Gemau Bwrdd Dan Y Goeden

Olreit. Mae mis Rhagfyr yma. Ac – yn ôl rhesymeg syml, o leia – mae hynny’n golygu bod Dolig rownd y gornel.

Mae ‘na rai anrhegion mae pawb yn eu rhoi a’u derbyn bob blwyddyn. Siwmper. Sanau. Chocolate Orange. A gêm fwrdd, ella? Wrth gwrs, mae pethau fel Monopoly Trivial Pursuit, yn draddodiadol, yn mynd law-yn-llaw efo’r ŵyl. Ond, fel dwi ‘di ddeud sawl gwaith o’r blaen, mae gemau fel’na wedi dyddio bellach. Lot. Mae rhoi un o’r gemau yma i rywun fel prynu Pac-Man iddyn nhw, a nhwythau wedi gofyn am Grand Theft Auto V. Mae ‘na gymaint o gemau bwrdd gwell ar y farchnad bellach, yn ffitio pob sefyllfa.

Awn ni drwyddyn nhw?

Ia. Ia, go on ta.

Gêm i’r Teulu: Ticket To Ride

Un o hoelion wyth y diwydiant gemau bwrdd modern. Prynwch Ticket To Ride os am gael amser da efo’r teulu, efo dim o’r dadlau a’r dagrau a’r diflastod sy’n dod efo Monopoly. Fyddwch chi’n creu rhwydwaith o drenau ar draws America (neu Ewrop, neu Sgandinafia, neu’r Swistir, neu…), yn brwydro yn erbyn pawb arall, ac yn eu rhwystro nhw rhag cwblhau eu rhwydweithiau nhw. OK, ella fydd ‘na dipyn bach o ddadlau…

Mae’n rhyfeddol o syml, ond mae bob gêm yn wahanol, ac mae’r balans rhwng lwc a strategaeth yn berffaith – felly er bod ‘na siawns go lew y bydd Mam neu Dad yn ennill, peidiwch a synnu os ydi’r plant yn neidio i’r blaen, eu trenau nhw’n ymestyn ar draws y wlad, a’ch rhwydwaith chi fymryn bach yn Arriva Trains Wales.

Mae ‘na fersiwn digidol ar gael os ‘da chi dal ddim yn siŵr. A dyma’n hen ffrind Wil Wheaton yn chwarae’r gêm efo’i ffrindiau a’i wraig, os ‘da chi isio dipyn bach mwy o bersŵad. Ond mae o’n glasur. Trystiwch fi ar hwn, os nad ar unrhywbeth arall.

Ail Ddewis: Settlers Of Catan

Gêm i’r Plant: City Of Zombies

Felly mae’r holl siocled wedi gwneud y plant yn sâl, dydi’r tegan mawr swanci ddim wedi dod efo unrhyw fatris, ac mae’r PS4 wedi chwythu fyny. O diar. Ond allwch chi ddim mynd yn rong efo gêm fwrdd.

Yn ddiweddar, wnes i sôn am Never Alone, sy’n dysgu bob math o stwff i chi tra’n gwneud i chi feddwl bod chi’n gwneud dim byd ond chwarae gêm fach ciwt. Mae City Of Zombies yn gwneud rwbath eitha tebyg. Fydd o’n teimlo i’r plant fel eu bod nhw’n gwneud eu ffordd rownd dinas yn llawn y meirw byw. Ond go-iawn? Fydden nhw’n dysgu maths. Ac fydd ganddyn nhw ddim syniad mai dyna be sy’n digwydd! Fydden nhw byth yn rhoi dau a dau at ei gilydd.

Sori.

Am fwy o wybodaeth, shyfflwch eich ffordd draw at y wefan swyddogol, gan fwmian “Gêêêêêêms” mewn llais sbwci. Neu jyst cliciwch ar y linc. Fyny i chi.

Ail Ddewis: Cheeky Monkey

Gêm i Ddau: Carcassonne

Mae’r plant yn y gwely, mae Nain wedi cael gormod o sheri, ac mae Taid wedi dechrau rantio at y teli mewn ffordd ychydig llai na PC. Weithia, ‘da chi a’ch partner jyst isio dipyn o amser i chi’ch hunan…

Un o glasuron eraill y byd gemau bwrdd, mae Carcassonne yn beth prin iawn: gêm sy’n ffitio i fyny at bump o chwaraewyr, ond yn llawer gwell efo dau. Fyddwch chi’ch dau’n adeiladu lonydd, dinasoedd, ffermydd a mynachlogydd yn Ffrainc y canol oesoedd, ac unwaith eto’n gwneud eich gorau i wneud bywyd y chwaraewr arall mor anodd â phosib. Mae’n hynod o brydferth o gêm, ac unwaith i chi ddechra, fyddwch chi ddim isio stopio. Ac, yn lwcus, mae ‘na bob math o estyniadau ar gael. Gan gynnwys un o’r enw Hills & Sheep.

Wir, mae’n fwy cyffrous na mae o’n swnio. Wele.

Ail Ddewis: Pagoda

Gêm i’r Parti: Say Anything

Mae ‘na bob math o stwff sy’n dda ar gyfer parti, yn dibynnu ar ba fath o gwmni ‘da chi’n ei gadw. Ond alla i ddim meddwl am unrhyw grŵp fyddai ddim yn mwynhau Say Anything.

Fel hyn mae’n mynd. Mae un chwaraewr yn darllen cwestiwn o gerdyn amdanyn nhw eu hunain. Er enghraifft, “What is my favourite Beatles song?”. Mae pawb arall yn sgwennu be mae nhw’n feddwl fydd y chwaraewr yna’n ei ateb, yna’n pleidleisio ar yr atebion gora. Mae’r chwaraewr cynta yna’n dewis pa ateb fyddai o neu hi’n ddewis, mae pwyntiau’n cael eu sgorio, ac yna mae’r holl broses hapus yn dechrau eto.

Eithriadol o syml, ond eithriadol o hwyl ar yr un pryd. Yn y noson gemau bwrdd dwi a fy ffrindiau’n ei gael o bryd i’w gilydd, wnaeth un o fy ffrindiau ofyn y cwestiwn uchod am y Beatles. Dychmygwch ei gynddaredd o pan wnaeth ‘na un ferch druan gynnig “The Frog Chorus” yn ateb. Dwi’m yn meddwl bod o ‘di maddau iddi eto.

Ail Ddewis: Dixit

Gêm i’r Dafarn: Cards Against Humanity

‘Da chi ‘di cael digon ar y nonsens Dolig ‘ma, ac wedi cilio i’r dafarn efo’ch ffrindiau plentynaidd. Be well, felly, na gêm blentynaidd?

Mae Cards Against Humanity yn ffenomenon. Bellach ar ei bumed estyniad, ac yn boblogaidd ar draws y byd, mae o ymysg y gemau – os nad y profiadau – mwya digri erioed. Unwaith eto, fydd ‘na un chwaraewr yn darllen cwestiwn o gerdyn. Er enghraifft:

“The school trip was completely ruined by ________.”

Swydd y chwaraewyr eraill ydi llenwi’r blanc gydag atebion mwya digri o’u cardiau nhw, efo’r un wnaeth ofyn y cwestiwn yn penderfynu ar enillydd. Pa un, er enghraifft, fyddech chi’n ei ddewis o’r atebion posib yma?

“The Pope.”

“A mime having a stroke.”

“The black Power Ranger.”

“Ed Balls.”

Ac mae’r gêm yn mynd yn lot, lot mwy controfyrsial na’r dewisiadau yna! Ond gwefan deuluol ydi hon.

Wnes i ddechrau chwarae gêm efo ffrindiau’n ddiweddar, ac aethon ni ‘mlaen yn hapus tan bedwar y bore. Ond peidiwch a chymryd fy ngair i am y peth. Gwyliwch y fideos hwyliog yma – BAM! POW! WFF! – gan ein ffrindiau o’r gyfres Beer & Board Games. Ond dim os ‘da chi o dan ddeunaw, neu yn y gwaith. Plis.

Ail Ddewis: Love Letter

Gêm i’r Nyrds: Dead Of Winter

Ond be os ‘da chi ddim isio gêm syml? Be os ‘da chi a’ch ffrindiau bach trist isio gwario’r holl bnawn ar un gêm hir, gymhleth?

Sticiwch Dead Of Winter ar y bwrdd. A croeso i’r clwb.

Yn Dead Of Winter, y gêm mwya newydd ar y rhestr yma, fyddwch chi’n chwarae rôl criw o drueuniaid yn nghanol pla o zombies (ia, nhw eto). O, ac mae hi’n oer iawn tu allan, a ‘da chi wastad mewn peryg o rewi. Perffaith ar gyfer noson o aeaf felly.

Y peth mwya diddorol yn hwn ydi’r cardiau “Crossroads” – unwaith mae ‘na rywbeth penodol yn digwydd yn y gêm, yn cyfateb i be sydd ar y cerdyn, mae’r naratif yn cymryd tro sydyn, ac mae ‘na newid mawr yn y rheolau. Ac achos bod ‘na lwythi ohonyn nhw, a nifer fawr iawn o gymeriadau (gan gynnwys ci dewr!), fydd ‘na ddwy gêm byth yr un fath.

Dyma’r hyfryd Rodney Smith o Watch It Played  i esbonio’r holl beth i chi.

Ail Ddewis: Dungeons & Dragons – 5th Edition

Os ydi hwn wedi’ch ysbrydoli chi o gwbwl…

… a gobeithio bod o, achos dwi ddim yn sgwennu’r petha ‘ma ar gyfer fy blwmin’ iechyd, wyddoch chi…

… ewch i Rules Of Play yng Nghaerdydd, neu Acme yn Llandudno, neu’r gangen lleol o Waterstone’s, neu un o’r nifer o wefannau sy’n gwerthu gemau bwrdd. Jyst… dim Amazon. Dyna i gyd dwi’n drio ‘i ddeud.

– Elidir

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s