Gemau Diweddar, Rhan 10

Bwndel arall o gemau newydd wedi eu gorffen, gan roi amser dros dymor y Nadolig i fi dicio chydig oddi ar y rhestr o hen gemau sgen i eto i’w chwarae. Gobeithio. Ella.

Awn ni drwy’r stwff ‘ma, fi a chi? Ella bod ‘na rwbath yma fysa chi’n hoffi ei ffeindio o dan y goeden eich hun…

Uncharted: Drake’s Fortune (PS3 / PS4, 2007)

Uncharted 2: Among Thieves (PS3 / PS4, 2009)

Uncharted 3: Drake’s Deception (PS3 / PS4, 2011)

Rhywbeth fymryn yn wahanol i gychwyn pethau – fe es i drwy’r casgliad Uncharted: The Nathan Drake Collection ar y PS4 (yn eithriadol o gyflym, gyda llaw), gan ‘mod i erioed ‘di chwarae’r gyfres o’r blaen.  Felly o’n i’n meddwl y byswn i’n trafod y gemau efo’i gilydd. You know it makes sense.

1530e91a14399430686d088077f6f7a0

Anaml iawn mae hi’n syniad da chwarae cyfres o gemau’n syth ar ôl ei gilydd. Dwi’n dal i gofio’r tro wnes i chwarae Gears Of War 1 – 3, a sut roedd yr holl beth yn llifo i mewn i un. Ac er bod y profiad o chwarae’r gemau Uncharted yn weddol debyg, mae’r ysgrifennu a’r straeon Indiana Jones-aidd yn llwyddo i’w gwahanu nhw, a rhoi’r argraff eu bod yn dri profiad cwbwl wahanol.

Ac mae’r gemau yn gwella wrth iddyn nhw fynd ymlaen, dwi’n meddwl. Er bod llawer yn rhoi Uncharted 2 uwchben y gweddill, i fi, Uncharted 3 oedd yn sefyll allan. Yn fras, mae’r gemau wedi eu gwahanu yn sawl rhan gwahanol: yn ddarnau saethu, darnau arafach a mwy storïol, posau, darnau lle ‘da chi’n dringo o gwmpas y lle fel mwnci gwallgo, ac ychydig o ddarnau mewn cerbydau. Dwi’n meddwl mai Uncharted 3 gafodd y balans gorau rhwng rhain, a rhoi llai o bwyslais ar y darnau saethu sydd – yn y gêm cynta, yn arbennig – yn eithriadol o syrffedus ar adegau.

Fyswn i yn argymell Uncharted Collection i unrhywun, fel fi, sy’n anwybodus o’r gyfres. Mae lot o’r syniadau wedi cael eu hail-ddefnyddio a’u gwella yn The Last Of Us, ond os ‘da chi isio profiad ysgafnach, sy’n cymryd eich anadl ar adegau, ac ychydig o’r ysgrifennu gora mewn gemau, mae hwn yn dipyn o fargen.

Yoshi’s Woolly World (Wii U, 2015)

Y gêm mwya ciwt erioed. Sbiwch, mewn difri.

Dwi’n dal i feddwl bod Yoshi’s Island ar y Super Nintendo yn un o’r gemau platfform gora erioed, ac mae Nintendo wedi trio ail-greu hud y gêm yna dro ar ôl tro, efo Yoshi’s Story, Yoshi’s Island DS, Yoshi’s New Island, ac yn y blaen. Ar y cyfan, dwi ddim yn meddwl bod y gemau yma wedi bod hanner cystal â’r cynta.

Bosib mai Yoshi’s Woolly World ydi’r gora o blith rheini… dim bod hynny’n dweud lot. Does ‘na ddim lot yn bod efo’r gêm yn sylfaenol. Fel lot o gemau Nintendo, fedrith plant ifanc ei chwarae heb broblem, ond mae ‘na ddigon o elfennau ychwanegol i roi sialens dda i’r to hŷn. Yn ymarferol, i gyd sydd angen i chi wneud i ddod o hyd i’r stwff cudd i gyd ydi crwydro o gwmpas bob modfedd o’r lefelau, yn chwilota ym mhob twll a chornel. A gan gofio bod y lefelau yn weddol hir ar y cyfan, mae’n gallu bod yn broses eitha diflas.

Mae ‘na rai pethau am y gêm sy’n sefyll allan. Y gerddoriaeth, er enghraifft, sydd ymysg y gorau dwi ‘di glywed y genhedlaeth yma. Gwych. Ac mae ‘na rai lefelau unigol sy’n bril. Ond ar y cyfan, dyma gêm sy’n eitha da i’r plant, ond mae ‘na gemau platfform 2D llawer gwell ar y Wii U i bawb arall.

Game Of Thrones: Season 1 (PS4 / Xbox One / PS3 / Xbox 360 / PC / iOS / Android, 2014 – 2015)

A, Game Of Thrones. Dwi’n dy garu di.

Os ‘da chi ddim yn gyfarwydd â llyfrau George R.R. Martin, neu’r gyfres deledu sydd wedi ei seilio arnyn nhw (yn fwy ac yn fwy bras wrth iddo fo fynd ymlaen), fyddwch chi ddim yn deall y gêm. Gawn ni hynny allan o’r ffordd. Yn dechrau o gwmpas cyfres 3 o’r rhaglen, mae’n dilyn teulu o’r gogledd, y Forresters, wrth iddyn nhw wynebu amryw o beryglon newydd yn dilyn y “briodas goch”.

Eto. PEIDIWCH â chlicio ar y linc ‘na os ‘da chi ddim ‘di gweld y gyfres.

Ond os ‘da chi’n hen gyfarwydd â byd Westeros, mae ‘na amryw o resymau pam ddyliech chi chwarae’r gêm gan TelltaleYn un peth, mae’n cael ei leisio gan rai o gast y rhaglen deledu, gan gynnwys Emilia Clarke (Daenerys), Peter Dinklage (Tyrion), Lena Headey (Cersei), Natalie Dormer (Margaery), ac – mae’n falch gen i ddweud, yn bod mor syfrdanol o sadistig ag arfer – Iwan Rheon (Ramsay). Mae’n gêm sy’n gwella wrth fynd ymlaen – i ddechra, ro’n i’n meddwl bod y teulu Forrester fymryn yn rhy debyg i’r teulu Stark cyfarwydd, ond wrth i amser basio, mae’r gêm yn llwyddo i adrodd ei stori ei hun, ac yn cyflwyno cymeriadau hollol wreiddiol, ond sy’n ffitio’n berffaith i mewn i’r byd beth bynnag. Ella bod y datblygiadau yna’n cymryd dipyn bach gormod o amser i ddod, a dwi ddim yn meddwl bod Game Of Thrones yn cyrraedd uchelfannau’r gemau The Walking Dead, ond dwi’n edrych ymlaen at ail gyfres yn fawr iawn beth bynnag, ac yn gobeithio y gwneith y gêm yna gychwyn mor gryf ac y mae hon yn gorffen. Dim ond gobeithio fydd y gêm nesa ddim yn cymryd gymaint o amser i ymddangos â The Winds Of Winter.

Fallout 4 (PS4 / Xbox One / PC, 2015)

Welsoch chi fi’n adolygu hwn ar ddydd Mercher?

Na? Be ‘da chi ‘di bod yn ei wneud efo’ch bywyd?

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s