Mae’r farn ar Alien Isolation wedi bod yn gymysg, i ddweud y lleia. Tra bod rhai wedi ei weld fel enghraifft meistrolgar o gêm survival horror, mae eraill wedi bod yn hallt iawn, ac wedi cymharu’r peth i Colonial Marines o’r flwyddyn diwetha. Oedd yn hollol rybish.
Wel, allwch chi ymlacio rŵan, achos bod Fideo Wyth yma i roi’r unig adolygiad allwch chi drystio. Yr UNIG UN.
Rhybudd. Mae’r adolygiad yma’n cynnwys: ofn, braw, dychryn, dwsinau o farwolaethau, ac un gân stiwpid iawn. Mwynhewch.
– Elidir