Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 20, 2014.
Dwi ‘di gwneud adolygiad fideo.
Dwi’n gwbod. Clyfar, de?
A pa gêm well i ddechrau efo fo na Enaid Coll? Y gêm mainstream cynta i gael ei ryddhau yn Gymraeg. Cŵl, ia?
Mae gen i fwy o syniada ar gyfer cynnwys fideo i’r wefan. Mae nhw’n cymryd oesoedd i roi at ei gilydd, ond gadewch i fi wbod os ‘da chi isio eu gweld nhw. Ac, unwaith eto, os oes rhywun isio cyfrannu i’r blog – efo erthygl, fideo, neu be bynnag – croeso i chi wneud.
Gêm briliant (gobeithio) yn dod allan bob wythnos dros y mis nesa (Donkey Kong Country: Tropical Freeze; Thief; South Park: The Stick Of Truth; a Dark Souls 2), felly mae ‘na ddigon i’w drafod a’i chwarae. Ond am rŵan, mwynhewch y fideo, a wela i chi’n fuan.