Na, dim y band.
Nôl yng nghanol y nawdegau, pan oeddwn i’n blentyn bach ffôl, o’n i (syrpreis syrpreis) wrth fy modd efo gemau. Ond doedden nhw ddim yn cael lot o gynrychiolaeth ar y teledu. Roedd ganddoch chi Gamesmaster ar Sianel 4, a Bad Influence ar CITV, ond dim lot arall.
Oni bai, wrth gwrs, am Mega ar S4C.
Rhaglen i blant oedd hon, efo’r brodyr Daniel a Matthew Glyn yn gwisgo fyny fel pob math o gymeriadau gwallgo ac adolygu holl gemau mawr (a bach) yr oes. Ac o’n i wrth fy modd efo’r peth. Dwi’n cofio’r cyffro o’n i’n deimlo wrth weld y teitlau agoriadol bob wythnos. Roedd cael rhaglen yn trin fy hoff hobi, yn Gymraeg, yn rhywbeth arbennig iawn.
Ac felly mae’n rhoi pleser mawr i mi allu cyhoeddi y bydd Fideo Wyth – drwy garedigrwydd Daniel Glyn – yn rhoi casgliad o benodau Mega ar ein sianel Youtube bob Dydd Mercher dros y wythnosau nesa. Fyddwn ni ddim bob tro yn tynnu sylw at y peth ar y wefan, felly tanysgrifiwch i’n sianel Youtube, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook i gael y manylion i gyd.
Yn anffodus, dim ond pum pennod sydd ganddon ni ar hyn o bryd, a does dim ffordd o ddweud ym mha drefn y cawson nhw eu darlledu yn wreiddiol, ond gobeithio bydd hyn yn rhoi blas bach i chi o’r gyfres. Mae o wir werth ei weld.
A dyma’r bennod gynta! Mwynhewch.
A rŵan, rant.
Ers i Mega gael ei ddarlledu, dwi’m yn meddwl bod S4C wedi gwneud llawer o unrhywbeth am gemau cyfrifiadur. Roedd ‘na ambell beth ar Uned 5, a’r rhaglen Slaymaker, ac mae Y Lle wedi gwneud cwpwl o eitemau hefyd, ond does ‘na ddim rhaglen arall am gemau yn unig wedi ei ddarlledu, i fi wybod. Ac mae hynny’n wirion bost. Bellach, gemau ydi canolbwynt diwylliant plant a phobol ifanc. Mae fideos Let’s Play ar Youtube yn cael miliynau o wylwyr, a llawer o’r rhai sy’n creu’r fideos yna yn sêr enfawr. Ac mae fideos am bethau nyrdi eraill yn hynod o boblogaidd, o gomics i ffilmiau cwlt i gemau chwarae rôl. Fe wnaeth y gyfres ddiweddara o Tabletop, efo Wil Wheaton, godi dros 1.2 miliwn o ddoleri ar Indiegogo, ac mae hwnna’n raglen am griw o bobol yn eistedd i lawr a chwarae gemau bwrdd.
A dydi hwn ddim yn broblem sy’n unigryw i S4C, wrth gwrs. Dwi’m yn gwbod oes ‘na unrhyw raglen ar unrhyw sianel, i blant neu i oedolion, sy’n trin gemau efo parch. Y pethau agosa ‘da ni ‘di cael yn weddol ddiweddar ydi’r rhaglenni dogfen gan Charlie Brooker, Gameswipe a How Video Games Changed The World. Cymharwch dôn glyfar, ddigri, barchus, aeddfed y rhaglenni yna efo tôn oeraidd, ffroenuchel, snobyddlyd, anwybodus Jon Snow, yn cyfweld Charlie Brooker yma ar Newyddion Sianel 4. Dyna agwedd prif ffrwd y cyfryngau at gemau, yn anffodus. Ella achos bod gemau yn fygythiad iddyn nhw.
Ond petasai sianeli fel S4C yn derbyn bod ffordd gwneud rhaglenni gwerth chweil am gemau, fysa pawb yn ennill. Dwi’n sicr y byddai’r sianel ei hun ar ei hennill o ran ffigyrau gwylio, ond hefyd fe fyddai’r gwylwyr yn cael rhaglen go-iawn, efo cyllid a chynhyrchu’r byd teledu, yn hytrach na’r stwff braidd yn ffwrdd-a-hi sy’n aml i’w gael ar Youtube. A’r rhaglen yna, ar ben popeth, yn Gymraeg! Fedra i ddim ond siarad o brofiad – nid yn unig oeddwn i wrth fy modd efo Mega pan o’n i’n ifanc, ond roedd fy ffrindiau hefyd, a llawer ohonyn nhw ddim yn hyderus iawn yn eu Cymraeg. Doedden nhw ddim yn gwylio lot ar S4C, ond roedden nhw’n gwylio Mega, a Slaymaker yn nes ymlaen, achos bod y rhaglenni yma – rhaglenni ar S4C, cofiwch – yn berthnasol iddyn nhw. Dychmygwch hynny.
Ond dyna ni. Dwi’m yn gwbod lot am sut mae’r byd teledu yn gweithio. Ella wir bod rhaglenni fel Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc a Ffermio a Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cael cannoedd o filoedd o wylwyr, a phobol ifanc yn heidio atyn nhw, a ‘mod i’n siarad trwy fy het. Ella wir.
Reit. Rant drosodd. Mwynhewch y rhaglen!
– Elidir