gan f8
Mae’r Playstation VR allan WYTHNOS YMA. Ar ddydd Iau, i fod yn benodol. Os na ‘da chi’n digwydd sylwebu ar gemau’n llawn amser (mi ddaw ein hamser… o, daw…) neu’n ddigon parod i giwio am oriau mewn sioeau gemau, debyg eich bod chi ddim wedi cael cyfle i’w brofi eto.
Ond mae rhai pobol… wel… chydig bach yn sbeshal. Rai dyddiau’n ôl, gafodd neb llai na’n Daf Prys ni gyfle prin i strapio’r peth i’w ben. Sgen Neil Armstrong ddim byd ar hyn, bois.
Felly dyma ni, yn eistedd lawr i drafod y profiad. O hyn ymlaen, wna i roi fy holl ysgrifen i mewn bold. Fel hyn. Er mwyn gwneud yn glir pwy sy’n siarad. A Daf, gei di sgwennu mewn italics. Neu emojis. Be bynnag.
Fel hyn lly? Egsotic! Bedi emoji?
Callia. Rŵan, dwi ddim yn un da iawn am gyfweld pobol. Ond ti wedi rhoi chydig o gwestiynau i fi o flaen llaw. Diolch am hynny. Ahem. “Daf, unwaith eto, efo dy sgŵp diweddara, ti ‘di profi bod gen ti’r holl fomentwm. Ti, yn unig, sydd orau. Pam wyt ti mor boblogaidd?”
Cwestiwn pwysig, diolch am ofyn. Nath fy nhad ddweud fod pobl sy’n gwisgo corduroy yn dueddol…
OK, dyna ddigon. Sut ges ti afael ar y PSVR ta? A lle? Ta ti ddim yn cael dweud, er mwyn cadw dy statws fel dyn mwya dirgel Aberystwyth?
Fi methu sôn am y manylion ond fod cwmni lleol efo set er mwyn datblygu gêm VR ei hun: y gêm VR cyntaf fydd yn cael ei greu yng Nghymru ac, ymhellach fyth, efo bach o Gymraeg ynddi.
Pa brofiad / gêm wnes ti ei… ym… brofi?
Eto, yn anffodus fi methu dweud. NDAs and all that. Ond fi yn gallu dweud fod e’n tie-in efo rhaglen deledu poblogaidd iawn.
Ond ges i gyfle i edrych ar y demo disk fydd yn dod efo’r headset: nes i suddo yn araf bach i waelod y môr mewn cage. Wedyn nath siarc trio bwyta fi. Fi nawr efo lifelong grudge yn erbyn y ‘bali’ thing. Sort of fel Captain Ahab. DAMN YOU, WHALE!
Angen reslo’r cyfweliad ‘ma nôl ar y traciau yn eitha sharpish. Fel rhywun sydd wedi cael cyfle i chwarae o gwmpas efo’r HTC Vive cwpwl o weithia, sut oedd hyn i gyd yn cymharu o ran teimlad yr headset ei hun?
Mae’n brofiad digon tebyg ar y cyfan, oedd yn sypreis go iawn. Ond yn syth mae rhywun yn teimlo fod ergonomics y PSVR yn llawer gwell efo pwysau y peth wedi ei ddosbarthu yn fwy hafal dros eich pen. Ac hefyd mae sockets eich llygaid yn teimlo yn fwy ‘snyg’, sy’n adio at realaeth y peth. Mae’r resolution yn amlwg yn llai ddo, ac elfen ‘meddal’ i bopeth ac wrth gwrs chi methu ‘cerdded’ o gwmpas. Allan o ddeg byddai’n rhoi top notch. Top notch allan o ddeg.
Unrhywbeth oedd yn achosi pryder i ti? Ydi’r PSVR yn fêl i gyd? Bach o onestrwydd plis. Am unwaith yn dy fywyd.
Nes i ffeindio, ar yr headset yna ta waeth, fod elfen ffocws bach i ffwrdd. Os chi’n dychmygu ceisio ffeindio ffocws cywir drwy lens camera er enghraifft chi’n gweld y sgrin yn aneglur tan iddo ffeindio y focal range. Mi oedd y peth mewn ffocws ond wedyn yr headset yn symud bach ac wedyn allan. Hefyd, oedd y FOV [field of view] i weld bach yn simsan. Ond cawn weld am hyn. Mi oedd y teclyn wnes i drio wedi gweld dyddiau gwell a’r inner lining wedi cal hamrad.
Yn ola, ydi’r holl beth wedi newid dy deimladau am dy headset sgleiniog newydd fydd yn glanio ar dy ddrws ffrynt ar ddydd Iau? Pa fath o stwff wyt ti’n edrych ymlaen at ei brofi?
Fflaps nadi, wedi cyffroi yn lân – edrych ymlaen i’r gêm rasio, Driveclub VR, neidio fewn i cockpit un o llongau ofod Luke Skywalker yn Battlefront: Star Wars a mynd am date efo Mari Lovgreen yn y gêm Great Welsh Women’s Faces.
Ddylsen ni stopio fanna cyn i ti ddod â holl rym y teulu Lovgreen ar ein pennau. Daf Prys, diolch yn fawr am gymryd rhan. Er mai hwn oedd dy syniad di yn y lle cynta. A deud y gwir, chdi ddylsa fod yn diolch i fi.
Diolch yn fawr iawn iawn simper simper.