Cyfweliad: Nia Edwards-Behi o Abertoir

Pan ‘da chi’n meddwl am arswyd, pa lefydd sy’n dod i’r meddwl? Transylvania? Sleepy Hollow? Y Bates Motel?

Aberystwyth?

Wel, ddylsa fo, achos am wyth mlynedd bellach, mae gŵyl arswyd Abertoir wedi bod yn troi Aberystwyth yn le y bysa Leatherface, Lestat, neu’r Bwystfil o 20,000 Fathom yn falch o’i alw’n gartre. Gyda gormod o ffilmiau yn cael eu dangos i’w rhestru, premieres, darlithoedd, disgos, a mwy, ddylsa bob ffan o ffilmiau arswyd heidio i’r lle – rhwng Tachwedd 11-16 – fel gwenyn tuag at Nicholas Cage yn The Wicker Man (fersiwn 2006).

Yn ddiweddar, wnes i yrru llwyth o gwestiynau at Nia Edwards-Behi, un o gyfarwyddwyr yr ŵyl, a disgwyl i hi wneud fy ngwaith drosta i. A chwarae teg iddi, wnaeth hi gytuno. Felly steddwch lawr efo platiad poeth o Soylent Green, a mwynhewch.

**********

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd efo gŵyl Abertoir, elli di esbonio dipyn bach amdano fo?

Gŵyl Arswyd yw Abertoir, sydd wedi bod yn digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ers 2006. Yn bennaf, gŵyl ffilmiau ydyn ni, yn cynnwys ffilmiau mud, ffilmiau byrion, clasuron a ffilmiau newydd sbon, ond pob blwyddyn rydyn ni’n hefyd yn rhoi ‘mlaen sioe theatr, noson gerddorol, darlithoedd a sgyrsiau gyda’n gwesteion arbennig. Rydyn ni’n falch iawn o fedru cynnig gŵyl amrywiol pob blwyddyn, ond gyda arswyd yng nghalon y peth i gyd.

Be ydi hanes Abertoir? Sut ddechreuodd yr ŵyl?

Dechreuwyd yr ŵyl gan Gaz Bailey, sy’n rhedeg y sinema yn y Ganolfan. Yn 2006 roedd cyfarwyddwr The Wicker Man, Robin Hardy, yn teithio efo’i lyfr newydd, a penderfynodd Gaz ei wahodd i Aberystwyth a hefyd gwneud dangosiad o The Wicker Man, a wedyn un neu ddau o ffilmiau arswyd eraill dros un penwythnos. A wedyn dyma fo yn gwneud yr un peth y flwyddyn nesaf, a nesaf…tan i’r ŵyl dyfu a thyfu i’r ŵyl enfawr sydd gynnon ni erbyn heddiw. Wedi dechrau fel gŵyl 3-diwrnod yn 2006, mae’r ŵyl rŵan yn mynd ‘mlaen am 6 diwrnod, heb ddim ail-adrodd o’r ffilmiau na’r digwyddiadau. Amcan arall yr ŵyl oedd i ddod a digwyddiad o’r fath i Gymru – mae llawer o digwyddiadau ffilmiau arswyd gwych yn digwydd ar hyd Prydain, ond fel mae unrhyw un sydd wedi bod yn Aber yn gwybod, mae’n gallu bod yn anodd iawn i drafeilio i lefydd eraill…! Yn bersonol, dechreuais i gyda Abertoir fel cwsmer yn unig, yn y flwyddyn gyntaf, ac ers hynny wedi helpu mwy a mwy, nes i mi ddod yn gyd-gyfarwyddwr yr ŵyl yn 2012.

Oes gen ti uchafbwyntiau o’r ŵyl yn y gorffennol?

Lot fawr, oes! Yn amlwg, mae lot o ffilmiau o’r gorffennol yn sefyll allan, a mae’n wir gymaint o bleser cael gweld ffilmiau newydd ar y sgrin fawr (yn aml iawn ffilmiau wneith falle ddim cael ei dangos unrhywman arall!), ond hefyd y cyfle i weld rhai clasuron ar y sgrin fawr hefyd. Rydym wedi cael rhai gwesteion cofiadwy hefyd, gan gynnwys merch yr actor Vincent Price, oedd wrth ei bodd cael dod ar gyfer yr ŵyl i Aberystwyth, ac hefyd i ymchwilio i wreiddiau Cymreig ei thad hi yn y Llyfrgell Genedlaethol!

Be allwn ni ddisgwyl yn yr ŵyl flwyddyn yma?

Loads! Ein prif thema yw’r 80au, gan bod hi’n 30 mlynedd ers creu’r ‘Video Recordings Act’, fel canlyniad ymgyrch y ‘video nasties’. Ein prif westai yw’r cyfarwyddwr Luigi Cozzi a’r actor Ian McCulloch, a bydden nhw’n ymuno efo ni wrth i ni ddangos eu ffilm nhw, Contamination, sef ffilm oedd ar rhestr y ‘video nasties’ nol yn yr 80au. Ffilm arall oedd ar y restr oedd Bay of Blood, gan Mario Bava, a rydyn ni’n dangos y ffilm oddi ar fideo gwreiddiol o gyfnod y ‘nasties’! Wrth gwrs, nid yw dathliad o’r 80au yn gyflawn heb disco, felly ar nos Wener yr ŵyl mae gynnon ni ddangosiad o Gremlins wedi’i dilyn gan ddisgo, gyda dancefloor sy’n goleuo a bob dim…ond mi fydd dipyn o ‘twist’ ar y disgo hefyd! Mae gynnon ni lond sach o ffilmiau newydd, gan gynnwys pedwar ‘premiere’ Prydeinig (gan gynnwys Over Your Dead Body, ffilm newydd Takashi Miike!), Dead Snow 2, The Editor, ABCs of Death 2, The Canal a ffilm newydd Kevin Smith, Tusk…a llawer mwy! Y digwyddiad mwyaf cyffrous sydd gyda ni blwyddyn yma ydi dangosiad o’r ffilm Horror Express, gyda Christopher Lee a Peter Cushing, ar blatfform Rheilffordd y Rheidol, ar ol i ni fynd a phawb ar siwrne fach ar y trên i Gapel Bangor a nôl, lle bydd straeon arswydus lleol yn cael eu hadrodd. Dwi’n meddwl dyna fydd y digwyddiad mwyaf uchelgeisiol erioed wedi cael ei gynnal gan Abertoir!

Mae Abertoir hefyd yn dod i Chapter yng Nghaerdydd flwyddyn yma. Be allwn ni ddisgwyl yn fanno?

Ni’n wrth ein boddau cael y cyfle i weithio gyda Chapter y blynyddoedd diwethaf ‘ma. Blwyddyn yma ar Galan Gaeaf rydyn yn dangos detholiad o ffilmiau byrion, ffilmiau newydd Coherance a The House at the End of Time, y clasur Lifeforce a hefyd bydd y digrifwyr Nicko a Joe yn cynnal eu Bad Film Club gyda dangosiad o The Faculty. Mae pob dim yn ein diwrnod Chapter ni hefo dipyn o flas ffuglen-wyddonol hefyd, i gyd-fynd gyda’r tymor BFI Sci-Fi: Days of Fear and Wonder.

Oes ‘na ddigon o gynrychiolaeth i Gymru mewn ffilmiau arswyd yn gyffredinol?

Yn fy marn i, nagoes. Mae’r cynrychiolaeth yn tyfu, yn sicr, ond does ddim wir presenoldeb o Gymru mewn ffilmiau arswyd mewn ffordd hynod o amlwg. Mae dipyn o waith yn cael ei wneud yn Ne Cymru, gan cyfarwyddwyr fel James Plumb a Andrew Jones, a mae’n wych gweld pobol brwdfrydig yn gwneud ffilmiau arswyd yn anibynnol ac heb gyllideb enfawr. Wedi dweud hyn i gyd, mae ‘na sicr diffyg arswyd yn yr iaith Gymraeg, a mae hynny’n siom enfawr , dwi’n meddwl. Ond eto, mae’n braf gweld mwy o diddordeb yn dechrau digwydd, fel y rhaglen Sombis! oedd ar S4C flwyddyn diwethaf, a rhaglen ddogfen Gary Slaymaker ar gyfer Radio Cymru. Mwy o hyn i gyd, plis!

Be ydi rhai o’r ffilmiau arswyd gorau sydd wedi cynnwys Cymru mewn rhyw ffordd? A’r rhai ychydig llai llwyddiannus?

The Wolf Man, o 1941, gyda Lon Chaney Jr., yw’r gorau i mi! Mae’r ffilm i fod wedi’i leoli yng Nghymru, ond does ddiawl i ddim yn y ffilm i wneud hynny’n amlwg…! Yn lot fwy diweddar, dwi’n hoff iawn o’r ffilm Devil’s Bridge, gan Chris Crow, sydd wedi’i leoli’n amlwg iawn yn Nghymru. Yn llai llwyddianus…wel, nid yw The House of Long Shadows yn ffilm dda iawn, er fy mod i’n eithaf mwynhau’r peth – anodd peidio gyda cast sy’n cynnwys Christoper Lee, Peter Cushing a Vincent Price!

Sut es ti yn ffan o ffilmiau arswyd yn y lle cynta?

Pan o’n i’n iau o’n i’n hoffi’n fawr iawn pethau fel The X-Files a Buffy, pethau ar teledu yn bennaf, ond wedyn dechreuais i cwrs Astudiaethau Ffilm yn Aberystwyth yr un blwyddyn a ddechreuoedd Abertoir, a dwi’n meddwl bod cyfuniad o hwyl Abertoir a myfyrdod yr astudiaethau wedi llwyr gwneud i mi syrthio mewn cariad efo’r genre. Mae’n beth mor enfawr a mor amrywiol, o ffilmiau dwfn, deallusol i ffilmiau gore, mae jyst pob dim ar gael o fewn arswyd.

C’mon ta. Be ydi dy hoff ffilmiau arswyd erioed? A ti ddim yn cael dewis Leprechaun: In Da Hood. Rhy amlwg.

Mae hynny’n gwestiwn mor greulon! Yr ateb dwi’n dueddol o roi yw The Cabinet of Doctor Caligari, sef ffilm mud o 1919, a sy’n mwy ‘pre-horror’ na wir arswyd. Ond mae’n mor anodd dewis ond un, gan bod gymaint o amrywiaeth! Os dwi’n dewis un, dwi’n difaru wedyn peidio dewis rhywbeth arall, fel Hand of Orlac, neu Last House on the Left, neu Blood on Satan’s Claw, neu Martyrs, neu…

Y cwestiwn ola, a’r mwya pwysig: pwy fysa’n ennill mewn ffeit rhwng Bela Lugosi a Boris Karloff?

Karloff v Lugosi

Sa’n agos, ond dwi’n meddwl Karloff. Mae ‘na rhywbeth amdano fo sy’n gwneud i mi feddwl bydda fo wedi medru bod yn didostur os oedd angen.

**********

Isio mwy o wybodaeth am Abertoir? BAM! Sut mae abertoir.co.uk yn eich siwtio chi? Dim digon da? Isio linc i’w tudalen Facebook? KA-POW! A be am Twitter? KER-CHING.

Unwaith eto, mae o rhwng Tachwedd 11 – 16, yng nghanolbwynt y byd arswyd, Aberystwyth. Mae o’n swnio’n briliant. Ewch.

– Elidir

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s