Gemau Diweddar, Rhan 4

Mae’r amser yna wedi cyrraedd eto. Dwi wedi gorffen pentwr arall o gemau. Amser mynd drwyddyn nhw.

Ac mae’r cofnod yma wedi cymryd eitha dipyn i ymddangos, diolch i un gêm fach ar y rhestr sydd wedi bod yn mynd â fy amser i gyd. Mwy am y gêm yna yn y man. Ond gynta…

Diablo 3: Ultimate Evil Edition

Gêm sydd wedi bod allan am ddwy flynedd a hanner bellach, ond gan fy mod i erioed wedi ei chwarae, a fersiwn sgleiniog newydd wedi ei ryddhau ar y PS4, ro’n i’n teimlo bod rhaid i fi gael gafael ar hwn. Ac mae gen i deimladau cymysg. Ro’n i yn ffeindio fy hun yn chwarae Diablo 3 am oriau ar y tro, ac yn weddol gytûn yn gwneud… ond do’n i byth wrth fy modd. I fi, Diablo 3 ydi’r fersiwn modern o gemau fel Streets Of Rage neu Final Fight: gemau lle ‘da chi jyst yn cnocio’r snot allan o bob dim o’ch cwmpas chi, ac yn troi’ch brên chi i ffwrdd yn gyfangwbl yn y broses. Does dim rhaid i chi feddwl dim wrth chwarae hwn, achos bod o’n lot rhy hawdd. Hyd yn oed wedi sticio caledwch i peth i fyny ddwywaith, roedd 99% ohono fo’n chwerthinllyd o syml.

Ac mae hyn yn dod â ni at theori bach sydd wedi bod yn cnocio rownd yn fy mhen i yn ddiweddar. Mewn gemau fel hyn, lle ‘da chi’n pigo loot i fyny bob chydig o eiliadau, wastad yn gobeithio am gleddyf gwell, neu darian well, neu esgidiau sy’n ei gwneud chi mymryn yn gyflymach, dydi’r gêm ei hun ddim lot o otsh. Achos y prif gêm, a chanolbwynt yr holl broses, ydi be sy’n digwydd pan ‘da chi’n rhoi’r gêm ar saib. Yn y dewislenni. Fanna mae’r hwyl go-iawn i gael, wrth i chi jyglo pa offer i’w ddefnyddio, be i daflu i ffwrdd… yn fanna mae’r tactegau i gyd yn dod i’r fei. Ac mae hynny, yn ei dro, yn ein harwain at gêm arall lle mae’r theori yma yn berthnasol…

Destiny

Mae sortio a threfnu eich loot yn ran enfawr o Destiny hefyd. Ond yn lwcus, mae’r gêm hefyd yn lot fawr iawn o hwyl ar yr un pryd. A pan dwi’n deud bod o’n lot fawr iawn o hwyl, dwi’n golygu bod o’n well nag unrhyw gêm arall flwyddyn yma, o bosib. Dyma ein Dafydd bach ni i esbonio mwy.

Gwir bob gair, Daf. Mawr fydd dy wobr.

Fyswn i’n gallu sgwennu traethawd hir ar Destiny. Ac ella y gwna i un diwrnod. Ond i gadw pethau’n (weddol) fyr: dyma’r gêm sydd wedi bod yn fy stopio i rhag chwarae bron i unrhywbeth arall yn ddiweddar. A do’n i ddim yn siŵr o’n i am foddran ei brynu, hyd yn oed. Do’n i’m yn gwybod unrhywbeth am Destiny cyn ei chwarae. Ac wrth ddechrau ar fy nhaith hir (hir, hir, hir) drwy’r gêm, do’n i ddim cweit yn siŵr oedd Destiny werth yr holl heip. Ond wedi “gorffen” y gêm, a chyrraedd Lefel 20… wedyn mae’r hwyl yn dechrau go-iawn, wrth i sylfeini’r peth newid yn llwyr, a chithau’n gorfod ailddysgu bob dim, fwy neu lai.

Mae o gymaint mwy o hwyl efo ffrind(iau) wrth eich ymyl, a fyswn i dal ddim o reidrwydd yn argymell Destiny os does ganddoch chi neb i rannu’r profiad efo chi. Ac mae’r stori yn… wel, mae ‘stori’ yn air rhy dda i ddisgrifio’r peth, deud y gwir. Ond o dan yr amgylchiadau cywir, mae o’n brofiad bythgofiadwy, ac yn fy atgoffa i pam dwi’n gymaint o ffan o gemau yn y lle cynta. Fedra i ddim disgwyl tan cael fy nwylo budr ar yr estyniad cynta, The Dark Below, sydd allan fis Rhagfyr, ac mae hwn a Hearthstone yn weddol gyfartal ar y funud yn y ras ar gyfer teitl Gêm y Flwyddyn. Gwyliwch y gofod hwn.

Gofod. Dallt?

Far Cry 3

O flaen Far Cry 4, fydd ar y silffoedd (ac ar fy silff i) o fewn cwpwl o wythnosau, ro’n i’n teimlo fel bod rhaid i fi chwarae’r gêm flaenorol yn y gyfres, ddaeth allan yn 2012. Ges i lot fawr iawn o hwyl efo hwn. Mae’n gêm byd-agored gan Ubi Soft, ac mae hynny’n golygu fy mod i wedi fy nghymell i wneud fwy neu lai bob un dim, yn cyflawni bob math o dasgau bach, dim ots pa mor ddibwys. Ac mae hynny’n mynd braidd yn ddiflas ar ôl dipyn, mae’n wir, a dim ond fy OCD fy hun oedd yn fy nghadw i chwarae erbyn y diwedd, ond am rannau helaeth o Far Cry 3, ges i amser briliant.

Ar yr un pryd, ella mai camgymeriad oedd chwarae hwn mor agos i fis Tachwedd. Mis yma, mae Far Cry 4 allan, fel ddywedais i, ac Assassin’s Creed Unity hefyd: gemau byd-agored gan Ubi Soft eto, a pob un yn dilyn yr un fformiwla, fwy neu lai. Fydda i’n sicr wedi diflasu’n llwyr ar y fformiwla yna erbyn i’r Dolig gyrraedd. Ond wrth gymryd Far Cry 3 ar ei ben ei hun, mae o werth eich amser chi. Ac mae’n gadael i chi grwydro ynysoedd trofannol prydferth yn llofruddio bob math o anifeiliaid prin heb deimlo’n euog am y peth.

Gemau!

Alien Isolation

Dwi wedi adolygu hwn yn barod! A dyma’r dystiolaeth.

Pawb efo’i gilydd rŵan: “Machadaynu, machadynu, machadaynu-daynu-daynu…”

Os dydi hwnna ddim yn gwneud sens i chi, ‘da chi ddim wedi gwylio’r fideo. Busted.

Middle-Earth: Shadow of Mordor

“Reit, bois. Roedd y gemau Arkham yn dda a bob dim, ond dydi Batman ddim yn cael lladd neb. Ac mae hwnna’n broblem.”

“OK. Allwn ni gopïo’r gemau Arkham ond gosod y peth ym myd Middle-Earth? Gawn ni fod mor waedlyd a ‘da ni isio wedyn. A sticio Gollum i mewn am ddim rheswm.”

“Jyst fel y bysa J.R.R. Tolkien wedi ei ddymuno. Jacpot.”

Iawn, dwi’n bod braidd yn sarcastig, ond mae Shadow of Mordor yn llai ffyddlon i fyd Tolkien na’r ffilmiau The Hobbit, hyd yn oed. Ac mae hynny’n dweud lot. Yn enw bob dim sy’n sanctaidd, doedd Celebrimbor erioed yn ringbearer. Rhag eu cywilydd nhw!

Ond wrth roi’r nigls nyrdaidd yma i un ochr, fedra i argymell Shadow of Mordor yn saff. Does na’r un gêm arall flwyddyn yma sydd wedi gwneud i fi deimlo fel gymaint o arwr. Wir yr, mae’r symudiadau a’r combos allwch chi eu cyflawni yn hwn yn gwneud i Batman edrych fel wimp. Ac mae’r system “Nemesis” – lle mae’r bobol ddrwg yn ymladd ei gilydd y tu ôl i’r llenni, ac yn symud yn uwch drwy fyddin Sauron yn dibynnu ar ganlyniadau’r gêm – yn gweithio’n berffaith. Fedra i ddim disgwyl i’r system yna gael ei ddefnyddio mewn gemau eraill. Y Skyrim nesa, ella?

Mae o’n dilyn y fformiwla Ubi Soft-aidd yna unwaith eto, ond yn gwneud digon o bethau newydd i sefyll allan o’r pac. Ac efo ail gêm fwy neu lai wedi ei gadarnhau, yn ôl diweddglo’r gêm, dwi’n edrych ymlaen at fwy o’r un peth.

Mirror’s Edge

Wnes i ddechrau chwarae Mirror’s Edge – sy’n chwech oed erbyn hyn – ar bnawn Sadwrn glawiog. Ro’n i wedi gorffen ar fore Sul. Dim y gêm hira yn y byd, felly. A does dim byd yn bod efo hynny, achos mae Mirror’s Edge yn adrodd stori whodunnit fach reit neis ar hyd ei chwe awr (wedi ei sgwennu gan ferch Terry Pratchett, wyddoch chi). Ac mae’n efelychu’r gamp o parkour yn well nag unrhywbeth arall. ‘Da chi’n rhedeg ar draws y wlad ac i fyny adeiladau mewn pethau fel Shadow of Mordor ac Assassin’s Creed, mae’n wir, ond yn hwn, ‘da chi’n neidio oddi ar waliau, yn siglo ar fariau, yn rowlio, yn dringo, yn gwneud martial arts, a hyn i gyd yn y person cynta. Chi ydi‘r prif gymeriad, Faith Connors. Mae o’n dipyn o beth.

Mae o’n dechrau dangos ei oed erbyn hyn, a dydi Faith druan ddim wastad yn ymateb sut ‘da chi isio, ac mae’r system ymladd efo gynnau y tu hwnt i syml. Ond gydag ail gêm yn y gyfres ar ei ffordd (rywdro), mae’n gosod sail soled iawn. Rhowch go iddo fo os does ganddoch chi ddim byd arall i wneud un pnawn. Wneith o wneud i chi deimlo fel eich bod chi’n gwneud ymarfer corff. Ond ‘da chi ddim.

Wir. ‘Da chi ddim.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s