Adolygiad fideo arall wythnos yma, a gêm sydd ymysg y rhai pwysica ‘da ni erioed wedi eu trafod ar Fideo Wyth. Dyma Never Alone, sy’n gêm am fytholeg yr Inupiaq o Alaska, gyda’r holl stori wedi ei adrodd yn eu hiaith nhw. Dwi’m yn meddwl bod rhaid i fi esbonio be ydi goblygiadau posib hyn i Gymru…
Fydd ‘na fwy am Never Alone ar y wefan yn fuan, felly gwyliwch y gofod hwn.
Ac os wnaethoch chi fethu’r bennod ddiweddara o Mega, dyma hi. Cofiwch fyddwn ni ddim yn rhoi’r penodau ar ein wefan bob tro, felly ‘da chi’n gwbod be i wneud. Tanysgrifwch i ni ar Youtube, Facebook neu Twitter, da chitha.
– Elidir