Satoru Iwata, 1959 – 2015

Roeddwn i am bostio rhywbeth gwahanol heddiw, ond mae’n rhaid talu teyrnged i bennaeth Nintendo, Satoru Iwata, wnaeth huno Ddydd Sadwrn yn 55 oed.satoru-iwata-nintendo-1

Yn wreiddiol, ro’n i’n bwriadu sôn am waith Mr Iwata yn gynta, a wedyn symud ymlaen at ei bersonoliaeth a’i ddelwedd boblogaidd. Ond mae’n anodd iawn gwahanu’r ddwy ochr ohono. Felly gawn ni ddechrau o’r dechrau…

Wedi treulio ei ieuenctid yn arbrofi efo rhaglennu, fe wnaeth Satoru Iwata gychwyn gwneud gemau yn broffesiynol yn yr 80au cynnar. Yn ystod y rhan yma o’i yrfa, fe wnaeth o weithio ar glasuron fel Balloon Fight, y gemau Kirby, a’r gemau Pokemon. Ac ar ben hynny i gyd, fe wnaeth o raglennu fy hoff gêm erioedEarthbound, fwy neu lai ar ben ei hun.

Yn 2002, fe wnaeth o ddod yn bennaeth Nintendo wedi ymddeoliad Hiroshi Yamauchi – a’r dyn cynta y tu allan i’r teulu Yamauchi i wneud hynny. Mae’n anodd dychmygu dau ffigwr mwy gwahanol. Tra bod Yamauchi yn llym ac yn ddi-wên, roedd Iwata wastad yn chwerthin ac yn gwneud jôcs. Tra bod Yamauchi yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gadael i eraill fod yn “wyneb y cwmni”, fe wnaeth Iwata wneud bob ymdrech i hybu ei ddelwedd gyhoeddus a dod yn agosach at y gynulleidfa. Ac yn bwysicach na hyn i gyd, tra bod Yamauchi ddim yn chwarae gemau ei hun – sy’n dipyn o anfantais i bennaeth cwmni fel Nintendo – roedd Satoru Iwata yn byw gemau. Fel ddywedodd o ei hun:

“On my business card, I am a corporate president. In my mind, I am a game developer. But in my heart, I am a gamer.”

Serch hynny, doedd y “gamers” (ac – ych – pa mor annifyr ydi’r term yna erbyn hyn?) ddim wastad ar ochr Mr Iwata, yn enwedig yn ddiweddar. Roedd shifft y cwmni efo systemau fel y DS a’r Wii i apelio at bobol doedd ddim yn draddodiadol yn chwarae gemau wedi digio lot o bobol, oedd yn cysidro hyn yn ryw fath o fradychiad. Ond mae’n bwysig cofio mai’r system cartre ddaeth allan cyn y Wii, a cyn i Satoru Iwata gymryd rheolaeth o’r cwmni, oedd y Gamecube – consol reit solet, ond wnaeth o byth roi’r byd ar dân, na gwneud unrhywbeth arbennig o wreiddiol. Bryd hynny, roedd Nintendo mewn peryg o fod yn amherthnasol. Efo’r Wii, fe wnaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd o Nintendo ffrwydro unwaith eto. Roedd pobol yn siarad am y cwmni mwy nag oedden nhw ers dyddiau’r NES, ac efallai mwy nag erioed.

Yn ddiweddar, efo methiant masnachol y Wii U yn achosi pryder, fe wnaeth Mr Iwata ddangos ei gymeriad unwaith eto, gan wrthod cael gwared ar yr un aelod o staff, a thorri ei gyflog ei hun yn ei hanner.

Ddwywaith.

Mae hwnna’n syfrdanol. Faint o CEOs eraill fyddai’n gwneud yr un peth, sgwn i?

Roedd hi’n hyfryd bore ‘ma gweld negeseuon gan bobol o bob rhan o’r byd gemau yn talu teyrnged i Mr Iwata, gan gynnwys…

Dwi’n gobeithio y bydd pawb yn gallu taflu eu hen syniadau gwirion, llwythgarol, ffanboy-aidd o’r neilltu am y tro, a jyst gwerthfawrogi dyn wnaeth weithio mor galed ac aberthu gymaint, nid ar gyfer un cwmni, ond ar gyfer gemau.

Ac felly, efo lot o syniadau a threfniadau newydd Mr Iwata ar eu hanner neu heb eu cyflawni eto – pethau fel datblygu gemau ar gyfer ffonau symudol, a dyfodiad y consol newydd “NX” – mae pwy bynnag wneith gymryd y llyw ar ei ôl o mewn sefyllfa anodd, ac yn gorfod gwneud eu gwaith tra’n sefyll mewn cysgod mawr iawn. Ond, os wnawn nhw gofio rhai eraill o’u eiriau – geiriau mae gymaint o bobol sy’n ymwneud â gemau wedi eu anghofio, gyda llaw – mae’n bur annhebyg y gwnawn nhw fethu.

“Video games are meant to be just one thing. Fun! Fun for everyone.”

Heddwch i lwch Satoru Iwata.

– Elidir

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s