Fideo: Adolygiad Shadow Of Mordor

Daf Prys | @dafprys

Ydi pawb yn eistedd yn gyfforddus? Dewch rownd. Steddwch rownd tân cynta’r flwyddyn. A clywch stori am ŵr o’r enw Talion. Mae ganddo wraig hyfryd a phrydferth, a mab ufudd. A clywch am y noson pan dyma nhw oll yn cael eu llofruddio yn y ffordd mwya treisgar posib. Ie. Na chi stori hyfryd. Nadolig Llawen. Nadolig Llawen i chi i gyd.

Ond o ho ho ho. Lord of the Rings mewn gem cyfrifiadur newydd – wel mynjiawch myndiain! Neu, mewn geiriau eraill, quantum singularity y geekfyd lle bod mater oll yn cael ei sugno fewn i’w galon. Wel geith e sugno fi fewn unrhyw ddydd achos ma’r gem yma yn hyfryd i’w brofi, hyfryd i’w ddarllen a hyfryd i arteithio Orcs di-ri. Druan a nhw.

Ond wir, druan a nhw yr Orciaid; mae rhyw hanner teimlad annymunol yn treiddio’r holl beth. Dim digon annymunol i sdopio fi rhag brofi’r peth, dydd ar ol dydd, ond digon i fi nodi a sgwennu amdano fan hyn fel rhyw fath o gariad passive-aggressive: “O, mae’n neis mynd allan i swper, ond ‘run mor neis bod ti’n coginio hefyd…”

Mae’r modd mae person yn gallu difa’r trueiniaid yma yn niferu yn ei cannoedd ac mae eu arteithio yn rhan annatod o’r gem. Yn dod o berson sydd a perthynas toriedig efo gemau sy’n gorfodi chi i ladd creaduriaid am resymau hunanol, a dwi’n edrych ar Shadow of the Colossus, Assassins Creed 3 a Far Cry 3 fan hyn, mae ymosod ar yr Orciaid yn rhywbeth dwi’n neud gan edrych trwy fy mysedd: “O! Sori! Wwff, gosh, oedd hwnna’n edrych yn boenus, fi’n rili sori! Dy fraich di oedd hwnna… sori … eto.” Falle bo fi’n rhy sensitif. Mae rhai ym myd adolygu gemau wedi sôn bod lle i ehangu ar y cysyniad yma o fygwyth a therfysg yn y gêm, i adeiladu’r thema er mwyn adlewyrchu math o ymddygiad gan luoedd milwrol yn ddiweddar. Mae lle i’r sgwrs yna yn sicr ond falle nid Middle-Earth yw’r lle i neud hynny. Ffantasi yw hwn, ffantasi uchel ar hynny. Os nad yw person yn medru dianc i Mordor a bod yn hanner-dyn / hanner-ysbryd heb gorfod meddwl am erchylldra Abu Ghraib neu Guantanamo Bay yna man a man i ni i brofi gem BBC News 24 ynlle. Mae na le i bopeth, yn sicr ymysg y diwydiant ehangach ond fi’n siwr gallwn greu pwyntiau cryf heb droi Bag End fewn i internment camp.

Shadow-of-Mordor

Ond nôl i bethau symlach: llên Lord of the Rings… hmm, nes i ddim rhagweld y frawddeg yna. Mae’r llên fan hyn wedi ei sgwennu yn bwrpasol ar gyfer y gêm (dwi’n amau fod gan Monolith Productions, gwneuthurwyr y gem, rhyw fath o deathwish). Ond mae’n gweithio, oherwydd yn hytrach na gorfod gwthio cymeriadau adnabyddus fewn i ffurfiau estron i siwtio’r gêm, mae nhw’n gallu creu strwythurau naratif unigryw er mwyn gosod cyflymdra a phatrwm priodol. Ac fel nes i sôn uwchlaw, mae’r gêm yn digwydd oll yn Mordor ac os chi’n gwbod unrhywbeth am Lord of the Rings yna mae Mordor fel Tregaron, rhyw fath o faes y gad gwastadol rhwng gwahanol garfanau. Mae’r ardal yn un weddol fach, o’n i’n disgwyl hi fod dipyn bach yn fwy ond nid yw hwn yn tynnu oddi ar y profiad. Mewn ffordd, mae’n golygu bod rhywbeth i neud bron bob eiliad boed hynny’n hela am flodau, rhedeg am eich bywyd gan greaduriaid brodorol neu, fel dwi wedi sôn, llofruddio degau a degau o Orciaid mewn modd creulon dros ben.

Baswn i wedi mwynhau bach o liw i weadau’r tirwedd sydd ar y cyfan yn rhyw lwyd, brown neud du (jiw, fel Tregaron eto) a’r Orciaid oll yn wahanol arlliw o wyrdd tywyll. Ond yr agwedd mwya lliwgar yw’r hynny o rheoli eich prif gymeriad, Talion, sy’n ddyn crac iawn, wrth ymladd a frwydro i oresgyn yn erbyn ei elyn, Sauron. Wel, digon teg wir achos mae’n cychwyn y gêm  yn gwylio ei deulu yn cael eu llofruddio  ac wedyn fe yn cael y chop ei hun. Mae’n dod yn ôl i’r byd ar ffurf wraith (rhyw fath o ysbryd) ac mae hwn yn cynnig galluon arbennig iddo – galluon di-ri. A dweud y gwir, mi oedd dysgu’r holl sgiliau yn rhyw fath o dric cof nis y medrwn i. Mi oedd oriau cynta’r gem yn rhyw ddarlith gwyllt dryslyd gyda gwers ar ol gwers o alluon newydd. Anodd iawn oedd derbyn y gwybodaeth oll ond ara bach ma dal iâr, neu bwystfilod eraill enfawr ffantasiol yn yr enghraifft yma. Ond wedi deall, mae’r galluon yn crymanu rownd ei gilydd er mwyn galluogi Talion i ddelio efo pob sefyllfa, gan ddefnyddio bach o hud a lledrith, ei fwa a chleddyf. Ma tîm Monlith yn deall sut ma gweu posibiliadau brwydr ac mae pleser mawr iawn mewn delio gyda criw o tua ugain Orc (druan) gan blethu’r sgiliau at ei gilydd.

nx9ldhvfbgb819bn9qze

Ac mae hyn yn enwedig yn wir os mae’r criw yn cynnwys aelod yn ei plith sydd wedi ei ddyrchafu gan system clyfar iawn, unigryw Shadow of Mordor, sy’n tynnu unrhyw Orc arferol ac yn ei droi fewn i ‘cymeriad’ yn y gem (beth mae Monolith yn galw yn “Nemesis System”). Er enghraifft os chi bach yn rybish fel fi byddwch yn marw… yn eitha aml. Mae’r Orc sy’n cynnig yr ergyd farwol yn cael ei ddyrchafu o fod yn Orc #2345 i “Ghulbaz Liver Eater” neu rhywbeth gwirionach fyth. Mi fydd ganddo alluon unigryw ei hun ac ar ben hyn yn ymladd yn erbyn Orciaid eraill sydd wedi eu greu o fewn yr armi fel bod nhw’n brwydro am bŵer eu hunen. Mae’n system wir ddiddorol, os yn ddibwynt yn ystod naratif ehangach y gem, ond mae ar ei phen hi efo buzzwords diweddara gemyddio, sef emergent gameplay: systemau annibynnol o fewn gêm sy’n galluogi digwyddiadau annisgwyl.

Ond wedi’r sgwennu, fel sawl gêm diweddar, mae’r profiad gêm yn Shadow of Mordor yn slic ac yn hwylus ac yn hyfryd – sydd, wedi’r cyfan, yr unig beth mae person yn disgwyl gan gêm. Gallaf gynnig Shadow of Mordor fel un o gemau gorau’r flwyddyn hyd yn hyn i mi. Os chi’n mwynhau gêm antur efo digon o frwydro yna mi fydd oriau hir a hwyliog fan hyn i chi. Ond cofiwch – mae’r rating 18 yna am reswm.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s