Saga Rhyfedd y Retron 5

Yn ddiweddar, cafodd byd y gemau ei daro gan sgandal – a dwi ddim yn golygu Gamergate (ac – o ddifri – geith Gamergate jyst fynd i grafu ar y pwynt yma), na dibyniaeth Pikachu i alcohol. Mae’n sgandal sydd wedi taro un consol yn benodol – ond mae’n debyg bod o’n gonsol dydach chi erioed wedi clywed amdano fo. Ond beth bynnag am hynny, mae’n stori ddiddorol, fydd yn ein tywys ni i berfeddion y byd technolegol. Llygredd. Celwydd. Cyfalafiaeth noeth. Mae hyn i gyd yn stori’r Retron 5…

Mae Hyperkin yn gwmni o America sy’n cynhyrchu bob math o drugareddau ar gyfer consols hen a newydd – rheolyddion, cebls, ac yn y blaen. Mae nhw hefyd yn cynhyrchu pethau o’r enw consols clôn. Consols newydd ydi rhein sy’n efelychu hen gonsols fel y SNES neu’r Megadrive, ond yn gwneud pethau doedd yr hen beiriannau ffyddlon yna ddim yn gallu gwneud. Dyma, er enghraifft, y SupaBoy – Super Nintendo allwch chi chwarae ar daith, fel Game Boy. A dyma’r Retron 3 – cyfuniad o NES, SNES, a Megadrive.

Mae hyn i gyd yn swnio’n grêt, ond dydi lot o’r systemau yma ddim yn gweithio yn berffaith lot o’r amser. Mae’r chip Super FX yn y SNES, er enghraifft, mor bwysig i gemau fel Starfox a Yoshi’s Island, yn tueddu i roi problemau iddyn nhw. Ac yna, yn 2013, fe wnaeth Hyperkin gyhoeddi’r Retron 5 – consol clôn a fyddai’n chwarae gemau…

… anadl ddofn…

… NES, SNES, Mega Drive, Game Boy, Game Boy Colour, a Game Boy Advance. A’r gemau yna o unrhyw ran o’r byd. O, a gemau Sega Master System hefyd, wrth blwgio’r Sega Power Base Converter (ar werth ar wahân) i mewn i slot y Mega Drive. Nifer hollol wirion o gonsols felly. Ac, yn ôl Hyperkin, roedden nhw’n anelu i allu chwarae 100% o’r gemau ar gyfer y systemau hynny. O, ac fe fyddai’r holl gemau yn cael eu trosi i HD.

Waw. Roedd y byd wedi cynhyrfu. Ac roeddwn i wedi cynhyrfu hefyd. Dwi wedi bod yn chwilio am esgus i nôl yr holl hen gemau o’r drôr, ac efo lle o dan y teli yn mynd yn fwy ac yn fwy prin dyddia yma, a’r gemau yna’n mynd i edrych yn brydferthach nac erioed… waw. Ro’n i’n edrych ymlaen.

Roedd y Retron 5 i fod i gael ei ryddhau yn nes ymlaen yn 2013, gyda dosbarthwr Prydeinig wedi ei sortio hefyd, yn funstock.co.uk. Fy waled yn barod, wnes i ddisgwyl… a disgwyl… a disgwyl. Roedd Hyperkin, yn amlwg, isio cael popeth yn iawn ar gyfer y lawnsiad, wnaeth lithro’n ôl i 2014. Ac yna’n bellach yn ôl… ac yna’n bellach yn ôl eto.

Ac yna, yn dawel bach, cafodd y Retron 5 ei ryddhau yn America yn yr Haf, bron i flwyddyn ar ôl i Hyperkin gyhoeddi ei fod am ddod allan – ac am $40 yn ddrytach. Yn grwgnach oherwydd y pris, fe wnaeth y rhai oedd yn ddigon ffodus i gael gafael ar un ddechrau adolygu’r peth. Ac roedd yr adolygiadau yn… OK. Roedd y gemau yn edrych yn dda, a rhyngwyneb y system i’w weld yn gweithio’n iawn, ond doedd o ddim yn chwarae 100% o’r gemau yn berffaith. Ddim o bell ffordd.

Eto, roedd hyn dal yn welliant ar y consols clôn eraill ar y farchnad, oedd wedi gosod y bar mor isel. Yn ara bach, fe wnaeth y Retron 5 ddechrau rowlio allan ar draws America. Ond doedd dim mwy o sôn am ryddhau’r peth ym Mhrydain. Ac yna, ddiwedd Medi, fe wnaeth funstock.co.uk ddatgelu – ar ôl sicrhau cytundeb i ddosbarthu’r Retron 5 yn ecsliwsif ym Mhrydain, cofiwch – bod eu negeseuon i Hyperkin… ddim yn cael eu hateb. Roedd rhywbeth yn amlwg o’i le.

Ac ychydig ddyddiau wedyn, fe ddaeth hi’n glir be oedd wedi digwydd. Doedd y Retron 5 ddim yn wyrth o beiriant wedi’r cwbwl. Roedd Hyperkin – yn ôl pob son – wedi dwyn rhannau helaeth o gôd y peth oddi wrth “efelychwyr” (emulators), sef rhaglenni allwch chi lawrlwytho ar eich cyfrifiadur i chwarae gemau oddi ar hen gonsols. Roedden nhw mewn trwbwl. Mawr. Roedd gwneuthurwyr yr efelychwyr ‘ma o fewn eu hawl i ddod â Hyperkin i gyfraith, a fe fyddai costau’r achosion yna yn debyg o ddinistrio’r cwmni yn gyfangwbl.

Dydan ni ddim yn gwybod ffawd Hyperkin eto. Hyd yn hyn, does neb wedi cyhoeddi eu bod am eu herlyn nhw… ond mater o amser ydi hynny, debyg. Ond mae hyn yn rhoi cyfle euraidd i Hyperkin ymateb – i wadu unrhyw ddrygioni, neu i ymddiheuro…

… neu gadw’n dawel am yr holl beth, a chodi pris y Retron 5 – eto – i $160.

Yup. Dyna be wnaethon nhw. I drio talu costau’r achosion llys sy’n dod eu ffordd nhw, ella? Pwy a wyr. Ond mae hi bellach yn glir nad ydi Hyperkin yn gwmni moesol iawn, i ddweud y lleia. Ac mae hi hefyd yn glir na fydd y Retron 5 ar y silffoedd yn America lot hirach – ac na fydd o’n ymddangos ym Mhrydain o gwbwl.

Felly be wnes i?

Prynu un.

Dim gan Hyperkin eu hunain, wrth gwrs. Fyswn i ddim yn gallu byw efo fy hun. Wnes i ei brynu o oddi ar eBay, am bris… wel, wna i jyst ddweud bod o dipyn uwch na’r $160 mae’r peth yn gostio erbyn hyn. Ond dyma’r peth: yn dilyn y storm gyfreithiol sydd yn fwy na thebyg ar ei ffordd, fydd y Retron 5 ddim ar gael yn hir. A wedyn, fydd y pris yn codi, ac yn codi, ac yn codi… mae’r rhan fwya yn mynd am ISAs. Well gen i stocio fyny ar Retron 5s, diolch yn fawr.

Ac mae o’n olreit. Mae’n neis cael un bocs o dan y teledu sy’n chwarae’r holl gonsols ‘na, ac mae nhw’n edrych yn dda iawn – os nad yn union yr un peth a’r oedden nhw yn ôl yn y dydd, diolch i’r holl filters ‘na sydd eu hangen er mwyn trosi’r gemau’n HD. Ar y llaw arall, mae’r rheolydd sy’n dod efo’r system yn sbwriel llwyr… ond allwch chi ddefnyddio unrhyw hen reolyddion sy’n gorwedd rownd y lle beth bynnag. Ac er mwyn efelychu’r union deimlad o chwarae’r hen gemau ‘ma, ‘da chi angen yr hen gonsols eu hunain, wrth gwrs… a theledu mawr CRT tew… a dim teimlad o anobaith yng nghrombil eich calon. Ond wneith o’r tro, duwcs.

Ac felly mae saga Hyperkin a’r Retron 5 yn parhau… am y tro. Does neb yn sicr be fydd canlyniad hyn i gyd, ond mae’n anodd credu y bydd Hyperkin yn dal i fod yn gwmni am lot hirach. Ac hyd yn oed os ydyn nhw’n goroesi, fe fydden nhw wedi colli parch eu cwsmeriaid yn llwyr.

Waw. Mae ‘na gymaint o stwff gwallgo yn digwydd mewn gemau y dyddiau yma. May you live in interesting times, fel mae’r hen ddywediad yn ei ddweud. Am fwy o sgandals, controfyrsi, a dipyn go lew o hanci-panci hen ffasiwn, daliwch i ddilyn Fideo Wyth.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s