Mae Hydref wedi cyrraedd, bois bach. Dolig bron yma. Ydach chi ‘di prynu’ch presantau eto? Os ddim, pam ddim? MAE AMSER YN FYR. C’MON. C’MON. C’MON. ‘DA CHI DDIM HYD YN OED YN TRIO.
Hefyd, mae hi bron yn Galan Gaeaf. Ac mae hynny’n golygu bod ganddon ni fis cyfa o stwff sbwci i chi, gan gychwyn efo golwg ar y ffenomenon sydd – ynghyd â’r ffilmiau World War Z, Warm Bodies, Shaun Of The Dead, 28 Days Later, a ffilmiau da George Romero, y gemau cyfrifiadur State Of Decay, Day Z, Dead Rising, Dead Island, Left 4 Dead, Resident Evil, a The Last Of Us, y gemau bwrdd Zombicide, Munchkin Zombies, Zombie Fluxx, Zombie Dice, Last Night On Earth, a Zombies!!! – wedi gwneud y meirw byw yn eitha chyffing poblogaidd. Dwi’n sôn, wrth gwrs, am y ffilm Return Of The Living Dead 5: Rave To The Grave.
Nag’dw. The Walking Dead. Am The Walking Dead dwi’n sôn.
Wnes i ddod mewn cysylltiad efo The Walking Dead am y tro cynta llynedd, wrth chwarae’r gyfres gynta o gemau gan Telltale, ac ers hynny dwi ‘di neidio’n ddwfn, ddwfn i mewn i’r byd yma. Dwi ‘di darllen y comics i gyd, wedi dal i fyny efo’r gyfres deledu, a hyd yn oed wedi darllen y nofelau.
Oes. Mae ‘na nofelau.
A’r peth gora ydi, mae’r stwff yma am ddal i fynd am flynyddoedd a blynyddoedd. Mae creawdwr The Walking Dead, Robert Kirkman, wedi dweud y gallai o sgwennu mil o rifynnau o’r comics yn hawdd. Mae ‘na sawl cyfres o’r rhaglen deledu eto i ddod, ar ben cyfres spin-off newydd sbon. Mae ‘na fwy o nofelau ar y ffordd. Ac mae’n rhaid bod ‘na fwy o gemau i ddod gan Telltale. Does ‘na ddim byd wedi ei gyhoeddi. Ond mae’n rhaid bod ‘na. Alla i ddim byw fel arall.
Ond be os ‘da chi erioed ‘di darllen y comics a’r llyfrau, erioed ‘di gweld y gyfres deledu, erioed ‘di chwarae’r gemau? Wel, ista lawr a darllen hwn. Dyna be. Achos dwi am eich cyflwyno chi i’r byd lle mae’r meirw’n cerdded, y byw yn rhedeg i ffwrdd ohonyn nhw, a does ‘na ddim byd da yn digwydd. Byth.
Y Gemau
Ia, dwi’n gwbod mai’r comics ddechreuodd bob dim, ond at y gemau wnes i droi gynta, yn naturiol. Wnewch chi gofio bod y gyfres gynta wedi landio slap bang yng nghanol y rhestr o fy hoff gemau erioed, a ‘mod i wedi bod yn hapus iawn efo’r ail gyfres, ddaeth allan yn ddiweddar. Does gen i ddim gymaint ar ôl i ddweud amdanyn nhw, deud y gwir, oni bai am y stwff dwi ‘di ei ddeud yn barod: dwi’n meddwl bod rhain ymysg y gemau pwysica dwi erioed wedi chwarae. Dwi’n ffeindio hi’n anodd iawn meddwl am gemau efo naratif gwell, a does ‘na ddim un gêm yn eich llusgo chi i mewn i’r stori ac yn gwneud i chi uniaethu efo’r cymeriadau yn well na The Walking Dead.
Wna i fynd un cam ymhellach. Dwi’m yn gallu meddwl am un darn o gelfyddyd – yn ffilm, yn nofel, yn gomic, neu be bynnag – sy’n gwneud i chi uniaethu efo’r cymeriadau yn well na rhein. Heb sbwylio dim byd, mae ‘na un darn yn y gyfres gynta lle mae’n rhaid i chi ddewis rhwng un ai lladd plentyn bach sydd wedi ei frathu gan zombies, neu gadael i’w dad wneud ar eich rhan. A hynny i gyd o fewn ryw bum eiliad. Efo penderfyniadau fel’na yn eich gwynebu chi rownd bob cornel, mae’r byd go-iawn yn toddi i ffwrdd. ‘Da chi’n byw y gemau. ‘Da chi ddim bob tro yn mwynhau eu chwarae, per se – weithia, mae’r straen yn mynd dipyn bach yn ormod. Ond wnewch chi byth anghofio’r profiad.
Mae ‘na gêm arall The Walking Dead wrth gwrs, sef Survival Instinct. Ond does neb yn sôn am hwnna achos bod o’n crap.
Y Comics
Ar ôl gorffen y gyfres gynta o gemau, ro’n i’n gwbod bod rhaid i fi ddarllen y comics. Achos mae comics yn cŵl. Ac erbyn hyn, dwi ‘di darllen bob un o’r 132 rhifyn sydd wedi eu cyhoeddi, ac yn tanysgrifio’n hapus i’r gyfres. Dydi o ddim yn berffaith, yn sicr – mae ‘na gymeriadau yn diflannu heb lawer o esboniad a llinynnau storïol yn cael eu gollwng wili-nili. Ond yn gyffredinol, mae o werth ei ddarllen. Mae’r darnau gorau – fel The Governor yn ymosod ar y carchar, neu’n cyflwyniad gwaedlyd i Negan a Lucille, neu [SPOILER], neu [SPOILER], neu [SPOILER] – yn serio eu hunain ar y meddwl, ac mae’n dod yn glir bod Robert Kirkman a’r criw yn gwybod yn iawn sut i lunio byd a dweud stori.
Ac ar ben hynny, mae’r gwaith celf yn benigamp. Mae ‘na rywbeth am gomics du a gwyn. Dwi’m yn gwbod pam dwi’n gymaint o ffan, ond rhwng hwn a From Hell a Scott Pilgrim a Judge Dredd… wel, pwy sydd angen lliw o gwbwl? Mae o wedi ei ddarlunio gan ddau ddyn dros y blynyddoedd – Tony Moore am y chwe rhifyn cynta, a Charlie Adlard wedi hynny. Er fy mod i’n fwy o ffan o waith celf Tony Moore, ac er ei bod hi’n anodd dod dros y shifft yn rhifyn saith, mae gwaith celf Charlie Adlard yn gwella lot wedi hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae ei waith yn gyfystyr â’r gyfres.
Felly os ‘da chi ddim wedi gwneud yn barod, pam ddim rhoi go i’r gyfres? Mae nhw ar gael yn ddigidol ar Comixology, ond os ‘da chi fel fi yn hoff o bethau allwch chi eu cyffwrdd a’u hogleuo (wir yr, mae ogla comic newydd yn briliant), allwch chi gael y 48 rhifyn cynta am tua £23. Sy’n nyts o rhad.
Y Llyfrau
Hyd yn hyn, mae ‘na dri llyfr The Walking Dead wedi eu cyhoeddi, oll gan Jay Bonansinga (a Robert Kirkman, yn dechnegol, ond dwi’m yn meddwl bod o ‘di ffeindio lot o amser i gyfrannu atyn nhw rhwng sgwennu’r comics a cynhyrchu’r rhaglen deledu a cyfri ei bres i gyd). Mae’r cynta’n delio efo hanes The Governor cyn iddo fo gymryd yr enw yna a rheoli tref Woodbury, yr ail yn rhoi cefndir Lilly, un arall o drigolion y dref, a’r trydydd yn ailddweud stori’r frwydr rhwng Woodbury a’r carchar o’r comics – ond o ochr y baddies. Sy’n neis.
OK, dydi rhein ddim yn lyfrau arbennig o lenyddol, ac mae ‘na amryw o wallau golygu sy’n amharu ar y profiad, ond os ‘da chi’n ffan o The Walking Dead yn gyffredinol, waeth i chi eu darllen nhw ddim. Be arall wnewch chi efo’ch amser? Mae’r cynta yn sefyll allan fel y gora ohonyn nhw i gyd, efo tro yn y gynffon ar ddiwedd y stori fysa’n gwneud i M. Night Shyamalan faeddu ei drôns mewn cefnigen. Ond mae’n rhaid i chi fod yn gyfarwydd efo’r comics cyn darllen. Felly gwnewch hwnna gynta plis. OK ta.
Y Gyfres Deledu
A dyma ni. Y ffenomenon. Y ddrama fwya ar y teledu, a’r unig ran o’r bydysawd yma mae’r rhan fwya o bobol yn gyfarwydd â hi. Ond y peth diddorol ydi bod y gemau, y comics a’r nofelau oll yn digwydd yn yr un byd. Mae’r rhaglen deledu yn dweud fwy neu lai yr un stori, ond mewn byd ar wahân – sy’n golygu bod rhai o’n hoff gymeriadau yn marw cyn neu ar ôl iddyn nhw wneud yn y comics, bod rhai o’r cymeriadau yn newydd sbon (helo Daryl a Merle), a bod y cynhyrchwyr yn rhydd i chwarae efo’n teimladau ni fel y mynnon nhw.
Dwi’n ffan mawr o’r gyfres, mae’n rhaid deud. Er bod ‘na lot o helynt wedi bod y tu ôl i’r llenni, er bod ‘na dipyn gormod o product placement (dwi isio prynu Hyundai ar ôl bob un pennod am ryw reswm…), ac er bod ‘na rai cymeriadau sy’n cynddeiriogi lot o bobol (helo Lori). A dwi’m yn siŵr iawn ydw i’n gallu esbonio pam. Mae pobol yn cwyno bod Game Of Thrones yn llwm ac yn ddigalon, ond mae o fel rhifyn Nadolig o Care Bears i gymharu efo hwn. Does ‘na ddim hiwmor yn agos at y gyfres ‘ma. Ac mae ‘na bobol yn marw. Drwy’r amser. Yn ddynion, yn ferched, ac yn blant. Mewn ffyrdd amrywiol a cynyddol frawychus. Dwi ‘di gwneud y camgymeriad o wylio pennod o The Walking Dead cyn brecwast o’r blaen – a dwi ddim yn deud celwydd, wnaeth o sbwylio’r holl ddiwrnod i fi. Mae ‘na rwbath am weld yr holl bethau uffernol ‘ma’n digwydd i bobol go-iawn (wel… actorion) yn hytrach nac ar bapur sy’n effeithio ar rywun.
Ond eto, dwi’n dal i ddod yn ôl, ac yn edrych mlaen at gyfres 5. Lot. Er ‘mod i’n gwbod fydd 99% ohono fo yn fy ngwneud i’n drist. Ond fydd yr 1% arall… o, mi fydd hwnna’n dda.
A dyna ni. Os ‘da chi’n ffan o waed, o drais, neu o gyrff meirw yn rhwygo pobol yn ddarnau – a pwy sy’ ddim? – pam ddim rhoi bawd troed bach i mewn i fyd enfawr The Walking Dead? Fyddwch chi yn isel drwy’r amser, mae’n wir… ond fydd o werth o. Wna i’ch gadael chi efo’r casgliad yma o “uchafbwyntiau” Cyfres 4 y rhaglen deledu. Cysgwch yn sownd. Bwa ha ha.
– Elidir
[…] ar gemau bwrdd ganddon ni, ar ben stwff ar ffilmiau arswyd, ffilmiau kung fu gwael, cyfresi gwe, The Walking Dead, comics… dim bod ni isio sathru ar draed IAS, sy’n gwneud gwaith da iawn yn trafod y […]
[…] selog f8 yn gwybod ein bod ni wedi mynd dipyn bach dros ben llestri flwyddyn diwetha. Wnaethon ni drafod The Walking Dead, cyfweld trefnydd gŵyl arswyd Abertoir, gwneud adolygiad fideo o Alien […]