Fallout 4: Ein Gobeithion

O’n i’n teimlo dipyn yn ddi-ffrwt y diwrnod o’r blaen, felly wnes i ail-lwytho Skyrim ar y PC, sticio llwyth o mods i mewn, a jyst… cerdded o gwmpas. Wnes i ddim lot oni bai am hela ceirw, achos dwi ‘di gwneud bob dim yn y gêm yn barod, fwy neu lai – ond roedd o’n reit neis beth bynnag. A wnes i gofio gymaint dwi wrth fy modd efo gemau Bethesda.

Na, dim gemau sy’n efelychu’r teimlad o fyw yn y pentre dipresing wrth ymyl Bangor. Fysa hwnna’n wirion bost. Gemau gan y cwmni Bethesda.

Doom, Wolfenstein, The Elder Scrolls… mae eu record nhw braidd yn sbeshal. Ac ar Fehefin 14, mae nhw’n cynnal sioe fel rhan o ddigwyddiad E3 i ddatgelu eu planiau nhw ar gyfer y dyfodol. Ar dop y rhestr o’u planiau? Fallout 4.

Does ‘na ddim byd wedi ei gadarnhau eto, ond mae o am ddigwydd. Mae o wir am ddigwydd. Ac mae’n saff dweud bod ‘na gyffro yn y fro. Mae Fallout 3 ymysg y gemau gorau erioed – efo llawer yn honni bod gemau diweddarach fel Skyrim yn pylu wrth ei ymyl o. Ond, efo’r holl ddatblygiadau ym myd y gemau ers rhyddhau’r gêm, mae ‘na ffyrdd o wella ar y fformiwla. O, oes.

Be am redeg drwyddyn nhw, ym mha bynnag drefn dwi isio?

fallout3_1_lg

Gwersi o Bloodborne

Fydd ein dilynwyr brŵd yn gwybod bod ni’n hoff o Bloodborne. Hoff iawn. Ac er bod o’n fath gwahanol iawn o gêm i’r gyfres Fallout, fysa Bethesda’n gallu gwneud yn lot gwaeth na dwyn syniadau o un o’r gemau gora ers oes pys.

Y system ymladd, er enghraifft. Mae ‘na elfen o dactegau i’r ymladd yn Fallout 3 – mwy na Skyrim yn sicr – ond mae’n bosib cymryd pethau’n bellach. Be am gael sawl ffurf i bob arf, er enghraifft? Neu, os ‘da chi’n hoff o wacio pobol dros y pen yn hytrach na’u saethu nhw o bellter, be am glymu’ch symudiadau efo’i gilydd mewn combos dibendraw? Www, hyfryd.

Ar ben hyn i gyd, rhan fawr o BloodborneDark Souls ydi’r ffaith bod ‘na chwaraewyr eraill, o dro i drio, yn neidio i mewn i’ch gêm ac yn trio’ch lladd heb rybudd. Sy’n hwyl. Pa mor briliant fysa hwn yn Fallout? Mae ‘na deimlad mawr o unigrwydd yn y gemau ‘ma yn gyffredinol, a fysa rwbath fel hyn yn help mawr yn hynny o beth.

Ond dim ymladd efo’ch gilydd ydi bob dim, wrth gwrs…

Cydweithredu

Fedrwch chi hefyd ymladd ochr-yn-ochr efo’ch ffrindiau yn Bloodborne. Ond mae’n broses dipyn yn astrus. Gwell esiampl o’r math yma o beth? Destiny. Gafodd criw Fideo Wyth gymaint o hwyl yn crwydro’r gofod efo’i gilydd – ac er ein bod ni ddim yn gofyn i Bethesda wneud Fallout Online nag unrhywbeth hurt fel’na, fysa gwadd eich ffrindia i ymosod ar Deathclaws a Super Mutants efo chi yn dipyn o beth.

Jyst bod Fallout 4 yn cael ei ddylanwadu gan y profiad o chwarae Destiny, a dim ei stori…

Rhyfeloedd Rhwng Carfanau

Un o’r manteision o gyd-weithredu efo ffrindiau ydi bod o’n cael gwared o’r teimlad o unigrwydd ‘na. Ond mae ‘na ffyrdd eraill o fynd ati i wneud hwnna hefyd.

Ro’n i wastad yn ei weld yn rhyfedd y gallech chi – yn Skyrim, er enghraifft – fod yn bennaeth ar y dewinod, y rhyfelwyr a’r asasins, i gyd ar unwaith. Bod pawb yn y byd yn dibynnu ar eich help chi, a chi yn unig. Roedd o’n gwneud i’r byd deimlo’n lot gwacach ac yn llai byw.

I fod yn deg, roedd Fallout 3 New Vegas yn eich fforsio chi i ddewis ochr o bryd i’w gilydd, ond dwi’n meddwl ellith Bethesda fynd ymhellach yn hyn o beth. Os ‘da chi’n gwneud un set o sialensau sy’n canslo un arall allan, er enghraifft, be am allu creu cymeriad newydd i orffen y rhan yna o’r gêm – sy’n byw yn yr un byd a’ch cymeriad cynta?

H.y. ‘da chi’n chwarae mwy nag un cymeriad, a la Grand Theft Auto V. Dydi o ddim yn syniad newydd gen i, na’m byd.

Y System Nemesis

Neu: be am ddwyn syniadau o Shadow of Mordor tro ‘ma?

Y system “Nemesis” oedd y rhan o’r gêm yna gafodd y mwya o drafodaeth, yn sicr – y ffaith bod yr holl elynion di-nod oeddech chi’n eu cyfarfod ar hyd y daith yn newid ac yn esblygu yn dibynnu ar eich perfformiad, yn brwydro efo’i gilydd, ac yn wirioneddol ddiddorol fel canlyniad.

Roedd pawb yn sicr y byddai’r system yna’n cael ei “fenthyg” gan gemau eraill, a pa well ffit iddo fo na Fallout? Efo’r ysgrifennu a’r hiwmor penigamp sy’n nodweddiadol o’r gyfres, fysa dod ar draws llwyth o elynion unigryw, bob un efo’i bersonoliaeth a’i hanes ei hun, yn hyfryd o beth.

Crefftio a Chartrefi

Wnaeth Skyrim arbrofi efo chrefftio a chreu eich cartrefi eich hun yn yr estyniad Hearthfire, ond roedd o braidd yn… wel, rybish. Doeddech chi ddim yn gallu dewis sut oedd eich cartre yn edrych, a roedd rhan helaeth o’r profiad yn ddim byd ond gwylio’ch cymeriad yn mwyngloddio a gwneud hoelion.

Iyp. Roedd gwneud hoelion yn ran fawr o’r gêm. Go-iawn.

Be am ehangu (yn sylweddol) ar hwnna, a chymryd dylanwad gan gemau fel Minecraft 7 Days To Die? Be am roi’r dewis i’r chwaraewr i fod yn hollol heddychlon os ydyn nhw isio, a threulio eu hamser yn torri coed i lawr a gwneud cartrefi unigryw? A wedyn gweld gelynion y byd yn ei rwygo’n ddarnau.

Mae o’n fwy hwyl na mae o’n swnio. Onest.

***

Be bynnag fydd gan Bethesda i fyny eu llawesi, dwi’n siŵr fydd o’n rywbeth sbeshal. Fydda i wedi gludo i’r we ar Fehefin 14 yn gwylio bob dim yn datblygu.

Ac os does dim byd yn cael ei gyhoeddi o gwbwl… wel, anwybyddwch hwn i gyd.

– Elidir

4 comments

  1. Gêm gwneud hoelion. Dwi’n meddwl mod i wedi sylweddoli pam mor gaeth oeddwn i Skyrim pan nes i dreulio tua awr yn crwydro rownd ogof yn casglu chwyn coch.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s