Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Gorffennaf 6, 2014.
S’mai. Ia wir. Hwyl yr ŵyl.
Wnes i recordio fideo bach yn ddiweddar o’n i’n bwriadu ei ryddhau ar sianel Fideo Wyth. Dwi a Daf o’r sianel yn awyddus i gynnwys stwff am bethau y tu allan i fyd gemau cyfrifiadurol. Fideo oedd o am fy hanes i efo comics. A wyddwch chi be? Roedd o’n hollol rybish. Mae o’n troi allan mai dim fi ydi’r boi gora am siarad heb sgript, ar ben fy hun, i mewn i gamera, am amser maith. Dwi angen ryw fath o gyfarwyddwr. Neu gyd-gyflwynydd. Neu be bynnag wnaethon nhw slipio yng nghoffi Colin Firth yn y ffilm ‘na i stopio fo rhag stytran.
Felly wnes i benderfynu jyst sgwennu cynnwys y fideo i lawr. Stopiwch ochneidio. ‘Da chi’n mynd i ista fanna – yn eich trôns, mae’n debyg, nabod chi – a’i fwynhau o.
Felly. Comics. Wna i fod yn onest – dwi ddim yn arbenigwr o bell ffordd. Mae ‘na gymaint, gymaint mwy o Gymry Cymraeg sy’n gwbod mwy am y stwff ‘ma na fi. Ond dydyn nhw ddim ‘di boddran sgwennu dim byd am y peth, naddo?
Fel lot o blant y Deyrnas hyfryd hon, ddechreuais i ym myd y comics wrth ddarllen y Beano… a Dandy, a Beezer, a Topper, ond pwy ‘da ni’n drio ‘i dwyllo? Y Beano ‘di’r boi. Dwi’n siŵr na fyddwn i’n ei ffeindio fo’n ddigri iawn bellach – ac ella nad oedd o’n ddigri iawn o gwbwl – ond roedden nhw’n rhoi Refreshers am ddim efo fo weithia. Ac mae hwnna’n gorfod cyfri am rwbath. Dwi’n dal i fod yn aelod o’r Dennis The Menace Fan Club ‘fyd… er nad ydw i erioed ‘di derbyn unrhyw fath o fanteision o’r peth. Con.
Ond y gyfres Asterix oedd fy hoff beth. Pan o’n i adra’n sâl o’r ysgol (ac o’n i’n sâl o’r ysgol lot rhy aml), ro’n i’n pentyrru llyfrau Asterix wrth ymyl fy ngwely a mynd drwyddyn nhw fesul un. Dwi ‘di darllen bob llyfr Asterix ddegau o weithiau (oni bai am y rhai newydd – yda ni wir angen aliens yn Asterix?), ac o’n i hefyd yn gwylio’r ffilmiau cartŵn drosodd a throsodd. Ac mae’r rhan fwya ohonyn nhw ar Youtube. Sbiwch! Dyma The Twelve Tasks of Asterix yn ei lawn ogoniant!
Roedd y darn o 36:53 ymlaen yn arfer rhoi hunllefau i fi. Ond mi o’n i’n idiot.
O – a peidiwch a boddran efo Asterix Conquers America. Syniad pwy oedd o i gastio Craig Charles fatha Asterix? Hanging’s too good for ’em.
A dyna, fwy neu lai, ydi’r unig gomics wnes i ddarllen tan i fi fynd i’r coleg. I fod yn deg, wnes i ddarllen y rhai yna’n dwll, a doedd ‘na nunlle agos lle o’n i’n gallu prynu unrhywbeth arall. Wnaeth ‘na un neu ddau o bethau eraill ffeindio eu ffordd i mewn i fy nghasgliad – un llyfr The Incredible Hulk unig (hwn, i fod yn benodol), ac addasiad o The Hobbit, ond dyna ni.
Gyda llaw, dwi ddim yn meddwl bod addasiadau o bethau sy’n bodoli’n barod yn le drwg i ddechrau eich casgliad comics. Dwi’n argymell yr addasiad o At The Mountains Of Madness gan H. P. Lovecraft, Fevre Dream gan George R. R. Martin (er bod o ddim patsh ar y nofel), neu’r addasiad manga o Othello gan ryw foi o’r enw William Shakespeare, sydd oll bellach ar fy silff.
Yn y coleg, ges i fy mlas cynta o gomics “aeddfed”. Roedd fy ffrind Myfyr wedi dechrau casglu cyfres o nofelau graffeg o’r enw Preacher. Wna i ddim crynhoi holl stori’r gyfres, ond mae o’n dilyn pregethwr o Texas o’r enw Jesse Custer sy’n derbyn pwerau annaturiol, ac yn mynd i chwilio am Dduw – sydd wedi troi ei gefn ar y Nefoedd – yng nghwmni ei gyn-gariad Tulip a vampire Gwyddelig o’r enw Cassidy. Mae ‘na angylion, cythreuliaid, cowbois, a dyn efo pen-ôl fatha gwyneb. Mae o’n nyts, yn gableddus, yn cymryd risgs, allwch chi ddim rhagweld lle mae’r stori’n mynd, ac o’n i wrth fy modd efo fo. Wnes i a Myfyr hyd yn oed wisgo fel Jesse a Cassidy un Calan Gaeaf. Wnes i ailddarllen y gyfres yn ddiweddar, ac ella nad ydi o cweit mor dda ag o’n i’n meddwl oedd o (mae lot o’r deialog chydig yn lletchwith, yn fy marn i), ond mae o dal yn werth ei ddarllen. A, hei, os ‘da chi ddim yn gallu darllen, mae ‘na gyfres deledu yn seiliedig ar y comics ar y ffordd, yn ôl y sôn… wedi ei gynhyrchu gan Seth Rogen. OK.
Felly wnes i fwynhau Preacher. Lot. Ond am ba bynnag reswm, wnes i ddim teimlo’r awydd i neidio i mewn i fyd y comics wedi ei ddarllen o. Y peth newidiodd bopeth i fi, rai blynyddoedd wedyn, oedd y ffilm Batman Begins.
Roedd hwnna’n un o brofiadau sinematig gorau fy mywyd. Wedi bod yn ffan mawr o ffilm Batman Tim Burton yn blentyn, roedd gen i obeithion mawr, ond wnaeth y ffilm ragori arnyn nhw i gyd. Dwi’n cofio pwmpio fy nwrn yn yr awyr a gweiddi hwre ar ddiwedd y ffilm pan mae Commissioner Gordon yn troi’r cerdyn Joker ‘na drosodd. Wnes i benderfynu’n fuan ar ôl hwnna mod i isio neidio i mewn i fyd Batman go-iawn, a gwario lot gormod o bres ar y comics er mwyn gwneud.
Erbyn hyn, mae bron i hanner fy nghasgliad cyfan yn stwff Batman… ond rhaid i fi fod yn onest, dwi yn fwy o ffan o Batman ar sgrîn nag ar y dudalen. Does ‘na’r un llyfr Batman wedi cael yr un effaith arna i â ffilmiau Christopher Nolan neu Batman: The Animated Series. Ond yn y comics mae’r byd yna’n teimlo fwya byw – mae’r holl fytholeg wedi ei adeiladu dros 75 mlynedd bellach, ac er bod ffilmiau Nolan yn grêt, dim dyna’r fersiwn awdurdodol o Batman. Dim ond yn y comics gewch chi hwnna.
Felly lle i ddechra? Wel, fysa lot yn cynnig The Dark Knight Returns gan Frank Miller, wnaeth ailgynnau Batman yn yr 80au, dechrau gwneud i bobol anghofio am y ddelwedd o Batman o’r gyfres Adam West (er gwell neu waeth), a pharatoi’r ffordd ar gyfer ffilmiau Tim Burton. Ond er bod ganddo fo ei le yn hanes Batman – ac er y gallwch chi ddadlau mai The Dark Knight Returns ydi’r llyfr Batman pwysica erioed – dwi jyst ddim yn ffan mawr o’r sgwennu. Dwi’n hoff o’r gwaith celf, ac ella mai dyna pam bod gen i dal atgofion byw iawn ohono fo, ond ar ôl clywed gymaint o bethau da am y llyfr, ges i fy siomi braidd. Ond mae gen i ddiddordeb gweld y fersiwn wedi ei animeiddio o’r comic. Mae o i fod yn dda. Llyfr gwell gan Frank Miller, yn fy marn i, a lle gwell i ddechrau eich casgliad Batman, ydi Year One.
Dwi’n fwy o ffan o stwff Jeph Loeb a Tim Sale – The Long Halloween a Dark Victory yn benodol. Dwi’m yn siŵr iawn pam (dwi’n gwbod, dwi’n gwbod, treiddgar iawn)… ella achos bod ‘mod i ddim wedi disgwyl llyfrau fyddai’n newid fy mywyd pan wnes i gracio nhw ar agor. Mae hype yn beth peryglus, ‘chi.
Fy hoff lyfr Batman ydi The Killing Joke. Dim cwestiwn. I’r rhai sy’ ddim wedi cael y pleser o’i ddarllen o, mae o’n “datgelu” hanes y Joker cyn i’w wallt droi’n wyrdd a’i groen yn wyn – ond wrth gwrs, ‘da ni byth yn siŵr ydi o’n dweud y gwir am ei gefndir ai peidio. Fel mae o ei hun yn ei ddweud – “If I’m going to have a past, I prefer it to be multiple choice.” Mae popeth yn dod at ei gilydd – y gwaith celf, y diweddglo briliant o amwys (yn cael ei drafod fan hyn, efo lot o spoilers, gan Grant Morrison a Kevin Smith), wedi ei sgwennu gan athrylith gwallgo byd y comics, Alan Moore.
Dwi’n cysidro Alan Moore fel y sgwennwr comics gorau erioed – ac un o’r sgwennwyr gorau erioed, ffwl stop. Mae ‘na ddigon wedi ei ddeud amdano fo’n barod – ac os ‘da chi’n darllen hwn, debyg iawn eich bod chi’n gwybod pwy ydi o – felly be am jyst restru rhai o’i lyfrau a’i gyfresi? Swamp Thing (dwi’n darllen hwnna ar y funud, ac mae o’n briliant, wrth gwrs). The League Of Extraordinary Gentlemen (peidiwch â sôn am y ffilm). Llyfr bach o’r enw Watchmen (dwi’n meddwl bod y ffilm yn olreit, ond alla i weld pam bod pobol yn anghytuno). V For Vendetta (gwd ffilm). A From Hell (ffilm rybish, yn ôl y sôn – ond fy hoff gomic erioed).
Mae From Hell yn fricsan o lyfr, yn rhoi spin Alan Moore ar stori Jack The Ripper. Mae’n defnyddio theoriau dipyn yn nyts o’r 70au fel ysbrydoliaeth, ac yn mynd yn fwy gwallgo o fanna. Dwi’n ffan mawr o’r gwaith celf hunllefus du a gwyn – dwi wrth fy modd efo gwaith celf du a gwyn yn gyffredinol, deud y gwir – ond sgwennu Alan Moore ydi seren y sioe. Dim ots bod y stori yn ffantasi llwyr – gymaint ydi’r gwaith ymchwil sydd wedi mynd i mewn i’r peth, ‘da chi bron yn ei goelio fo. Ac ar ben popeth, mae ‘na lwythi (a llwythi, a llwythi) o nodiadau yng nghefn y llyfr yn rhoi gwybodaeth am yr achos. ‘Da chi’n teimlo fel arbenigwr ar Jack The Ripper ar ôl gorffen yr holl beth. Er bod chi ddim. O gwbwl.
Mae o’n stwff sylweddol, pwysig, a lle da i ddechrau eich casgliad. Ond be os dydych chi ddim isio rwbath cweit mor drwm? Be os ‘da chi ar ôl rwbath ysgafnach? Rwbath mwy… breuddwydiol?
Mae Sandman yn dilyn hynt a helynt Morpheus, Arglwydd Breuddwydion, a’i gohorts, ac wedi ei ysgrifennu gan Neil Gaiman – dyn sy’n haeddu ei le ar Mount Rushmore y gîc-fyd modern, mae’n siŵr gen i (efo Wil Wheaton, Felicia Day a Notch, diolch am ofyn). Er ei fod o wedi ei gyhoeddi gan Vertigo, sy’n adran o DC Comics, ac er bod y rhifynnau cynta yn cynnwys cameos gan rai o gymeriadau DC, mae’n mynd yn llai superhero-aidd wrth iddo fo fynd ymlaen, ac yn berffaith i’r rhai sydd ddim yn rhy ffysd am bobol mewn spandex yn slapio ei gilydd hyd ebargofiant. Mae o’n ddigon arti ar brydiau (ond byth – byth – yn ffarti), ac mae ‘na rannau sy’n wirioneddol emosiynol. Un o fy hoff ddarnau, sy’n rhedeg trwy’r holl gyfres, ydi’r sgyrsiau rhwng y Sandman a chymeriad o’r enw Hob Gadling o’r canol oesoedd, sydd wedi ei wneud yn anfarwol gan Farwolaeth (un o’r cymeridau gora mewn unrhyw gomic, yn fy marn i) fel ryw fath o jôc cosmig. Mae o’n stwff da, ac mae’r gyfres yn llawn haeddu lle ar eich silff.
Ac yna at yr un gyfres comics dwi’n ei gasglu sy’n dal i fynd ymlaen, a’r unig un dwi’n tanysgrifio iddo fo, yn derbyn 22 tudalen hyfryd drwy’r post bob mis. Dwi’n amau bod rhaid i fi roi cyflwyniad i The Walking Dead i unrhywun sy’n darllen hwn. Felly wna i ddim. Ar ôl chwarae’r gyfres gynta o’r gemau gan Telltale (cyfres dwi’n eitha hoff ohoni), wnes i benderfynu trochi fy hun ym myd The Walking Dead. Wnes i ddarllen y comics i gyd, ac ar y funud dwi’n gwneud fy ffordd drwy’r gyfres deledu, y nofelau, ac ail gyfres y gemau. Dwi’n argymell pob un ohonyn nhw, ac er mai’r gemau ydi fy hoff beth Walking Dead yn dal i fod, mae’r comics yn ail agos. Mae’r gwaith celf yn ddu a gwyn unwaith eto, sy’n fonws i fi, ac er bod y sgwennu yn amrywio mewn safon, mae’r rhannau gorau yn wirioneddol ysgytwol. I feddwl bod pobol yn dweud bod Game Of Thrones yn llwm… does ‘na ddim byd da yn digwydd yn The Walking Dead. Byth. Mae o’n sugno’r holl emosiwn allan ohonoch chi ar adegau, ac er bod hwnna’n blino rhywun ar ôl dipyn, mae o werth o yn y pen draw. Does ‘na neb wedi trio dweud stori am zombies sy’n para mor hir erioed o’r blaen, a dwi’n edrych ymlaen at weld lle mae’r peth yn mynd dros y blynyddoedd i ddod. Er bod gweithio’ch ffordd drwy ddeng mlynedd o gomics yn dipyn o dasg, dwi’n argymell bod chi’n gwneud – neu, mae’r rhifyn ola ond un, #127, yn le eitha da i ddechrau os does ganddoch chi ddim mynadd. Jyst peidiwch â meio i pan ‘da chi’n dechra teimlo’n hollol ddigalon. Drwy’r amser.
A dyna ni wibdaith fach drwy fy nghasgliad. Dwi ddim ‘di cynnwys bob dim, achos tyswn i’n gwneud hynny fyswn i yma drwy’r dydd. Ac mae gen i lwyth o stwff ar y silff eto i ddarllen – Planet Hulk a World War Hulk (fy nghomics Marvel cynta, coeliwch neu beidio, ers y Hulk Annual ‘na nôl yn y dydd); The Boys gan Garth Ennis, awdur Preacher; a Hellblazer (sydd bellach yn Gymro, wrth gwrs), ymysg pethau eraill. Felly, i grynhoi: mae comics yn dda. Prynwch mwy ohonyn nhw plis.
A hei, dwi’n gwbod bod ‘na ffans comics yn darllen hwn. Ydw i wedi cael unrhywbeth yn hollol rong? Oes ‘na unrhywbeth ddylswn i wedi darllen flynyddoedd yn ôl sydd ddim yn fy nghasgliad? A pam bod ‘na gyn lleied o gomics gwreiddiol Cymraeg wedi eu cyhoeddi? Sticiwch sylw isod os ‘da chi isio, a wela i chi’n fuan.
[…] ni, ar ben stwff ar ffilmiau arswyd, ffilmiau kung fu gwael, cyfresi gwe, The Walking Dead, comics… dim bod ni isio sathru ar draed IAS, sy’n gwneud gwaith da iawn yn trafod y nyrdfyd yn […]