Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mawrth 5, 2014.
Ia, ia, s’mai. Hei. Wnes i adolygiad fideo yn ddiweddar. Dyma fo eto. Achos.
Fydd ‘na fwy o fideos yn dod yn y man, ond mae nhw’n cymryd amser, felly dwi dal isio canolbwyntio ar gofnodion testun am y tro, os ‘di hwnna’n iawn ganddoch chi. Diolch.
Mae criw IGN wedi bod yn rhestru eu hoff gemau yn ddiweddar. Felly o’n i’n meddwl fyswn i’n bod yn ddiog a gwneud yr un peth. Ond yn anffodus i fi, mae’n debyg mai’r cofnod yma fydd yr un hira eto. Oy vey.
Felly dyma ni – fy 25 hoff gêm. Dwi’n gwbod yn iawn ‘mod i am ddyfaru hwn ar ôl ei gyhoeddi o. Dwi’n gwbod fydda i wedi anghofio gemau, wedi rhoi rhai gemau’n rhy uchel / isel yn y rhestr, ac yn y blaen. Ond dyna apêl y rhestrau ‘ma. Mae o’n wirion rhestru petha fel’ma yn y lle cynta, a mae pawb yn gwbod hynny, ond dydi hwnna ddim yn stopio pobol rhag dadlau dros y peth. Go for it.
Fel un gafodd ei fagu ar gemau PC a Nintendo, wnewch chi weld bod ‘na ddim lot o stwff Sega / Sony yma. Sori. Os dwi ddim ‘di chwarae nhw, dydyn nhw ddim yn y rhestr, yn amlwg. Hefyd, wnewch chi weld fy mod i ‘di nodi ar ba system oedd y gemau yn y rhestr yn ymddangos. Mae ‘na lot fawr o gemau yn y rhestr sy’n ymddangos ar fwy nag un system, ond dwi jyst ‘di nodi pa system wnes i chwarae’r gêm arno fo gynta. Ac yna ola, dwi wedi trio rhoi dim ond un gêm o bob un gyfres yn y rhestr. Wedi trio. A methu. Mae ‘na fwy nag un gêm o gyfresi Mario a Zelda yma, achos do’n i jyst ddim yn gallu dewis (ac mae’r gemau dwi wedi eu cynnwys yn ddigon gwahanol i gyfiawnhau’r peth). Os oes ‘na gemau eraill yn y gyfres fysa ella wedi cael eu cynnwys gan amgylchiadau gwahanol, dwi wedi eu nodi nhw.
Reit. Y stwff diflas drosodd. Awê.
25. Kwik Snax (Amstrad CPC 464, 1990)
OK. Dydi hwn ddim wir yn un o fy hoff gemau heddiw. Dwi ddim yn debyg o’i chwarae o’n fuan. Ond o’n i isio rwbath yn y rhestr i gynrychioli’r chydig flynyddoedd o chwarae gemau ges i cyn i’r NES lanio yn y tŷ fatha llong ofod. Kwik Snax oedd fy hoff gêm i ar gyfrifiadur cynta’r tŷ, yr Amstrad CPC 464. Dydi o’n ddim byd sbeshal erbyn heddiw, ond ar y pryd, oedd o’n edrych ac yn swnio yn eitha chyffing neis, diolch yn fawr. O’n i’n licio’r gerddoriaeth agoriadol gymaint, wnes i ddysgu ei chwarae o ar y piano. A do’n i ddim yn gallu chwarae’r piano, hyd yn oed. Mae o’n gêm ddigon teidi ‘fyd. Chi ydi Dizzy, un o fascots cynhara’r diwydiant (ac un rhyfeddol o boblogaidd, er y ffaith ei fod o jyst yn ŵy yn gwisgo menig bocsio), yn gwneud eich ffordd o gwmpas lefels gwahanol yn casglu’r holl ffrwytha cyn i’r baddies eich dal chi. Dipyn bach fel fersiwn mwy datblygedig, mwy amrwyiol o Pac-Man, os liciwch chi. Sy’n od, achos do’n i ‘rioed yn ffan mawr o Pac-Man.
Felly. Ella ddylsa Kwik Snax ddim bod yn y rhestr yma, er bod ‘na ddim llawer yn bod efo’r gêm. Ond fy rhestr i ydi o. Felly caewch chi. Ac os ‘da chi isio gwneud rwbath o werth, dysgwch hwn ar y piano:
24. Super Star Wars (SNES, 1992)
Un arall sy’ ella ddim cweit yn haeddu bod yma. Mae o’n gêm blatfform reit dda ar y Super Nintendo, er na fyddech chi ella’n ei roi o ymysg y gemau platfform gora ar y system. Ond (fel bob gêm arall ar y rhestr) mae Super Star Wars yma am reswm personol: y gêm yma, yn fwy na dim byd arall, gyflwynodd fi i Star Wars. O’n i ‘di gweld Return Of The Jedi cyn chwarae’r gêm, ond doedd o ddim ‘di dal fy sylw am ba bynnag reswm. Ella achos ‘mod i ddim ‘di gweld y ffilmia eraill, ella achos ‘mod i’n blentyn stiwpid iawn. Dwi’m yn gwbod. Ond oedd ‘na rwbath am y gêm ‘ma. Ar y pryd, roedd cerddoriaeth y teitla agoriadol yn swnio’n rhyfeddol o debyg i’r gerddoriaeth go iawn. O’n i’n teimlo fel ‘y mod i’n chwarae ffilm.
Fel dwi’n deud: plentyn stiwpid. Ac yn fuan ar ôl hynny, ges i A New Hope (ar VHS, natch). A roedd fy mywyd i wedi newid – er fy mod i ‘di siomi dipyn bach bod Luke ddim yn mynd rownd yn saethu’r crap allan o Jawas fel yn y gêm. O’n i’n ffan o’r gemau eraill yn y gyfres ‘fyd – sef, wrth gwrs, Super Return Of The Jedi a Super The Empire Strikes Back (un o’r teitla gwaetha ar gêm erioed?), ond does dim byd yn cyffwrdd y cynta.
23. Age Of Empires 2 (PC, 1999)
Mae ‘na sawl gêm strategaeth ar y rhestr ‘ma. A dwi ddim yn gallu chwarae gemau strategaeth. O gwbwl. Dwi’n cofio chwarae Age Of Empires 2 dros rwydwaith LAN efo fy ffrindiau Myfyr ac Eirig. A cholli’n racs, dro ar ôl tro. O’n i’n fwy cyfforddus yn cuddio yn y goedwig a byw mewn heddwch yn hytrach na’u hymladd nhw. Ond mae’r math yma o gêm jyst yn hwyl. Mae ‘na rwbath uffernol o hypnotig am wylio gweithwyr mewn pentre ‘da chi ‘di adeiladu jyst yn byw eu bywydau. Does ‘na ddim lot o gemau’n rhoi’r teimlad yna i chi’n well na Age Of Empires 2 (gydag un eithriad i fi – mwy am hwnna nes ‘mlaen). Wnes i ddysgu’r diwrnod o’r blaen bod o bellach ar gael mewn HD ar Steam. O diar. Dyna’r wythnos nesa ‘di mynd.
22. Mega Man 2 (NES, 1988)
Does ‘na ddim lot o gemau NES yn y rhestr ‘ma. O’n i wrth fy modd efo’r system, a wnaeth o newid fy mywyd i’n llwyr, ond llond llaw o gemau o’n i’n dychwelyd atyn nhw drosodd a throsodd. Mega Man 2 oedd un o’r gemau yna. Rhaid ei bod hi’n anodd gwneud gêm blatfform ar y NES yn y dyddiau yna, efo cysgod Mario yn disgyn dros bopeth. Ond roedd gemau’r gyfres Mega Man yn sefyll allan, yn llwyddo i gyflwyno mecanweithiau cwbwl wreiddiol i’r genre, fel yr opsiwn i ddewis pa lefel i chwarae o’r cychwyn cynta. Ac roedden nhw’n anodd. Dwi’m yn siŵr ydw i ‘di gorffen Mega Man 2 hyd heddiw, ond roedd bob un marwolaeth werth o. A dwi’n falch o ddeud bod y gêm yn dal i fod yn briliant, wedi i fi ei chwarae o’r diwrnod o’r blaen. Er bod ‘na lot – fawr – iawn o gemau yn y gyfres, dyma’r un sy’n sefyll allan am yr holl resymau iawn.
Yn y 90au cynnar, hwn oedd y petha mwya epig erioed:
Mae’r hogia yma’n cytuno efo fi:
Hefyd yn y gyfres: Mega Man X
21. Picross 3D (Nintendo DS, 2009)
Fyswn i wedi gallu rhoi Tetris yn y rhestr ‘ma. Yn hawdd. Ar adegau gwahanol o ‘mywyd, dwi ‘di bod dipyn bach yn obsesd efo Tetris, yn gweld y blociau’n disgyn yn ddiddiwedd yn fy nghwsg. Ond o ran gemau pysl, dwi’n meddwl mai Picross 3D ydi fy hoff un. ‘Da chi’n gweld Picross mewn papurau newydd a llyfrau posau o bryd i’w gilydd – ‘da chi’n cael grid, ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio côd rhifyddol i weithio allan pa lun sydd wedi ei gynnwys ynddo fo. Dydi o ddim byd sbeshal, ond mae o’n gêm berffaith i roi ar system symudol, i chi chwarae am ddeng munud pan gewch chi gyfle. Ond mae Picross 3D ar y Nintendo DS yn mynd â pethau i’r lefel nesa wrth droi’r grid i mewn i giwb. Sgen i’m mynadd esbonio mwy amdano fo. Jyst gwatshiwch hwn:
Mae o’n dechrau’n syml, ond yn mynd o wirion o gymhleth yn fuan iawn. Fyswn i’n gallu ei chwarae o am byth.
Hefyd yn y gyfres: Mario’s Picross
20. Rome: Total War (PC, 2004)
Fel Age Of Empires, dwi’n rybish am chwarae’r gemau Total War. Os ‘da chi ddim yn gyfarwydd efo’r gyfres, ‘da chi’n cymryd rheolaeth o deyrnas hanesyddol, ac yn trio concro’r byd drwy gyfuniad o sgiliau rhyfel a stabio eich gelynion yn y cefn. Mae o fel Game of Thrones. Ond… ‘da chi’n gwbod… yn y byd go-iawn. Felly dim mor dda.
Wrth gwrs, mae ‘na mods Game of Thrones ar gael.
Ond fedra i ddim stopio chwarae’r gemau wedi i fi eu dechra nhw. Drwy bob un colled, fy nheyrnas yn mynd yn llai ac yn llai, dwi’n dal i drio. Ac i fi, Rome: Total War ydi’r gêm orau’n y gyfres. Dydw i ddim ‘di chwarae’r gemau diweddara’n y gyfres achos dydi fy PC ddim ‘di bod yn ddigon da tan hyn, ond yn ôl y sôn, dydi’r un o’r gemau ddim wedi bod mor dda â Rome. Felly dwi’n hapus i lwytho’r gêm drosodd a throsodd a gwatshiad yr Ymerodraeth Rufeinig yn crebachu i ddim, er fy holl ymdrechion.
Mae gen i syniad am gyfres fideo am Total War ‘fyd. Gwyliwch y gofod hwn.
Hefyd yn y gyfres: Medieval: Total War, Medieval 2: Total War
19. Sonic The Hedgehog 2 (Sega Megadrive, 1992)
Doedd gen i ddim Megadrive. Roedd gen i Master System a Game Gear, ac yn mwynhau’r gemau Sonic syml ar y systemau yna. Ond gafodd Sonic ei eni ar y Megadrive, ac ar y system yna mae ei gemau ora. Pan ges i wahoddiad i dŷ Gwyn, ffrind fy mrawd, er mwyn chwarae Sonic 2, o’n i braidd yn ddirmygus ohono fo i ddechra. Plentyn Nintendo o’n i, wedi’r cwbwl. Ond ges i fy swyno ganddo fo’n fuan iawn. A blynyddoedd maith wedyn, pan gafodd Sonic Mega Collection ei ryddhau ar y Nintendo Gamecube, ges i gyfle i’w fwynhau o yn fy amser fy hun, yn fy nhŷ fy hun. Mae o bron yn berffaith fel gêm blatfform, dwi’n meddwl. Er bod Sonic 3 yn grêt, dwi ddim yn meddwl bod y gyfres erioed wedi cyrraedd uchelfannau’r gêm yma. Dim o bell ffordd.
Dyma un o fy hoff lefelau mewn unrhyw gêm erioed:
Hefyd yn y gyfres: Sonic The Hedgehog, Sonic The Hedgehog 3, Sonic Chaos
18. Dark Souls (Xbox 360, 2011)
Ges i fy nghyflwyno i Dark Souls drwy’r digrifwr Peter Serafinowicz, oedd yn mynd ymlaen ac ymlaen amdano fo ar Twitter, yn mynnu mai dyma’r gêm gorau iddo fo chwarae erioed. Dydi o ddim yn bell ohoni. Mae Dark Souls yn briliant. Ond ar yr un pryd, dwi’n casau’r dyn dipyn bach ar yr un pryd. Achos mae Dark Souls, fel y gemau Mega Man, yn anodd iawn, iawn.
Mewn oes lle mae gemau’n tueddu i ddal eich llaw, yn rhoi tiwtorial sy’n para oriau i chi cyn i chi allu ddechrau mwynhau’r profiad o chwarae, mae Dark Souls yn sefyll allan. Dydi o ddim yn rhoi lot o help i chi, yn gadael i chi wneud eich camgymeriadau eich hun, ac yn eich cosbi chi’n llym am eu gwneud nhw. Dyna’r unig ffordd wnewch chi ddysgu. Wnewch chi ddiolch i’r gêm un dydd.
Mae o’n cynnwys darn lle mae’n rhaid i chi ymladd dau fos o’r enw Ornstein a Smough. Dyma, ella, ydi’r darn anodda o unrhyw gêm dwi erioed ‘di chwarae. Wnes i dreulio mwy o amser ar y darn yma’n unig nac ydw i ar y rhan fwya o gemau cyfan. Mae jyst gwatshiad fideo o’r darn yna’n ddigon i roi hunllefa i fi.
Ond dydi hyn i gyd ddim yn amharu ar y ffaith bod y gêm yn briliant. Mae o’n fwy atmosfferig nag ella unrhyw gêm arall, y teimlad o anobaith sy’n eich llenwi chi’n wirioneddol llethol ar adegau. Ond pan ‘da chi’n llwyddo, ac yn torri drwy’r anobaith ‘na, does ‘na ddim teimlad gwell. Mae popeth yn iawn efo’r byd. Ond jyst am funud, achos gewch chi’ch cnocio ar eich tîn yn fuan wedyn.
Ac mae Dark Souls 2 allan mewn llai na phythefnos. Dwi’n edrych mlaen. Lot. Ond ar yr un pryd… help.
17. Guitar Hero 3 (Nintendo Wii, 2007)
Oedd y gemau Guitar Hero, Rock Band a.y.y.b. yn enfawr am gwpwl o flynyddoedd, stafelloedd byw pawb wedi eu llenwi efo offerynnau plastig, rhad yr olwg. Ond does neb yn eu chwarae nhw bellach. Mae o fel bod pawb oedd unwaith wrth eu boddau efo nhw wedi penderfynu dros nos bod y gemau yna dipyn bach yn crap wedi’r cwbwl. C’est la vie.
Ond o ran chwarae efo ffrindiau, ges i fwy o hwyl efo Guitar Hero 3 nac unrhyw gêm ers dyddiau’r N64. Dwi’m isio meddwl am faint o oriau wnes i a fy ffrindiau ddod at ein gilydd yn fy fflat yng Nghaerdydd a smalio bod ni’n chwarae gitâr i Muse, neu Weezer, neu ZZ Top.
Dduda i hwnna eto: mae ‘na gêm yn bodoli sy’n gadael i chi wireddu’r ffantasi o fod yn rhan o ZZ Top. Rhaid bod hwnna werth rwbath. Felly stwffiwch eich snobyddiaeth. Dwi’n dal i licio Guitar Hero. Er ‘mod i erioed ‘di mastro’r peth fel Limmy famma:
16. The Settlers (Amiga 600, 1993)
Dwi’n tueddu i anghofio’r ffaith ‘mod i wedi bod yn berchen ar Amiga yn y 90au cynnar. Doedd o ddim yn glasur o system, ond o’n i wrth fy modd efo fo ar y pryd, yn chwarae gemau fel Street Fighter 2 heb sylweddoli bod ‘na fersiynau lot gwell ar gael. Ar yr Amiga hefyd ges i fy mlas cynta ar gemau strategaeth – ac ymhell cyn i fi chwarae Age Of Empires a Total War, o’n i chydig bach yn obsesd efo The Settlers.
Yn wahanol i gemau strategaeth eraill, doedd The Settlers ddim yn rhoi gormod o bwyslais ar ymladd. Oeddech chi’n gallu dewis peidio cael gelynion o gwbwl, a dewis cuddio yn y goedwig i adeiladu teyrnas fach heddychlon, fel wnes i drio gwneud flynyddoedd wedyn yn Age Of Empires. I fi, does ‘na ddim gêm sy’n fy ymlacio i fwy. Dwi ‘mond yn gorfod gwrando ar y gerddoriaeth o’r gêm, a dwi’n teimlo fel fy mod i’n llithro i mewn i fath yn llawn Radox. Dyma fy “gêm pnawn Sul”: does ‘na ddim byd ar y teli, ‘da chi’n llawn cig oen rhost, ac yn setlo i lawr am oriau – ac oriau, ac oriau – o chwarae dedwydd. Yn syml, The Settlers ydi’r anti-Dark Souls. Mae ‘na sawl un yn y gyfres erbyn hyn, ond dwi’n dal i licio symlrwydd yr un cynta. Jyst sbiwch, mewn difri calon.
15. Lylat Wars (N64, 1997)
Neu Starfox 64 i bawb y tu allan i Ewrop ac Awstralia. Ac mae ‘na rywun o America’n darllen y blog ‘ma, felly rhaid i fi wneud hynny’n glir. #rhyngwladol
Ar y pryd, Lylat Wars oedd y gêm mwya sinematig i fi chwarae erioed. Roedd y diwydiant gemau newydd ddod dros y fad o FMV (full motion video), yn amlwg mewn gemau fel Night Trap a Wing Commander, ac yn ymgais i wneud gemau edrych mwy fel ffilmiau. Achos ar y pryd, roedd ffilmiau’n fwy poblogaidd na gemau. Nyts.
Doedd gan Lylat Wars ddim byd fel’na, wrth gwrs – mae o’n gêm am anifeiliaid yn fflio llongau gofod, wedi’r cwbwl. Ond roedd ‘na ddeialog drwy’r holl beth. Roedd ‘na gerddoriaeth fawreddog. Roedd ‘na stori a chymeriadau oedd yn ymylu ar fod yn ddiddorol i fachgen 12 oed. Er fy mod i’n ddigon aeddfed i ddallt bod y stori’n rip-off llwyr o Star Wars, wnaeth y gêm ddal fy sylw am fisoedd. A doedd o ddim yn brifo bod y profiad o chwarae’n briliant, y lefelau’n cynnwys sawl cyfrinach oedd yn ymestyn hyd y peth yn sylweddol. Gafodd o ei ail-ryddhau ar y 3DS yn eitha diweddar, a dwi’n edrych ymlaen at bigo copi o hwnna i fyny er mwyn teimlo’n ddeuddeg oed eto.
A dwi ddim hyd yn oed wedi sôn am y meme sy’n gysylltiedig efo’r gêm. Dim unwaith.
Wps.
14. Red Dead Redemption (Xbox 360, 2010)
Sôn am sinematig…
Dwi wrth fy modd efo gemau sandbox, sy’n gadael i chi grwydro byd enfawr a gwneud be bynnag ‘da chi isio, ac yn sugno tua 100 awr o’ch bywyd cyn i chi allu troi rownd. Yr esiampl amlyca o’r genre yma ydi’r gyfres Grand Theft Auto gan Rockstar, mae’n debyg – ond er bod ‘na ddim lot o’i le efo GTA (oni bai am y sgriptio uffernol), mae’n lot gwell gen i Red Dead Redemption. Mae ‘na lot o gemau wedi trio efelychu GTA, ond mae ‘na rwbath unigryw am farchoga ar draws y prairie yn y gêm yma.
Ac er bod y stori a mecanwaith y gêm ddim cweit yn gelio – ‘da chi ar râs yn erbyn amser yn trio sicrhau bod eich teulu’n aros yn fyw, ond yn cymryd saib i hela anifeiliaid ac i bigo blodau ar hyd y daith? – wnaeth Red Dead Redemption godi fy niddordeb i yn y western yn fwy nag unrhyw ffilm erioed. Ac er bod ‘na wendidau yn y naratif, mae’r gêm yn gorffen yn gryf gyda thro gwirioneddol syfrdanol yn y stori. Dwi’n fwy o ffan o gemau sandbox Bethesda Softworks, fel y gwelwch chi’n nes mlaen yn y rhestr, ond does ‘na ddim dwywaith bod Red Dead Redemption yn gampwaith. Gawn ni un arall, plis?
13. WWF No Mercy (N64, 2000)
Tua tro’r ganrif, reslo oedd y peth cynta ar fy meddwl wrth i fi ddeffro a’r peth ola cyn i fi fynd i gysgu. O’n i hyd yn oed yn aelod o ffederasiwn reslo arlein – dipyn fel fantasy football, ond efo lot mwy o spandex. Ges i lot o hwyl efo rhai o’r gemau reslo gorau ar y Nintendo 64, ond wnaeth WWF No Mercy gymryd pethau i’r lefel nesa a pherffeithio’r fformiwla. Roedd ‘na ddewis gwirion o reslars (y rhan fwya ohonyn nhw ‘di marw erbyn heddiw), ac os oedd hynny ddim yn ddigon, roeddech chi’n gallu creu dwsinau o rai newydd eich hun. Un o’r dyddiau ‘ma, fydd rhaid i fi gael fy ffrind Conor draw a ffilmio ni’n mynd drwy’r reslars hollol chyffing nyts wnaethon ni eu dylunio. Es i drwy’r rhestr yn eitha diweddar a crio chwerthin. Oedd ganddon ni lot gormod o amser.
Ond roedd No Mercy yn dueddu i sugno amser. Roedd ‘na rwbath hypnotig am chwarae – er bod y gêm yn weddol hawdd, do’n i byth yn blino ar slamio Triple H drwy fwrdd, neu wthio Jeff Hardy oddi ar ystol, neu ailgreu’r peth mwya stiwpid yn hanes reslo, y ‘Stinkface’:
OK, ella dim y peth mwya stiwpid…
Hefyd yn y gyfres: WCW / nWo World Tour, WWF Wrestlemania 2000
12. Fallout 3 (Xbox 360, 2008)
Rŵan dyma gêm sandbox. Er bod Fallout 3 wedi bod allan am chwe mlynedd bellach, dim ond yn ddiweddar chwaraeais i o, ar ôl cael copi am ddim gan ffrind. Diolch, Dave. Yn adeiladu ar be wnaethon nhw yn Oblivion, ac yn dechrau pwyntio’r ffordd tuag at Skyrim, wnaeth Bethesda Softworks gnocio’r bêl allan o’r parc efo hwn. I’r rhai sydd ddim ‘di bod mor lwcus â chamu i mewn i fyd Fallout, mae’r gêm yn dechrau gyda’r prif gymeriad yn blentyn mewn daeargell ar gyrion Washington DC gannoedd o flynyddoedd ar ôl i’r byd gael ei losgi gan ryfel niwclear. Ar ôl i chi ddod i ddeall sut i chwarae’r gêm a dod i nabod rhai o’r cymeriadau, ‘da chi’n cael eich gwthio allan i’r byd mawr drwg. Ac mae hwn yn digwydd:
‘Da chi’n sylweddoli eich bod chi’n cael mynd i rwla. Mae o’n un o’r darnau mwya hudolus yn hanes y diwydiant. Ac o’r pwynt yna ymlaen, mae croeso i chi dreulio 100+ o oriau yn crwydro’r tir diffaith. Gewch chi sleifio y tu ôl i bobol a’u smacio nhw dros y pen, cerdded i mewn yn lawnsio rocedau, siarad eich ffordd allan o drwbwl… gewch chi chwarae’r gêm eich ffordd chi. Dim Fallout 3 ydi’r unig gêm i roi’r math yma o ddewis i chi, wrth gwrs, ond mae o’n ei wneud o’n well na bron i unrhyw gêm arall – yn well, dwi’n meddwl, na hyd yn oed Fallout: New Vegas, ddaeth allan ddwy flynedd wedyn. Ac efo dôs gref o hiwmor sy’n gweithio’n lot gwell na hiwmor GTA, bob math o estyniadau a mods (ar y PC, o leia) i ymestyn y gêm ymhellach fyth, a chymuned arlein sy’n pigo dros bob agwedd o’r gêm hyd heddiw, mae’n hawdd gweld pam bod lot o bobol wedi bod yn chwarae Fallout 3 am flynyddoedd.
A tra dwi yma, fyswn i’n wirion i beidio tynnu eich sylw at y gyfres Fallout For Pimps, gan rai o’r un criw sy’n cynhyrchu Beer and Board Games. Wele:
11. The Walking Dead (Xbox 360, 2012)
Y gêm mwya newydd ar y rhestr. Amser a ddengys be fydd effaith The Walking Dead ar y diwydiant (neu The Walking Dead: Season One i roi ei deitl llawn – peidiwch â drysu hwn efo The Walking Dead: Survival Instinct), ond fe ellith o newid pethau’n llwyr. Wnes i sôn yn gynharach am gemau fel Night Trap, yn trio ychwanegu elfen sinematig at gemau. Mae The Walking Dead, o’r diwedd, yn llwyddo’n gyfangwbwl yn hynny o beth, a bron yn creu cyfrwng newydd: undod di-dor rhwng gemau a chyfres deledu.
Mae’r gyfres gynta wedi ei rannu yn bum pennod (efo penodau o’r ail gyfres yn cael eu rhyddhau ar y funud). Tra bod rhannau o’r gêm yn debyg i hen gemau point-and-click fel cyfres Monkey Island, Broken Sword a.y.y.b., fyddech chi’n treulio’r rhan fwya o’r amser jyst yn gwatshiad y cymeriadau yn siarad, ac yn caru, ac yn ymladd. Mae o wedi ei sgwennu mor dda â’r rhaglenni teledu gorau, efo un gwahaniaeth mawr: ar rai pwyntiau, mae’n rhaid i chi ddewis be mae’r prif gymeriad, Lee, yn ei wneud nesa, a gwneud hynny o fewn rhai eiliadau. Mae’r ddyfais syml yma (ddim yn annhebyg i lyfrau Fighting Fantasy, deud y gwir) yn eich tynnu chi i mewn i’r profiad yn well nag unrhyw raglen deledu. Ar un pwynt, dwi’n cofio gorfod dewis un ai lladd plentyn oedd ar fin troi i mewn i zombie neu fforsio ei dad i’w ladd ar fy rhan. Dydi’r un ffilm, na rhaglen deledu, na llyfr, na drama, erioed wedi rhoi profiad tebyg i fi. Mae o’n gêm sy’n aros efo chi ymhell ar ôl gorffen chwarae, yn gofyn cwestiynau pwysig am y byd, ac yn gwneud i chi ofyn cwestiynau am chi eich hun. Mae o’n gampwaith.
Ac mae’r un cwmni yn gweithio ar gêm newydd wedi ei seilio ym mydysawd Game Of Thrones. Ella ei bod hi’n bosib gwella ar berffeithrwydd wedi’r cwbwl.
10. The Legend Of Zelda: A Link To The Past (SNES, 1991)
Gemau Zelda ydi fy hoff gyfres, a The Link To The Past oedd y gêm gynta yn y gyfres i fi chwarae. Job done. Yn y rhestr yn syth.
Ond yn lwcus, mae o’n dal i fod yn briliant hyd heddiw. Er bod ‘na un gêm gwell yn y gyfres, ac yn y rhestr yma – Citizen Kane y diwydiant gemau, unrhywun? – alla i ddim gadael hwn allan. Ar gefn cryfder A Link To The Past, wnes i fynd ymlaen i chwarae’r 15 gêm arall yn y gyfres Zelda, a mwynhau bob un eiliad o’r profiad. Wel… oni bai am orfod ailchwarae’r un lefel drosodd a throsodd yn Phantom Hourglass. A The Adventure Of Link i gyd.
Dwi ‘di chwarae dechrau’r gêm drosodd a throsodd, gymaint fel ei fod o wedi serio ar fy meddwl: o’r siwrne gynta i’r castell yn y glaw, i ddod o hyd i’r Master Sword yng nghanol niwl y goedwig, i gamu i’r “Byd Tywyll” am y tro cynta a sylweddoli bod y gêm lot, lot hirach nag oeddech chi’n ddisgwyl. Go brin ‘mod i wedi sylweddoli pan eisteddais i lawr efo’r gêm am y tro cynta yng nghanol y nawdegau bod y gyfres am gymryd rhannau helaeth o ‘mywyd drosodd. Fydd gen i fwy i ddweud am y gyfres Zelda mewn cofnod arall (ac ymhellach i lawr y rhestr ‘ma). Ond am y tro… unrhyw esgus i bostio’r clip yma:
9. Half-Life (PC, 1998)
Ydi, mae Half-Life 2 yn gêm well, mae’n debyg. Ond o’n i’n oedolyn sinigaidd pan chwaraeais i hwnna. Pan ddaeth y Half–Life cynta allan, o’n i’n blentyn 13 / 14 oed, a doeddwn i erioed wedi chwarae unrhywbeth tebyg.
‘Da chi ddim yn chwarae Half-Life. ‘Da chi’n byw Half-Life. Dydi’r prif gymeriad, Gordon Freeman, ddim yn sbowtio ryw ffraethebion stiwpid fatha Duke Nukem. ‘Da chi’n teimlo fel mai chi ydi Gordon Freeman. Oni bai ella am Doom, dyma’r undod gora rhwng cymeriad a chwaraewr dwi ‘di brofi erioed. Dydi’r gêm ddim wedi ei rannu yn lefelau – mae un ardal yn arwain yn syth i ardal arall, gan roi’r argraff bod y gêm yn digwydd mewn un byd mawr, byw. Ac mae’r tensiwn yn adeiladu’n berffaith, chithau’n ymladd gelynion bach i ddechrau (fel yr ‘headcrab’ enwog – a gyda llaw, os ellith rywun brynu’r het yma i fi, fydda i’n ddiolchgar iawn), cyn symud ymlaen i ymladd petha cwbwl frawychus, fel y bwystfil yma sy’n byw o dan y tywod, yn un o fy hoff rannau o’r gêm:
Os ‘da chi erioed ‘di chwarae’r gêm, dwi’n awgrymu’n gry eich bod chi’n lawrlwytho Half-Life: Source oddi ar Steam, sy’n gwella edrychiad y peth. Ac o fanna, mae ‘na fyd o brofiadau bythgofiadwy yn eich disgwyl chi. Peidiwch ac anghofio’r gemau gwych Portal, wedi eu seilio yn yr un bydysawd. Ac wrth gwrs, Half-Life 3…
O. Does ‘na ddim Half-Life 3 eto, nag oes? Er bod Half-Life 2 yn ddeg oed bellach. Hm. Hen bryd i rywun wneud rwbath am hwnna felly, yndi?
Hefyd yn y gyfres: Half-Life 2, Portal, Portal 2
8. Star Wars Jedi Knight: Dark Forces 2 (PC, 1997)
Dydw i ddim yn un mawr am chwarae gemau ar-lein y dyddiau yma. Sgen i ddim byd yn erbyn y peth o gwbwl – dwi jyst yn licio’r profiad o chwarae drwy’r gêm ar ben fy hun, ar fy nghyflymder fy hun, yn enwedig pan mae gen i restr hir o gemau (27 ohonyn nhw ar y funud!) dwi ddim wedi eu chwarae eto. Ella pan dwi’n cnocio chydig oddi ar y rhestr yna, wna i droi’n ôl at chwarae ar-lein. Achos oedd ‘na bwynt yn fy mywyd pan o’n i’n un mawr am wneud.
Ddaeth Jedi Knight allan pan o’n i wrth fy modd efo Star Wars (h.y. unrhywbryd rhwng 1993 a 1999), ac yn fuan iawn ar ôl i ni gael y we am y tro cynta. Ddes i’n eitha da am chwarae’r gêm ar-lein, a wnes i fynd mor bell ag ymuno efo ‘clan’ – grŵp o chwaraewyr oedd yn cyfarfod bob nos Sadwrn er mwyn malu ei gilydd (a malu clans eraill) efo lightsabers. Enw ein clan oedd ‘Appetite For Destruction’ (ar ôl yr albym Guns N Roses, natch), a doedd ‘na ddim mwy na ryw dri neu bedwar o aelodau ar unwaith. Oedden ni dipyn bach yn rybish.
Wnes i hyd yn oed ddechra dylunio lefels fy hun. Mewn 3D a phob dim. Ella tyswn i ‘di cario mlaen efo’r math yna o beth, fyswn i’n gweithio ar y GTA nesa yn hytrach na wastio fy amser efo rybish fel’ma. Ond dyna ni.
Doedd o ddim yn gwneud lot newydd, a does neb yn ei gysidro ymhlith y gemau pwysica erioed, ond ges i lot fawr iawn o hwyl efo Jedi Knight. A dyna pam mae o ar y rhestr. O – a roedd ‘na ddarnau FMV hollol rybish ‘fyd. Briliant.
Hefyd yn y gyfres: Star Wars Jedi Knight: Jedi Academy
7. Donkey Kong Country (SNES, 1994)
Ella’ch bod chi’n cofio, o’r cofnod wnes i am fy hanes i efo Nintendo, mai Donkey Kong Country Returns oedd fy hoff gêm ar y Nintendo Wii. Mae rheswm yn dweud, felly, y dylsa fo fod yn uwch ar y rhestr ‘ma na Guitar Hero 3. Ond dydi Donkey Kong Country Returns ddim yn gwneud unrhywbeth i chwyldroi’r genre. Yn hytrach, mae o’n adeiladu ar sylfeini’r gêm gynta yn y gyfres, gafodd ei ryddhau ar y SNES ddegawd a hanner ynghynt. I’r gêm Donkey Kong Country cynta mae’r diolch am holl lwyddiannau’r gyfres wedi hynny.
Mae o’n anodd gwneud hi’n glir pa mor wirion o dda oedd Donkey Kong Country‘n edrych ar fore Dolig, 1994. Dyma’r gêm cynta ar y SNES oedd yn defnyddio’r steil ‘pre-rendered’, a do’n i erioed ‘di gweld unrhywbeth tebyg o’r blaen. A sbiwch cŵl ydi’r Donkey Kong newydd! Mae ganddo fo boombox! Ma boomboxes mor rad!
Ella dydi’r gêm ddim wedi heneiddio’n urddasol iawn – dydi o ddim yn edrych mor dda ag oedd o, wrth gwrs, ac mae gemau platfform ar y SNES fel Super Mario World a Yoshi’s Island yn tueddu i gael eu cysidro fel mwy o glasuron erbyn hyn. Ond yn fy marn i – a dwi’n meddwl bod y gemau diweddara yn y gyfres yn profi hyn – does ‘na ddim byd o’i le efo’r fformiwla o gwbwl. Ella ddylsan nhw wedi sticio at y fformiwla yma yn lle trio rwbath gwahanol efo Donkey Kong 64. O diar.
Hefyd yn y gyfres: Donkey Kong Country 2, Donkey Kong Country 3, Donkey Kong Country Returns
6. Goldeneye 007 (N64, 1997)
Dydi hwn ddim ‘di heneiddio’n dda iawn chwaith, fel mae’r fideo yma’n ei brofi:
Ond ar y pryd… waw. Mae ‘na reswm pam bod pobol o ryw oedran dal i ymddwyn fel plant bach pan ‘da chi’n dangos N64 a chopi o Goldeneye iddyn nhw. Er bod chwarae ar-lein yn gallu bod yn briliant, dwi’n meddwl bod ‘na rwbath lot mwy sbeshal am ista ar soffa efo tri ffrind a chwarae Goldeneye. Roedd gan bawb eu hoff gymeriada, eu hoff lefelau, eu hoff arfau, eu steil eu hunain o chwarae, eu ffordd benodol o wneud petha… roedd o’n ffordd o fyw, deud gwir. Profiadau fel chwarae Goldeneye efo ffrindiau ydi un o’r resymau pam bod gemau bwrdd yn dod yn fwy poblogaidd, dwi’n meddwl. Efo chwarae gemau efo ffrindiau yn ‘lleol’, rownd yr un teledu, yn dod yn llai ac yn llai cyffredin, mae pobol yn troi i ffwrdd o’r diwydiant gemau er mwyn llenwi’r twll yna yn eu bywydau nhw. Felly: heb Goldeneye, fysa ganddon ni ddim Settlers Of Catan.
OK, dydi’r theori yna ddim cweit yn dal dŵr, ond dwi’n gweithio arno fo.
A doedd y gêm ddim yn shabi ar ben eich hun chwaith. Dim o bell ffordd. Dwi’n dueddol o droi gêm i ffwrdd wedi i’r credits rowlio, ond wnes i wneud bob un dim ar Goldeneye. Bob un lefel, ar Agent (hawdd), Secret Agent (eitha hawdd), 00 Agent (anodd), a 007 (stiwpid o anodd), o fewn cyfyngiadau amser, efo un llaw ‘di clymu tu ôl i ‘nghefn i. Mae o’n siom mawr bod y gêm ddim wedi ei ail-ryddhau ers 1997 oherwydd bob math o gymhlethdodau o ran hawlfraint ac ati, ond does ‘na ddim lot o resymau gwell i dynnu eich N64 allan o’r cwpwrdd.
Hefyd yn y gyfres: Perfect Dark
5. The Legend Of Zelda: Ocarina Of Time (N64, 1998)
Fy marn i ydi’r rhestr yma. A jyst achos ‘mod i’n licio gêm yn fwy na gêm arall, dydi o ddim yn golygu bod un yn well na’r llall, wrth reswm. Ella bod chi’n meddwl bod bob un gêm ar y rhestr ‘ma’n rybish llwyr. Ac mae hwnna’n iawn. Ond The Legend of Zelda: Ocarina Of Time ydi’r gêm orau erioed. Os ‘da chi ddim yn cytuno efo hwnna, wna i’ch ymladd chi yn y maes parcio.
Dydi o ddim ar dop y rhestr achos mae gen i gysylltiad emosiynol mwy efo’r gemau uwch ei ben o. Ond dwi’m yn meddwl bod unrhywun erioed wedi curo hwn. Gan gymryd fframwaith A Link To The Past, yr arwr yn teithio i ‘fyd tywyll’ rhan o’r ffordd drwy’r gêm ac yn neidio rhwng bydoedd er mwyn trechu’r gelyn mawr drwg, Ganon, mae’n anodd meddwl am unrhywbeth wnaeth Ocarina Of Time yn rong, o’ch camau cynta o gwmpas y niwl yn Kokiri Forest, i’r frwydr ola, wirion o epig ym murddun y castell. Oni bai am y Water Temple. Mae’r darn yna’n rybish.
Does ‘na ddim lot o bwynt i fi fynd ymlaen amdano fo. Os ‘da chi ddim ‘di chwarae’r gêm eich hun, ‘da chi angen gwneud. Ar y 3DS, os yn bosib, achos gafodd ‘na fersiwn hyd yn oed yn well ei ryddhau ar y system yna’n eitha diweddar. Perffeithrwydd go iawn.
Hefyd yn y gyfres: The Legend Of Zelda, The Legend of Zelda: The Wind Waker, The Legend Of Zelda: A Link Between Worlds
4. Super Mario 64 (N64, 1996)
Er bod Ocarina Of Time fwy neu lai yn berffaith, wnes i ddim cynhesu ato fo’n syth am ba bynnag reswm. O’n i’n berchen ar yr N64 am tua blwyddyn a hanner ar y pwynt yna, a doedd chwarae gemau mewn 3D ddim yn sioc erbyn hynny. Fedra i ddim dweud yr un peth am Super Mario 64. Dwi’m yn meddwl i mi erioed ymateb i gêm fel wnes i wrth chwarae hwn am y tro cynta. I rywun fel fi, oedd ddim yn berchen ar Sony Playstation neu Sega Saturn, roedd symud o’r SNES i’r N64 fel cymryd cam mawr i mewn i’r dyfodol. Ym mis Mawrth 1997, fe es i o hwn…
…i hwn.
Do’n i ddim yn gallu credu’r peth ar y pryd. Wnes i dreulio tua 24 awr efo’r gêm ar y penwythnos cynta’n unig. Dwi’n cofio cyrraedd y bos ola, defnyddio dros 70 bywyd yn trio ei guro fo (dwi’m cweit yn dallt sut erbyn hyn, achos dydi o ddim yn anodd iawn), yn crynu mewn cynddaredd, yn gwneud i Mam feddwl ‘mod i’n nyts. Do’n i ddim yn annhebyg i’r N64 Kid.
A dydi’r gêm ddim wedi heneiddio ryw lawer, oni bai ella am y graffeg. Fe gymrodd hi ddegawd i Nintendo allu creu gêm Mario mor dda, efo Super Mario Galaxy ar y Wii. Fysa ailwampio’r gêm mewn HD ar y Wii U yn mynd lawr yn dda iawn, diolch yn fawr. Mae ei effaith o ar y diwydiant yn syfrdanol. Super Mario 64 ddangosodd y potensial mewn symud i 3D, ac mae gemau hyd heddiw yn dwyn ei syniadau wili, ac yn wir, nili. Stiwpid o dda.
3. The Elder Scrolls V: Skyrim (Xbox 360, 2011)
Tysa chi’n gofyn i fi ddylunio fy gêm berffaith, Skyrim fysa fo. Gêm sandbox epig, wedi ei seilio mewn byd ffantasi, wedi ei wneud gan Bethesda Softworks, yn edrych yn wirion o brydferth, yn rhoi lefel newydd o ryddid i’r chwaraewr? Jacpot.
Skyrim oedd y gêm ddaeth â monopoli Nintendo dros fy mywyd i ben. Ar ôl chwarae Morrowind i farwolaeth ar y PC rai blynyddoedd ynghynt, ac wedi colli allan ar Oblivion, roedd rhaid i fi gael Xbox 360 er mwyn chwarae Skyrim. A wnaeth o ddim siomi. Wnes i bron bob dim ar y gêm ‘na, dros gyfnod o fisoedd o chwarae. Ac yn ddiweddarach, ar ôl i fi brynu PC swanci newydd, wnes i brynu Skyrim eto, a gwneud bob dim wnes i ddim y tro cynta. Mae chwarae’r gêm ar y PC yn agor bob math o opsiynau newydd hefyd, efo’r miloedd o mods sydd ar gael. Ar ben ardaloedd a sialensau hollol newydd, wedi ei wneud gan ffans, fedrwch chi hefyd wneud iddo fo edrych yn well na’r stwff ar y PS4 a’r Xbox One heddiw, os ydi’ch cyfrifiadur yn ddigon da.
Zoinks. Fel Fallout, mae o’n gêm allwch chi eich colli eich hun ynddo fo am flynyddoedd (ac fel Fallout, mae ‘na gyfres “… For Pimps” ar Youtube sydd werth ei weld). Mae o mor dda, allech chi faddau i’r holl bygs sy’n bygwth sbwylio’r profiad o bryd i’w gilydd. Dwi’n gwbod bod creu byd ffantasi enfawr, byw yn cymryd amser, ond dwi isio gêm arall yn y gyfres rŵan, plis. A dydi Elder Scrolls Online ddim yn cyfri.
Hefyd yn y gyfres: The Elder Scrolls III: Morrowind
2. Super Mario Bros. (NES, 1985)
Y gêm ddechreuodd popeth, fwy neu lai. Be alla i ddweud am Super Mario Bros. sydd ddim wedi ei ddweud o’r blaen? Mae o wedi heneiddio’n well nac unrhyw gêm arall, yn fy marn i. Fel ffilmiau Laurel and Hardy a dramâu Shakespeare, mae o mor dda heddiw ag erioed, cymeriadau’r gêm mor eiconig â Mickey Mouse, y gerddoriaeth ymysg y tiwns mwya adnabyddus erioed, a cannoedd os nad miloedd o gemau wedi trio ei efelychu dros y blynyddoedd. Ond allwch chi ddim curo’r gwreiddiol.
Ac i ddweud y gwir, allwch chi ddim gwahanu Super Mario Bros. oddi ar y gemau eraill yn y gyfres. Mae nhw bron i gyd yn haeddu bod yma. Dydi Mario ddim wedi gwneud llawer o’i le, chwarae teg iddo fo – oni bai ella am ei unig ffilm (a dwi’n gwbod bod hwn ddim yn farn boblogaidd, ond dwi ddim yn meddwl bod hyd yn oed hwnna mor ddrwg â hynny). Ac er dydi gemau fel Super Mario Bros. 2 a Super Mario Sunshine ddim yn dod yn agos at fod mor dda â goreuon y gyfres, mae nhw dal i fod ben ag ysgwydd uwchben y rhan fwya o gemau eraill.
Dwi’n teimlo’r un peth am Mario ag y mae Jerry Seinfeld am Superman (a dwi ddim yn gallu ffeindio clip digon da i brofi ‘mhwynt, felly rhaid i hwn wneud). Mario ydi fy arwr, i bob bwrpas. Mae o wastad ‘di bod yna i godi ‘nghalon, efo gwên a “Woo-hoo!” hapus, a gobeithio fydd o wastad yna tan diwedd fy oes. Mae dechra gêm Mario newydd fel ymweld â hen ffrind. Mae o’n mynd â fi nôl at fy mhlentyndod yn syth. Fyswn i’n priodi’r boi tysa priodasau cyfunrywiol rhwng dynion byw a chymeriadau dychmygol yn gyfreithiol.
Amser gwatshiad yr hysbyseb yma eto.
Hefyd yn y gyfres: Super Mario Bros. 3, Super Mario World, Super Mario World 2: Yoshi’s Island, Super Mario Galaxy, Super Mario Galaxy 2, Super Mario 3D World
1. Earthbound (SNES, 1994)
Dwi ‘di sôn am Earthbound yn y gorffennol, a dwi am sôn amdano fo yn y dyfodol. Mae o werth cofnod enfawr fel hwn ar ben ei hun. Neu fideo ella. Fysa mynd ymlaen am y peth famma dipyn bach yn ddiangen, dwi’n meddwl. A mae’r cofnod yma dros 6,000 o eiria’n barod. Digon yw digon. Jyst sbiwch drwy starmen.net i weld pam bod gymaint o bobol yn teimlo mor gry dros Earthbound (a’r ddau gêm arall yn y gyfres, gafodd byth ei rhyddhau y tu allan i Siapan). Neu cymrwch hanner awr allan o’ch diwrnod prysur a gwyliwch y fideo yma:
Fy hoff gêm erioed. Fyddwch chi ‘di diflasu efo’n fi’n mynd ymlaen amdano fo cyn bo hir, gewch chi weld.
Wel, gymrodd hwnna lot mwy o amser nag o’n i’n ddisgwyl. O’n i fod i orffen hwn wythnos yn ôl. Ond dyna ni. Mwy o gofnodion (byrrach) ar y ffordd. Dwi’n mynd i orwedd lawr rŵan.
[…] i gynnwys cyfres gynta The Walking Dead yn y rhestr o fy hoff gemau yn gynharach flwyddyn yma, ac mae’r ail gyfres yn llawn haeddu ei le yn y rhestr hefyd. […]
[…] yn naturiol. Wnewch chi gofio bod y gyfres gynta wedi landio slap bang yng nghanol y rhestr o fy hoff gemau erioed, a ‘mod i wedi bod yn hapus iawn efo’r ail gyfres, ddaeth allan yn ddiweddar. Does gen […]