Mae’r amser wedi dod i gario ‘mlaen efo’r gyfres fwya poblogaidd ar Fideo Wyth erioed. Ac os dyma’r peth mwya poblogaidd ‘da ni erioed wedi wneud, dwi’n meddwl bod rhaid i ni gymryd golwg reit ddifrifol ar ein bywydau ni.
Ond ta waeth. Dyma fo. Pennod dau o Er Mwyn Byw. A’r tro yma, mae Rhys Mwyn yn gwadd gwestai arbennig i’r tŷ. Ond ydi o’n ormod iddo fo allu handlo?
SPOILERS: ydi.