steddwch lawr. ‘Da chi isio coffi? Na? Siwtiwch eich hun ta.
Felly. ‘Da chi isio gadael eich bywyd llwyddiannus, eich cariad, eich plant, a mynd i fyw yn selar eich rhieni. ‘Da chi isio bod yn nyrd go-iawn. Llongyfarchiadau ar eich penderfyniad. Ond fedrwch chi ddim ei wneud o ar ben eich hun. Mae ‘na bob math o adnoddau ar y we i’ch helpu chi. Oeddech chi’n gwbod bod y we wedi ei ddyfeisio gan nyrds?
Na?
*ochenaid*
‘Da ni am fod yma am sbel.
Rhwydweithiau
Wedi ei ffurfio gan y digrifwr Chris Hardwick, mae’r rhan fwyaf o bobol yn cysylltu Nerdist â’u cyfres o bodlediadau, ac am reswm da. Hyd yn hyn, mae Chris Hardwick wedi recordio bron i 500 o bodlediadau yn siarad â sêr y byd diwylliant poblogaidd. Sgyrsiau anffurfiol ydyn nhw, yn hytrach na chyfweliadau, Hardwick yn ddigon hapus i adael i’r sgwrs fynd i unrhyw gyfeiriad, y rhaglen yn rowlio ymlaen ar don o frwdfrydedd. Ond mae ‘na raglenni eraill ar y rhwydwaith sydd werth eich amser chi: The Indoor Kids, er enghraifft, gan Emily Gordon a Kumail Nanjiani, sy’n sôn am gemau fideo mewn ffordd digon difyr, er eu bod nhw’n dueddol o siarad am yr un gemau drosodd a throsodd. A fy ffefryn personol i, ac ella fy hoff bodcast yn y byd, The Mutant Season. Mae o wedi bod yn rhedeg am dros ddwy flynedd, wedi ei gyflwyno gan Gil Dominguez-Letelier, oedd yn naw oed pan ddechreuodd y rhaglen. Mae o bellach yn unarddeg, a ddim yn dangos unrhyw arwyddion o slofi lawr yn ei henaint. Gwerth gwrando ar y rhifyn gyda Steven Yeun o The Walking Dead, lle mae Gil yn dysgu am bob math o lyfrau, comics, ffilmiau a rhaglenni teledu am y tro cynta, ei frên bron yn gorboethi efo’r holl gynnwrf.
Mae gan Nerdist sianel Youtube hefyd, sydd werth tanysgrifio iddo fo jyst oherwydd y rhaglen All Star Celebrity Bowling.
Sôn am Youtube…
Geek and Sundry ydi babi Felicia Day (Buffy the Vampire Slayer, The Guild) a Kim Evey (Gorgeous Tiny Chicken Machine Show), ac yn cynhyrchu pob math o fideos Youtube o safon uchel. Mae ‘na ormod o stwff da ar y sianel i’w restru famma, ond dyma ddewis bach o fy ffefrynnau…
Tabletop
Wedi ei gyflwyno gan Wil Wheaton (Stand By Me, Star Trek: The Next Generation, The Big Bang Theory), arwr nyrds dros y byd, y dyn ddaeth i fyny efo Wheaton’s Law, a hen foi iawn. Tabletop ydi’r gyfres fwya poblogaidd ar Geek and Sundry, lle mae Wheaton a chriw o enwogion y we yn ista lawr a chwarae gemau bwrdd. A dyna ni. Drychwch ar faint o wylwyr mae’r fideo uchod wedi ei gael. Pan dwi’n sgwennu hwn, mae ‘na bron i filiwn a hanner o bobol wedi gwatshiad y bennod yna. Bellach, mae gwerthiant gêm fwrdd yn mynd drwy’r to os ydi’r gêm yna’n ymddangos ar Tabletop – ffenomenon sydd yn cael ei alw’n ‘The Wheaton Effect’. Mae’r rhaglen wedi cyflwyno’r hobi i filiynau o bobol, fi’n un ohonyn nhw. Ac mae gemau bwrdd yn fusnes mawr iawn erbyn hyn, hen atgofion chwerw o Monopoly a Ludo wedi eu gadael ar ôl. Er bod ‘na lot o resymau am hynny, a minnau’n bwriadu mynd i ddyfnder am hyn mewn cofnod arall, mae’n rhaid i Wil Wheaton a holl griw Tabletop gymryd lot o’r clod.
Written By A Kid
Reit. Dyma’r syniad. ‘Da ni’n cael plant i adrodd stori nyts oddi ar dop eu pennau. A wedyn ‘da ni’n ffilmio fo.
Sut uffar does neb ‘di gwneud hwn o’r blaen?
Co-Optitude
Mae’n amhosib drwglicio Felicia Day. Yn y gyfres yma, mae hi a’i brawd Ryon yn chwarae’r holl gemau wnaethon nhw fethu allan arnyn nhw yn ystod eu plentyndod. A dydyn nhw ddim yn llwyddiannus iawn.
Unrhywbeth gan Amy Dallen
Wedi dod i sylw’r byd gynta ar bennod o Tabletop, mae Amy Dallen erbyn hyn yn cyflwyno holl gynnyrch Geek and Sundry ar gomics, gan gynnwys ei rhaglen wythnosol ei hun. Ac mae ganddi fwy o frwdfrydedd na Chris Hardwick a Gil o’r Nerdist efo’i gilydd, os ydi hwnna’n bosib. Dwi’n ei charu hi chydig bach.
O, a ‘da chi’n sylwi faint o gyfrannwyr Geek and Sundry sy’n ferched? Dydi o ddim yn wir bellach mai dim ond dynion sy’n licio diwylliant nyrd. O bell ffordd. Ac os yda chi’n dal i feddwl hynny, mae’n bur debyg eich bod chi’n siarad drwy eich het.
Gemau Fideo
Yr unig le dwi’n mynd am yr holl newyddion diweddara am gemau. Be arall ‘da chi angen?
O, ia. Y dadi. Mae James Rolfe wedi bod yn cynhyrchu fideos yr “AVGN” am ddeng mlynedd bellach, y cymeriad yn adolygu cyfres ddiddiwedd o’r gemau gwaethaf yn y byd i gyfeiliant ballet o regi creadigol. Ella nad ydi’r hiwmor wastad yn taro deuddeg, ond mae’r gyfres yn dal i fod yn hynod o boblogaidd, gyda ffilm ar y ffordd. Ac mae ‘na lot fawr iawn o gynnwys arall ar wefan James, fel y gyfres gynhwysfawr o fideos ar ffilmiau arswyd, Monster Madness.
Sianeli Youtube
Erbyn hyn, mae 95% o Youtube yn fideos am gemau fideo. Mae hwnna’n ffaith. Does ‘na ddim tystiolaeth sy’n ei brofi o, ond mae o’n ffaith. Fedrwch chi dreulio blynyddoedd ar yr holl sianeli gwahanol. Wna i ddim rhestru pob un, ond dyma dri all gymryd eich ffansi.
Mewn cyferbyniad i’r Angry Video Game Nerd, mae “Johnny Millennium” a’i ffrind “Rob Man” bron yn rhy hapus, yn sôn am y gwaith celf ar focs Mega Man 2 fel eu bod nhw’n trafod y Mona Lisa. Ond does dim dwywaith eu bod nhw’n gwbod lot am y pwnc, a’u hanesion am blentyndod o chwarae gemau yn bownd o godi gwên ar wyneb unrhywun aeth drwy lot o’r un profiada.
Cyflwynydd hoffus arall, mae “Metal Jesus” (waw!) yn arbenigo mewn hen gemau PC, yn ogystal â gemau consol sydd wedi eu hen anghofio. Mae o hefyd yn wirion o hapus, popeth yn ei gasgliad yn “super fun” neu’n “total hidden gem”. Mae o’n ddigon i gynhesu fy nghalon oer, du.
A. Dyna welliant. Dipyn bach o sinigaeth. Mae lot o bobol yn nabod Adam Koralik fel “Feuhorbe”, y gwas bach ar Beer and Board Games (gweler isod), ac mae o hefyd yn cyd-redeg y sianel Game Society Pimps gydag Emre Cihangir ac Aaron Yonda o Blame Society Productions (isod eto). Ar ei sianel bersonol, rhwng fideos sych yn dangos i chi’n union sut i llnau eich Sega Dreamcast (o’r diwedd!), mae Adam yn dueddol o fynd ar rants sy’n para i fyny at hanner awr ar ddyfodol llwm y diwydiant gemau, be mae’r cwmniau mawr yn eu gwneud o le, a.y.y.b. Dwi’n licio’r boi ‘ma.
Gemau Bwrdd
Fy hoff beth ar y we. Ffwl stop. Mae Beer and Board Games wedi ei gynhyrchu gan Blame Society Productions, aka Matt Sloan ac Aaron Yonda, sydd hefyd yn gyfrifol am y gyfres boblogaidd Chad Vader (12 miliwn o wylwyr!), a’r gyfres ffilmiau wych Welcome To The Basement, ymhlith pethau eraill. Mae’r syniad y tu ôl i’r rhaglen yn syml: cael criw o ddigrifwyr improv o Wisconsin at ei gilydd, sticio gemau bwrdd o’u blaenau nhw, a gwylio nhw’n meddwi’n dwll. Mae dwy ran i bob pennod, gyda pawb yn weddol sobor yn y cynta, a pethau’n dueddol o ddisgyn i ddarnau yn yr ail, mewn storm o regi a gweiddi a ffraeo. Unwaith eto, mae ‘na ormod o benodau da i’w rhestru, ond ella mai fy hoff un ydi Mr. Gameshow / Improv Comedy Game. Mae o’n dechrau’n ddigon ara deg, ond wedi i’r criw ddechrau chwarae gêm lle’u bod nhw’n trio gwneud i bawb arall chwerthin, mae o’n mynd i’r gêr nesa, bron i bob un lein yn glasur.
“Are you done now?”
“I’m waiting to die.”
“Pretend to be a baby with a big head.”
“Who’s the best? The baseball coach!”
Jyst gwatshiwch o.
A bob yn ail wythnos, am $10 yn unig, gewch chi wylio’r sioe yn recordio’n fyw dros Youtube a chyfrannu syniadau, gofyn cwestiynau a.y.y.b. Dwi yna’n aml, yn aros yn effro’n wirion o hwyr, yn lle mynd allan i’r clwb fatha rywun normal.
We’re through the looking glass here, people.
Pinacl nyrdrwydd, gafodd cyfres Youtube The Dice Tower ei barodïo’n ddiweddar ar The IT Crowd. Er bod popeth – popeth – am y rhaglen yn amaturaidd, y cyflwynwyr yn Efengylwyr Adain Dde, a’r holl beth yn atgyfnerthu bob un stereoteip am nyrds erioed, does neb yn gwybod mwy am gemau bwrdd na sefydlwr The Dice Tower, Tom Vasel. Mae ei wefan, sy’n cynnwys miloedd o fideos a phodlediadau, yn cynnwys mwy o ddeunydd ar y hobi nag unrhyw wefan arall (oni bai, ella am Board Game Geek) . Ac os does ganddoch chi ddim diddordeb mewn gemau bwrdd o gwbwl, mae “sgiliau” cyflwyno Vasel a’r criw yn bownd o godi chycl neu ddau.
Mae gemau bwrdd modern yn dueddol o fod yn lot mwy cymhleth na’ch Gêm y Steddfods traddodiadol, ac mae mynd drwy’r llyfr rheolau yn trio deall popeth eich hun yn gallu bod braidd yn anodd weithia. Dyna lle mae Watch It Played yn dod i mewn, yn cynhyrchu fideos sy’n esbonio rheolau bob math o gemau mewn ffordd hawdd iawn i’w dilyn, cyn eich arwain drwy rownd o’r gêm i ddangos i chi sut mae o’n chwarae. Mae’r prif gyflwynydd, Rodney Smith, yn hoffus iawn, ac mae’r sianel wedi ei anelu at deuluoedd, sy’n gwahaniaethu hwn rhag pethau fel Beer and Board Games, a hyd yn oed Tabletop. Y ffordd orau i ddysgu sut i chwarae gêm fwrdd.
Cyffredinol
Podlediad gan y cyfarwyddwr Kevin Smith (Clerks, Dogma, Jay and Silent Bob Strike Back, y fideo hollol anghredadwy yma), yn sôn am y byd comics yn gyffredinol, a Batman yn fwy penodol. A pham ddim? Achos ei statws fel un o bigwigs y byd ffilm, mae o’n llwyddo i ddenu mawrion y byd comics ar y sioe, fel Stan Lee, Adam West, a’r awdur Grant Morrison, sy’n sôn am sut y bu bron iddo fo roi ei enaid i un o Dduwiau Voodoo ar ôl cymryd llwyth o gyffuriau. Ym. Hefyd, mae Kevin yn crio achos ei gariad tuag at Batman yn ystod bob un sioe, bron. Sy’n neis. A chydig yn rhyfadd.
The More You Nerd / Obscure Reference
Podlediadau digon difyr am ddiwylliant nyrd gan griw o ffrindiau o’r UDA. Tra bod rhifynnau o The More You Nerd yn trafod un pwnc penodol bob wythnos, mae Obscure Reference yn fwy rhydd a chyffredinol. A dyna i gyd ‘sgen i i ddeud am hwnna.
Sianel Greg Benson, gŵr Kim Evey o Geek and Sundry, a gwestai ar Beer and Board Games o bryd i’w gilydd. Does ‘na ddim lot fawr iawn o ddiwylliant nyrd ar sianel Mediocre Films (oni bai am dripiau Greg i gonfensiynau fel Comic-Con). Mae o jyst yn stiwpid o ddigri, ei gastiau ar aelodau o’r cyhoedd yn athrylithgar ar adegau:
Yn fy hoff gyfres o fideos, mae Greg a’i ffrindiau’n herio ei gilydd i ofyn am betha hurt mewn siopau ar ddiwrnodau prysura’r flwyddyn. Wele:
Ac yn y fideo yma, mae’n falch gen i ddeud ‘mod i wedi helpu Greg efo’i restr siopa. Sgipiwch i 2:54. Neu gwyliwch weddill y fideo gynta. Be arall ‘da chi am neud?
A dyna ni. Reit. Gwyliwch y fideos yma i gyd, a fyddwch chi wedi dechra ar y daith hir i fod yn nyrd… a fydd ganddoch chi hefyd ryw deimlad gwag, annifyr, reit yng nghrombil eich enaid. Does ‘na ddim byd allwn ni neud am hynny. Mae o jyst yn ran o’r broses. Ymlaciwch.