Fideo: Adolygiad Far Cry Primal

gan Elidir Jones

Barod am fideo arall? Tro ‘ma, ‘da ni’n cymryd trip i amser pell, pell yn ôl. Amser yn llawn trais, tylluanod, a theigrod. O’r enw Maldwyn.

Neu, mewn geiriau eraill (symlach), dyma adolygiad o Far Cry Primal. Mwynhewch.

Ac i’r rhai ohonoch chi sy’n hoff o ddarllen petha yn hytrach na’u gwylio nhw (helo reolwyr S4C!), dyma gynnwys yr adolygiad yn ei holl ogoniant:

“Be am gymryd trip yn ôl i oes symlach? Oes cyn cynhesu byd-eang, Donald Trump, a’r hysbysebion Go Compare ‘na. Mae Far Cry Primal allan rŵan ar y…

O. ‘Da chi ‘di archebu copi’n barod. Fysa chi ‘di gallu smalio disgwyl i fi orffen adolygu’r peth, o leia.

Yn y spin-off diweddara yma i’r gyfres Far Cry, chi ydi Takkar – aelod o lwyth y Wenja, sy’n gwneud ei orau i gadw ei bobol yn saff yng ngwyneb bygythiadau gan ddau lwyth arall. Mae’r Izila yn gwisgo mewn glas, ac yn addoli tân. Ac mae’r Udam yn gwisgo mewn coch, ac yn licio bwyta pobol. Does dim lot mwy i’r peth, ac i ddeud y gwir, mae hynny’n berffaith iawn. Roedd oes y cerrig yn amser syml – medden nhw, dwi ddim cweit mor hen â hynny fy hun – ac felly mae stori syml yn gweddu’n berffaith. Da hefyd ydi peidio gorfod delio efo llwyth o actio rybish – mae’r holl ddeialog (sy’n syml ac yn effeithiol unwaith eto) yn cael ei siarad mewn ieithoedd dychmygol, ac isdeitlau yn esbonio’r holl beth.

I’r rhai ohonoch chi sy’n hen gyfarwydd â Far Cry, fysa hi’n syniad rhedeg drwy’r petha sy’ ‘di newid. A’r mwya ohonyn nhw ydi – anifeiliaid anwes! Daww! Sbiwch ar fy nheigr i! Ei enw ydi Maldwyn, a fo ydi’r teigr gora yn y byd!

Ahem. Sori. Ia, yn wahanol i’r gemau Far Cry eraill – sy’ jyst yn taflu anifeiliaid rheibus atoch chi bob deg eiliad ac yn disgwyl i chi eu llofruddio nhw’n ddideimlad, mae Primal yn rhoi’r opsiwn o’u dofi nhw – fel ryw fath o fersiwn mymryn bach mwy realistig o Pokemon.

Dwi’n meddwl bod hi’n sâff dweud mai dyma’r peth newydd gora am y gêm. Mae reidio i mewn i frwydr ar gefn arth neu famoth yn siŵr o wneud i’r gwaed gwrso, a dwi ddim hyd yn oed ‘di cychwyn sôn am y dylluan. O, y dylluan! Fedrwch chi ei yrru o dros wersyll y gelyn er mwyn sgowtio’r lle, ac – wrth gwrs – deifio allan o’r awyr er mwyn pigo’u gwynebau nhw i ffwrdd. Ac wrth i’r gêm fynd yn ei flaen, ‘da chi’n datgloi’r gallu i ollwng bomiau. O dylluan. Bomiau yn llawn tân, a nwy sy’n troi’r gelynion yn erbyn ei gilydd… a gwenyn. Briliant. Dyma pam bod gemau yn bodoli.

Mae’r systemau crefftio hefyd yn lot gwell yma. Yn y gemau Far Cry eraill, roedden nhw wastad yn teimlo mymryn bach fel rhywbeth wedi eu hychwanegu i’r gêm ar y funud ola, ond fan hyn mae’r systemau yn lot dyfnach, yn rhoi lot mwy i chi weithio tuag ati, a jyst yn ffitio i mewn i’r byd yn lot gwell. Mae o’n gwneud synnwyr bod dyn o’r ogof yn gorfod casglu pren ac asgwrn a chrwyn er mwyn gwneud arfau newydd, ond dyn o’n hamser ni? Ia… dim gymaint. Deud y gwir, mae’r byd yma yn siwtio Far Cry yn well yn gyffredinol. Fyswn i ddim yn cwyno tysa Ubisoft yn cario mlaen ar y trywydd yma yn y dyfodol.

Ond fel arall, ac er mor wahanol mae Primal yn edrych, yr un hen brofiad Far Cry sy’ yma unwaith eto. Yr un math o beth fyddwch chi’n ei wneud fan hyn ac yn y gemau sy’ ‘di bod o’r blaen, a ‘di o ddim fel bod ‘na lot o amrywiaeth yn y lle cynta. Fel ym mhob gêm Far Cry, fyddwch chi’n torri i mewn i wersyllau’r gelyn er mwyn eu clirio nhw, lladd paciau o anifeiliaid sy’ allan o reolaeth, crwydro rownd ogofeydd yn chwilio am drysorau… a dyna ni, fwy neu lai.

Mae hyd yn oed y map bron yn union yr un peth â’r un o Far Cry 4. C’mon, Ubisoft. ‘Da chi ddim hyd yn oed yn trio rŵan.

Ac mae hynny’n crisialu’r holl brofiad, deud y gwir. Dyma gêm ‘da ni ‘di chwarae droeon, efo côt swanci o baent sy’n trio gwneud i chi deimlo fel bod chi’n chwarae rwbath gwahanol. Y peth rhyfeddol ydi bod hwnna weithia yn gweithio. ‘Da chi weithia yn llwyddo anghofio eich bod chi ‘di bod yma o’r blaen, achos… wel, achos y dylluan, gan amla.

I unrhywun sy’n newydd i’r gyfres, mae ‘na lot fawr iawn i’w hoffi fan hyn – ac ella wir mai dyma’r lle gora i gychwyn os ‘da chi erioed ‘di chwarae’r un o’r gemau Far Cry o’r blaen – ond i hen stejars fel fi, wnaeth chwarae Far Cry 3 a 4 yn weddol ddiweddar, mae’r peth yn colli ei sglein ar ôl rhai oriau. Gêm soled, gwirioneddol dda ar adegau, ond mae’n hen bryd i Ubisoft hel chydig o syniadau newydd, achos mae’r un hen fformiwla, dro ar ôl tro, yn dechrau edrych… wel, braidd yn gyntefig.

Mae Far Cry Primal allan rŵan ar y PC, PS4, a’r Xbox One. Cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.”

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s