Atgofion y Nadolig

Mae Nadolig rownd y gornel! Wel… os ‘da chi’n credu’r hysbysebion, o leia. Yn y byd go-iawn, mae ‘na bythefnos a hanner ar ôl. Digonedd o amser i wneud eich trefniadau a phrynu eich holl bresantau, hyd yn oed os ‘da chi ddim ‘di dechra meddwl am y peth eto.

Gobeithio.

Dyma’r adeg gora o’r flwyddyn i godi’r rheolydd ‘na a neidio i mewn i gêm anferth. Mae’r rhan fwya yn cael cyfle bach i ddianc o’r gwaith / coleg / ysgol, ac efo’r tywydd fel mae o, does ‘na ddim pwynt mynd allan beth bynnag.

Ac i fi, mae gymaint o atgofion Nadoligaidd fy mhlentyndod ynghlwm â gemau mewn rhyw ffordd. Mae ‘na gymaint o brofiadau wedi serio ar fy meddwl, ac mae Nadolig ar y cyfan wedi bod yn ran eitha allweddol o fy mywyd mewn gemau. Be am i ni gymryd cam yn ôl mewn amser, fel ryw ysbryd Dickens-aidd (fersiwn y Muppets, wrth gwrs), a chymryd golwg hiraethus ar rai o’r Nadoligau gora?

Yn y dechreuad…

Bore Nadolig 1988. Y tro cynta i fi chwarae gêm. Erioed.

Tair oed o’n i… a dwi ddim yn cofio lot o fy mywyd cyn hynny. Dim ond ryw ddarluniau aneglur, a dwi ddim yn gallu bod yn sicr bellach faint o wirionedd sydd yn rheini. Ond dwi’n cofio Nadolig 1988 yn rhyfeddol o glir. Dwi’n cofio gorwedd ar fy mol ar lawr y stafell fyw yn gwylio fy mrawd mawr yn troi’r Amstrad CPC 464 ymlaen, ac yn llwytho ei gêm cynta.

Wedyn roedd ‘na dipyn o saib, achos roedd llwytho gemau yn cymryd oesoedd bryd hynny…

Ac yna dwi’n cofio gweld y gêm Yie Ar Kung-Fu yn rhedeg. I fi wybod, dyna fy mhrofiad cynta un o gemau.

Dwi’n cofio’r gerddoriaeth, a gwylio fy mrawd yn chwarae, a wedyn ei drio fy hun… a methu’n llwyr, fwy na thebyg, cyn rhedeg i ffwrdd a chwarae efo Duplo neu be bynnag. Ac mae’n wir bod y gêm yn edrych yn hollol, hollol rybish erbyn hyn, ond ella wir mai Yie Ar Kung-Fu oedd y gêm pwysica i fi chwarae. Fan hyn ddechreuodd bob dim.

Blynyddoedd Donkey Kong

Rhwng 1994 ac 1996, doedd dim byd yn sgrechian ‘Nadolig’ i fi yn fwy na’r gemau Donkey Kong Country. Dim hyd yn oed y ffilm Ernest Saves Christmas.

Dwi’n gwbod. Deud mawr.

Roedd graffeg Donkey Kong Country yn chwyldroadol nôl yn 1994. Y tro cynta iddo gael ei ddatgelu, roedd rhai’n credu ei fod am gael ei rhyddhau ar y Nintendo 64 (oedd dair mlynedd i ffwrdd ar y pwynt yna) yn hytrach na’r Super Nintendo. Felly roedd cael chwarae’r gêm y Nadolig yna fel cymryd cam ymlaen mewn amser. Ar ben bob dim, roedd y gêm yn cynnwys un o’r lefelau mwya Nadoligaidd erioed. Wnes i ei chwarae drwy’r dydd, er mawr ddryswch i Nain.

A wedyn daeth DKC2: Diddy’s Kong Quest yn 1995 – y gêm gorau yn y gyfres, yn fy marn i, yn cynnwys rhai o ganeuon mwya cofiadwy’r oes. A doedd DKC3: Dixie Kong’s Double Trouble yn 1996 ddim yn ffôl chwaith… ond erbyn hynny, roedd hi’n anodd canolbwyntio ar unrhywbeth oni bai am y Nintendo 64 rownd y gornel. A wnes i hefyd dderbyn Earthbound, fy hoff gêm erioed, y Nadolig yna. Doedd dim lot o siawns gan DKC3, chwarae teg.

Hyd yn oed heddiw, pan dwi’n meddwl am gemau a’r Nadolig, Donkey Kong Country sy’n dod i’r meddwl gynta. Er bod ‘na gyfnod reit llewyrchus wedi dod yn syth wedi hynny, yn oes yr N64. Gan gynnwys un Nadolig bythgofiadwy…

Ocarina Of Time

Doedd rhag-archebu gemau ddim yn beth oedd pobol yn ei wneud nôl yn 1998. Sy’n esbonio’r rhuthr gwyllt pan ymddangosodd The Legend Of Zelda: Ocarina Of Time y flwyddyn yna. Am gyfnod, doeddwn i ddim yn meddwl y byswn i’n llwyddo cael gafael ar gopi mewn pryd. Ac er bod gen i F-Zero X 1080 Snowboarding yn y bag yn barod, roedd hynny’n dipyn o ergyd.

Oherwydd hyn i gyd, pan gawson ni hyd i gopi o’r diwedd, a pan ges i gyfle i’w chwarae fore Dolig, roedd y profiad gymaint yn fwy arbennig. Mae Ocarina Of Time yn un o’r gemau prin ‘na sydd mor dda heddiw a’r diwrnod gafodd o ei ryddhau. A does ‘na ddim rhan o’r gêm dwi’n ei hoffi’n fwy na’r dechra, lle ‘da chi’n crwydro’r goedwig niwlog, yn dod i ddysgu am fecanwaith y gêm yn araf ac yn bwyllog. Bob tro dwi’n ailymweld â’r gêm (sy’n eitha aml), mae atgofion o fore Dolig 1998 yn rhuthro’n ôl pan dwi’n chwarae’r darn yna.

Kokiri_Forest

Wnaeth o fy nharo i ar adeg penodol iawn, lle doedd chwilfrydedd a brwdfrydedd plentyndod ddim eto wedi fy ngadael yn gyfangwbl, ond ro’n i hefyd yn ddigon aeddfed i allu adnabod campwaith pan o’n i’n ei weld o. Dwi’n eitha sicr y bydd ‘na ddim bore Dolig tebyg yn dod eto.

Be amdanoch chi? Oes ganddoch chi atgofion mor hudolus â rhein? Scarcely believe. Ond teimlwch yn rhydd i’w sticio nhw yn y sylwadau beth bynnag. Ac oes ‘na unrhywbeth arbennig yn debyg o lanio dan y goeden flwyddyn yma? Fyswn i wrth fy modd yn cael gwybod. Rhannwch yr hud, bobol.

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s