Fydd unrhywun sy’n fy nabod i yn gwybod mod i’n dipyn o completionist. Dwi ddim yn dal i fyny efo lot o gerddoriaeth newydd, ond dwi yn dal i ddilyn y bandiau dwi ‘di bod yn gwrando arnyn nhw am sbel – er bod lot o’r bandiau yna ddim bellach ar eu gora. Dwi ddim yn gwybod lot am ffilmiau gwreiddiol newydd, ond os ‘da chi’n rhyddhau dilyniant neu remake o ffilm dwi ‘di weld yn barod (ac mae ‘na ddigon ohonyn nhw…), fydda i yna. Ac mae’r un peth yn wir am gemau – fydda i un ai’n chwarae cyfres o gemau i gyd, neu ddim o gwbwl.
Fydda i ddim yn cychwyn ar y gyfres Final Fantasy unrhywbryd yn fuan, felly.
Dwi hefyd reit optimistaidd a joli am y cynnwys newydd yma. Pan mae pobol yn barnu’r record ddiweddara gan The Smashing Pumpkins neu Indiana Jones And The Kingdom Of The Crystal Skull, dwi’n tueddu i anghytuno. Achos ella bod y petha ‘ma ddim yn berffaith, ond o leia bod nhw’n bodoli. Ac mae ‘na rai pethau da amdanyn nhw, o leia.
A wedyn dyna’r un eithriad i’r ymddygiad braidd yn OCD-aidd yma. The Simpsons.
Dwi’n weddol sicr mai The Simpsons ydi’r rhaglen deledu gora erioed. Yn sicr, dyma’r rhaglen gomedi ora. Mae ‘na le arbennig yn fy nghalon i Seinfeld a Father Ted a The Smell Of Reeves And Mortimer a Curb Your Enthusiasm, ond dwi ‘di rhoi gymaint o oriau – dyddiau, wythnosau, misoedd – i mewn i The Simpsons, ac yn gallu dyfynnu gymaint ohono fo, fysa dewis unrhyw raglen arall yn teimlo’n gwbwl anghywir.
Ond dwi ddim yn dal i fyny efo penodau newydd o’r rhaglen. Ac, yn fwy na hynny, dwi’n meddwl y dylen nhw wedi gorffen y gyfres sbel yn ôl.
Och. Sganddoch chi ddim syniad pa mor boenus oedd hwnna i gyfadda.
Ro’n i yn prynu’r DVDs tan yn ddiweddar, achos eu bod nhw’n rhoi cymaint o ymdrech i mewn i bob un set. Roedd ‘na amrywiaeth o ddeunydd ychwanegol, gan gynnwys sylwebaeth ar bob un pennod. Doedd o ddim wastad yn hwyl i’w wylio, yn enwedig yn ddiweddar – ond roedd o, o leia, yn ryw fath o ddogfen hanesyddol o raglen bwysig iawn.
Yna wnaethon nhw gyhoeddi eu bod nhw am stopio cynhyrchu’r DVDs ar ôl cyfres 17, a chanolbwyntio ar wasanaethau arlein fel Simpsons Now. Sydd, y… ddim ar gael ym Mhrydain. Felly dyna ddiwedd ar hynny.
Yr hoelen ola yn yr arch oedd y newyddion wythnos diwetha bod Harry Shearer – sy’n lleisio Mr Burns, Ned Flanders, Principal Skinner, Dr. Hibbert, Smithers, Lenny, a llu o gymeriadau eraill – yn gadael y sioe.
Mae’r rhaglen wedi bod mewn sefyllfa debyg o’r blaen. Yn 2011, fe wnaeth yr holl gast fygwth gadael mewn ffrae am eu cyflog. Ddaeth hi ddim at hynny, wrth gwrs, ond fe ddaeth hi’n glir bod cynhyrchwyr The Simpsons yn ddigon bodlon i barhau heb y cast sydd wedi bod yn ran mor allweddol o’r rhaglen ers y cychwyn.
Mae’n glir bod y cynhyrchwyr – ac ella Al Jean yn bennaf – wedi stopio meddwl am The Simpsons fel darn o gelfyddyd. Cynnyrch ydi o, yn ddim gwahanol i grys-T neu boster neu ddol. Cysidrwch y dyfyniad yma ganddo fo:
Hynny yw, dydi gwerth artistig y sioe ddim yn ffactor bellach. Grêt.
Rhwng hyn i gyd, mae’r sioe yn dal i gynhyrchu penodau o safon o bryd i’w gilydd, fel y bennod ddiweddar wedi ei wneud yn steil Lego, neu “Holidays Of Future Passed”, wedi ei ysgrifennu fel diweddglo posib i’r gyfres. A dwi’n dal i honni bod y bennod waetha o’r Simpsons yn well nag unrhywbeth mae Family Guy wedi ei gynhyrchu erioed. Achos stwffio Family Guy.
Ond ydi hynny’n ddigon, yng nghanol y mynydd o rybish sy’n suro enw da The Simpsons? Wel… na. Mae’n hen bryd tynnu’r plwg, gwneud ein gora i ddiystyrru pymtheg mlynedd diwetha’r rhaglen, a chofio pa mor dda oedd o unwaith wrth wylio’r cyfresi cynnar. Eto.
Dyna be fydd yn digwydd yn y dyfodol, dwi’n siŵr. Dwi wir yn credu y bydd The Simpsons – hyd at gyfres 9, dwedwch – yn cael ei gysidro fel un o brif arteffactau diwylliannol yr ugeinfed ganrif, a’r gweddill jyst yn cael ei anwybyddu’n llwyr. ‘Da ni angen dechrau ar y broses yna rŵan, cyn i’r sefyllfa waethygu.
Waw. Roedd hwn yn erthygl anarferol o ddifrifol, a chysidro ‘mod i’n trafod rhaglen gomedi. D’oh.
Cymrwch un o olygfeydd gora’r gyfres fel gwobr, da chitha.
– Elidir