Daf Prys | @dafprys
Glywoch chi ‘run yna am y bachgen oedd yn galw ‘blaidd’? Dydd ar ol dydd ar ol dydd, ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’. Wel ma Bungie wedi bod yn bloeddio ‘run fath, drwy ei marchnata, am Destiny. Ers ei gyflwyniad i’r byd yn Ebrill 2010, mae Bungie (y datblygwyr) ac Activision (y cyhoeddwyr) wedi bod yn slipio bach o Destiny fewn i coffi pawb. Ond ynlle cael ei anwybyddu fel bachgen y blaidd druan, ma niferoedd anhygoel wedi prynu’r gem. A beth sy’n syfrdanol am hwn? Y ffaith fod dim un adolygiad llawn wedi ymddangos erbyn dyddiad agoriadol y gem. A dyna fo wir, dyna stori gem diweddaraf Bungie. Marchnata mawr, gem bach. Mae adolygu’r peth yn anodd gan fod y gem wir ond yn dod yn fyw wedi ei gwblhau, (ac mae hynny’n cymryd amser). Peth od i sgwennu, ond mae na rhywbeth digon od am Destiny. Ac am enw ‘wmph’ ynde, Dessstinnyyyyy, efo jazz hands.
Hoffwn wedi bod yna yng nghyfarfod cyntaf Bungie ar ol gwerthu Halo i Microsoft.
Egsec1: ‘Iawn de, unryhyw syniadau?’
Egsec2: ‘Gallwn ni neud Halo, ond esgus fod e’n MMO?’
Egsec1: ‘Ar ‘i phen myn diain, ar ‘i phen – rhywun cal bois Activision ar y ffon!’
Hawdd i fi neud hwyl am ben sut mae’n edrych wrth gwrs, ond dyna’n union sut mae’r sefyllfa i’w weld, Halo arall ond efo croen dipyn bach yn wahanol. A pam lai wir, mi oedd Halo yn anferthol. Ond ‘ma na gymaint o Halo yn Destiny: syniadaeth o filwr arwrol i achub y ddynol ryw, cyfaill bach robotaidd, gelyn aml-ranc efo AI sy’n gweud wrtho nhw neud un peth (cuddio tu ol carreg). Mae hyd yn oed naid ‘floaty’.
Ond falle fi wedi neidio’n rhy bell ymlaen fan hyn, falle fod na rhai ohona chi heb brofi Destiny, falle fod na rhai heb brofi Halo! Wel i grynhoi, gem saethu yw Destiny, a chithau yn gweld trwy llygaid eich cymeriad tra’n crwydro amgylchedd y gem, ond eich bod yn rhannu’r byd efo gemyddion eraill achos taw go iawn, MMO yw Destiny.
Dyma’r sefyllfa, yn y dyfodol mae’r ddynol ryw wedi datblygu i fodoli ar blanedau di-ri yn ein system Sol fach ni, wedi troi y blaned Gwener i fod yn fyd jyngl, gorsafau ymchwil ar ein lleuad, dinasoedd ar Mawrth. (Dyw enwau ein planedau ddim yn neud sens, ma popeth wyneb i waered, Mawrth dyle Mercher fod, Gwener yn Mercher, Mawrth yn Iau a Iau yn Gwener; dallt? Edrych fel fod Sadwrn yn iawn ddo.) A beth yw esboniad ein esblygiad? Ymdrech a dyfal barhad? Canrifoedd o ymchwil ac ariannu prosiectau arall fydol? Na. Dim o gwbl. Cwrdd ac alien a fe’n sibrwd y cyfrinachau yn ein clustiau. Dim alien areferol, siap pel arno, a hwnnw’n bel anferthol milltiroedd ar draws. Yn anffodus dyw’r parti ddim yn parhau, ma na idiom dda am Roegwyr ac anrhegion, ac mae’r ddynol ryw yn cael ei wthio nol at ddarn bychan o’r Ddaear, achos mae gan yr alien yma, The Traveller i’w rhoi ei enw cywir, ambell elyn. A pan dwi’n dweud ambell elyn dwi’n golygu mwy neu lai pawb arall sy’n byw yn y Llwybr Llaethog. Pob planed ni’n teithio iddo yn ystod y gem ma na rhywun efo ‘bach o biff’. ‘Dy nhw ddim yn hapus o gwbl. Pam? Dim syniad. Be ma’r boi ma wedi neud bod pawb mor grac? Does dim llawer o son am hwnna. Does dim llawer o son am ddim byd efo’r stori; pwy yw’r gelynion? Beth mae nhw’n neud? Lle mae’r Traveller wedi dod ohono? Dal, dim syniad. Dim o gwbl. A mae’r sgwennu, yn gyffredinol, yn sâl. Felly ymladd mae person yn neud yn Destiny. Llawer llawer iawn o ymladd… waldio boi fan hyn, ‘grenade’ fan draw, reifflen bach i din rhyw foi fan yna. Mwy neu lai yn ddi-stop. Ma’r profiad yn un llym. Mynd nol tro ar ol tro i’r un llefydd, aildroedio yr un amgylchedd, gan taw ardaloedd bychan iawn sy’n ymddangos ar y planedau yma. Ma fel Google Earth, ond dim on yn dangos Aber’dau’gwesyn.
Wedi dweud hwnna i gyd, ‘dwi wedi chwarae (yn ol bungie.net) 62 awr o’r gem hyd yn hyn. Felly y cwestiwn yw, sut? Sut mae person yn dod o hyd i’w hun mewn sefyllfa ble mae stori ac ardal gem yn ddi-gynwrf, ond wedi treilio dros 2 ddydd yn ei fyd? Dau beth sydd wedi fy nghaethweisio, gweithred gem llyfn (o mor llyfn – fel croen hyfryd Mari Lovgreen) ac elfennau RPG.
Y peth cyntaf ‘na, gweithred gem. Dychmygwch caramel ar haenen o fahogani, yn gorffwys ar goesau Iolo Williams sy’n ymlacio ar wely o pantherod. Smwwwwwwwwdddddddddddd. Llyyyyyyyyyyyyyfn. Perffaith, jysd perffaith. Teimlad y cymeriad yn eich llaw, dwysder a dawns ac ei ymddygiad wedi wireddu mewn modd synhwyrus a synhwyrol. A mae’r dealltwriaeth yna’n unfryd, os oes iaith ‘gamepad’ ynddoch yna mi fyddwch yn gwybod yn union beth i neud yn y gem, o’r eiliad cyntaf un. Mae’r weithred yn llifo drwy eich gweithiynnau.
Ac os taw’r weithred gem llyfn sy’n dal eich sylw yn yr eiliadau agoriadol yr ail beth yna, yr elfennau RPG sy’n eich cloi i’r gem. Does dim byd syrfdanol am y system datblygu cymeriad; mae i’w gweld mewn gemau di-ri: derbyn profiad, dod o hyd i eitemau ac arian, defnyddio elfennau i wella eich eitemau a.y.y.b. ond mae’n system ddigon cadarn, sydd yn ei dro mewn deuawd efo’r profiad-gem gwych. Gludwch hwn i’r syndod o chwarae gem saethu person-cyntaf a dwi’n amau fod e mor syml a hynny. Mae’n gweithio i Halo, ac mae’n gweithio i World of Warcraft, felly pam lai.
Mae camau gwag yn sicr, er enghraifft mae’r gem yn eich gosod fel rhyw fath o arwr unigryw i achub ein bodolaeth. ‘Da ni’n gyfarwydd a syniadaeth llyfr Joseph Campbell The Hero with a Thousand Faces, a pam fod bod yn unigryw o fewn stori ehangach yn bwysig i unrhyw fytholeg, ond tra’n crwydro bydoedd Destiny chi’n gweld eich cyd-chwaraewyr yn trotian pasio gan dorri unrhyw dealltwriaeth eich fod yn orchfygol dros bawb a phopeth. Os mae hwn yn rhan o’r profiad yna pam ddim deall ei effaith a siapio’r stori o’i gwmpas.
Ond mae llawer o hwyl i’w canfod pan yn dod ar draws chwaraewyr eraill, er enghraifft mae Elidir Jones wedi bod yn ymuno efo fi am ambell dro, ac mewn sawl ffordd yn torri fy mhwynt cynharach taw ond paffio yw Destiny. Wel mae o, ond hefyd, medrwch ddawnsio. Llawer o ddawnsio (gwelwch y fideo), a chreu sefyllfaoedd digon diddorol efo gemyddion eraill y byd boed yn yr hwb cymdeithasol neu yn crwydro’r ardaloedd eraill.
Na’i adael chi ar un nodyn. 62 awr. Digon o brawf i mi bod gem taclus dros ben fan hyn, a bod dyfodol disglair eto i Bungie.