Deuddeg wythnos tan y Nadolig, ac mae’r diwydiant gemau yn cychwyn codi stêm. Dyma’r tymor prysur – yr adeg yna o’r flwyddyn lle mae’r holl gemau mawr yn tueddu i ruthro allan ar yr un pryd, gan adael pobol fel finnau a chithau yn brwydro i ddal i fyny efo’r holl beth. Mae gen i ormod o gemau heb eu gorffen yn y peil yn barod – ac mae’r peil yn mynd yn fwy ac yn fwy, diolch i’r ffaith ‘mod i ddim wedi bod yn chwarae unrhywbeth oni bai am Destiny yn ddiweddar. Mae ‘na ran mawr ohona i’n edrych ymlaen, wrth gwrs. Ond mae ‘na ran arall ohona i sydd jyst isio cropian o dan y dillad gwely a chrio.
Yn yr ysbryd yna, felly, be am gymryd golwg ar rai o’r gemau fydd yn cael gymaint o effaith cadarnhaol ar fy mywyd dros y misoedd nesa?
Ia wir. ‘Na ni ta.
Middle-Earth: Shadow of Mordor (Hydref 3)
Do’n i ddim wedi talu lot o sylw i hwn tan i Daf Prys ddechrau rhygnu ymlaen amdano fo. A roedd o’n swnio’n ddigon difyr, yn cymryd lot o’i ddylanwad o’r gemau Arkham, o Far Cry, o Assassin’s Creed, oll wedi ei roi at ei gilydd efo bŵa bach neis ar y top ym myd briliant J.R.R. Tolkien. Digon teidi.
A wedyn fe wnaeth yr adolygiadau ddechrau rowlio i mewn, gan gynnwys hwn gan Kotaku, a hwn gan IGN:
Ac yn ddigon sydyn, mae o’n edrych yn hollol briliant. Mae ymddygiad yr holl elynion yn y gêm wastad yn esblygu ac yn shifftio yn dibynnu ar sut ‘da chi’n chwarae, gan ddefnyddio mecanweithiau sy’n rhyfeddol o debyg i rai sydd i’w cael mewn sawl gêm fwrdd modern. A ‘da chi’n gwybod yn barod faint dwi’n licio rheini. Fedra i ddim disgwyl tan i hwn lanio ar Ddydd Gwener.
Ia, Dydd Gwener yma. Sy’n rhoi ryw bedwar diwrnod i fi wibio drwyddo fo – sydd byth yn mynd i ddigwydd, gyda llaw – cyn…
Alien: Isolation (Hydref 7)
Er bod y gêm Alien ddiwetha, Colonial Marines, yn gwbwl, gwbwl rybish, dwi wedi ordro Alien: Isolation yn barod, cyn gweld yr adolygiadau. Mae ‘na sawl rheswm am hyn. Yn un peth, mae o’n cael ei ddatblygu gan Creative Assembly, sy’n dueddol o ddod allan efo stwff reit dda. Hefyd, fe fydd ein ffans selog yn gwybod ‘mod i wedi mynychu sgwrs am y gêm yn barod, ac wedi dod allan o’r peth yn edrych ymlaen at Isolation cryn dipyn.
Ond ella yn bwysicach na dim, dwi’n planio gwneud adolygiad fideo ohono fo, a fedra i wneud hwnna hyd yn oed os ydi o’n hollol ddi-werth. Mae’n gêm digon brawychus i’w adolygu’n agos at Galan Gaeaf, ddweda i. Ac fe fydd ganddon ni lond trol o stwff sbwci arall yn dod i fyny ‘fyd. Ond mae hwnna’n stori ar gyfer rhywdro eto. Mwa ha ha.
Bayonetta 2 (Hydref 24)
Wnes i chwarae’r Bayonetta cynta yn ddiweddar, a gewch chi ddarllen am fy mhrofiadau i fan hyn. Dydach chi’n lwcus?
Ac o, mae fy nghorff i’n barod ar gyfer yr ail un. Yn un peth, mae hi wastad yn braf gweld rhywbeth newydd a da ar y Wii U. Hefyd, mae’n bosib gwisgo Bayonetta fel Fox McCloud o’r gemau Starfox.
Dwi’n gwbod. O’r diwedd.
Assassin’s Creed Unity (Tachwedd 13)
OK. Felly mae Ubi Soft wedi gwrthod rhoi unrhyw gymeriadau benywaidd allwch chi eu rheoli i mewn i Assassin’s Creed Unity, er bod hi’n ddigon hawdd gwneud, mae’n debyg. Roedd ‘na gontrofersi mawr am y peth, wnaeth ddatblygu a bwydo controfersi lot mwy, ac mae’r holl beth wedi achosi embaras mawr i’r diwydiant gemau yn gyffredinol.
Ond roedd Assassin’s Creed IV jyst mor dda. Ac er nad ydi Unity yn cynnwys unrhyw ddarnau lle ‘da chi’n cael smalio bod yn fôr leidr – darn gorau AS4, o bell ffordd – mae o yn cynnwys llwyth o elfennau RPG, sy’n newydd i’r gyfres. Mae unrhyw gêm sy’n gadael i chi ffidlo efo gêr eich cymeriad yn apelio ata i’n syth. Ac mae o’n edrych yn syfrdanol.
Ac… o. Dwi’n mynd i brynu hwn a suddo lot gormod o oriau i mewn iddo fo, dydw? O diar.
Far Cry 4 (Tachwedd 18)
Dwi newydd orffen Far Cry 3, ddwy flynedd ar ôl iddo fo ddod allan. Fel lot o gemau Ubi Soft, doedd ‘na ddim lot o amrywiaeth ynddo fo, ond es i drwy’r holl gêm beth bynnag. Wnes i bob. Un. Dim. A dwi’n edrych ymlaen at wneud yr un peth eto yn Far Cry 4. Fydda i’n ei chwarae ar y PS4, felly fydd o’n edrych yn brydferth ofnadwy. Ac mae o i gyd yn digwydd yn yr Himalayas yn hytrach nag ar ynys drofannol. Ond fel arall, dwi ddim yn disgwyl i lot fawr newid. A dwi’n hollol iawn efo hwnna.
Super Smash Bros. for Wii U (Cyn Dolig?)
Does ‘na ddim dyddiad pendant ar gyfer hwn eto. Ond mae’n rhaid iddo fo ddod allan cyn Dolig. Mae’n rhaid iddo fo. Mae Hyrule Warriors newydd ddod allan, ac mae Bayonetta 2 ar y ffordd, fel dwedais i. A rŵan bod Captain Toad: Treasure Tracker wedi ei wthio’n ôl i fis Ionawr, fydd ‘na ddim byd arall o werth yn ymddangos ar y Wii U cyn Dolig.
Ond gan gymryd y bydd Smash Bros. yn ymddangos ar amser (a dwi’n meddwl y gwneith o), dwi’n meddwl fydd o’n lwyddiant mawr. Fel Mario Kart, mae Smash Bros. yn gyfres sy’n apelio at y rhai sy’n chwarae gemau o bryd i’w gilydd a’r rhai sy’n bwyta, yfed ac yn anadlu gemau ill dau. Ac mae Nintendo wedi mynd allan o’u ffordd i apelio at y nifer sylweddol o bobol sy’n dal i chwarae Super Smash Bros. Melee ar y Gamecube, wrth greu dyfais nyts sy’n gadael i chi ddefnyddio pad y Gamecube ar y Wii U. Ond mae’r gêm yn mynd i werthu fel cacs poeth, bois bach. Ac yn llawn haeddu gwneud hefyd, dwi’n siŵr.
A hei, gan bod ein twrnament Mario Kart wedi bod yn gymaint o lwyddiant, oes ‘na unrhywun ffansi un Smash Bros? Dim ond un rheol, fel arfer: fi ‘di Donkey Kong. Fi a neb arall.
Dim dyna bopeth sy’n dod allan, wrth gwrs. Ond dim ond un dyn ydw i. Yn anffodus. Felly, am amryw o resymau, fydda i ddim yn chwarae’r gemau yma…
Driveclub
Forza Horizon 2
Super Smash Bros. for 3DS
Sid Meier’s Civilization: Beyond Earth
The Evil Within
Sunset Overdrive
Rocksmith 2014
Assassin’s Creed Rogue
Dragon’s Age: Inquisition
… ond mae croeso i chi wneud. Does dim rhaid i chi fy nilyn i’n ddifeddwl drwy’r amser fel caethweision, ‘chi.
Er… mae croeso i chi wneud hwnna ‘fyd.
– Elidir
[…] amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto, pan mae’r holl gemau newydd yn rhuthro allan ar unwaith yn barod ar gyfer […]