Gan Daf Prys Dyma’r gems chi yn sicr (falle) wedi methu. Fi’m yn gwbod pam bydde chi wedi methu nhw. Falle fod chi’n ddall, neu’n wirion bost neu falle fod dwylo chi wedi gliwio i ddisg Destiny a bod y cas wedi rhywsut toddi fewn i'ch abdomen a’ch corff yn ara bach troi mewn i rhyw fath o fwystfil Destiny John Carpenteraidd. Diolch John, diolch am y hunllefau pisso pans pan o’n i’n 7. Ffacinhelmyn.
Rayman Legends (Ubisoft)
Yrm, ie wel, fi ar fin dweud rhywbeth hollol boncyrs fan hyn. Ma hwn yn well ‘na Mario. Ma fe’n fodern, yn tsioc-y-bloc llawn syniadau newydd a ma rhoi lefel wedi’i setio i gerddoriaeth pop ar ddiwedd pob adran yn un gwych achos, wel, achos fersiwn Ubisoft o Black Betty gan Ram Jam. Nes i chwarae y lefel yma tua 10 gwaith yn olynol pan nes i ddadgloi’r peth tro cyntaf. Chi’n beio fi? I doubts it my lovely. Yr unig boen i’r gem yw fod fy nai yn caru’r peth ac yn gofyn i chwarae gem ‘neidio’ o hyd. Ma fe hyd yn oed yn dweud sdori’s i fi am broga’s efo cyllyll yn cuddio yn yr ardd. Dyw mam e ddim yn hapus. Wps.
Game of Thrones (Telltale)
Yrch, Ramsey. Blincin Cymry!
Nawr bod Game of Thrones, y rhaglen deledu, wedi mynd yn hollol dafft (chi bois y llyfrau yn gwbod be fi’n siarad amdano) pam lai neidio fewn i game Telltale. A gallai weud wrtho chi nawr, ma hwn slap bang on canon. Fel cream pie i wyneb clown. Fel llaw pyrfyn ar pen ol barmaid. Fel laser guided missile i… wel falle dim rheina. Jysd fel gwd-old Telltale ma ‘na agweddau naratifol gryf ac wrth gwrs, be ma pawb yn caru am ei gemau nhw, llawer iawn o bygs. A wedyn Game of Thrones yw e hefyd so (sboilyrz) ma pawb yn marw (diwedd sboilyrz). Oedd e ‘run peth efo Walking Dead cofiwch. Falle bod nhw jysd ddim yn hoffi pobl :(.
Transistor (Supergiant Games)
Sai’n deall hwn, ma pawb angen profi Transistor. Nath cant a mil o bobl larlwytho ei frawd mawr ‘Bastion’ a wedyn neb llawer yn bothered efo Transistor. Ma fel fel sgwisho cân gan John Coltrane mewn i gem tebyg i’r Matrix, ond llawer mwy cwl. Efe achos bod e bach yn leftfield? Efe achos bod 90% o bawb yn wallus? Ma na fideo (gen i, ahem) yn esbonio popeth chi angen gwybod am Transistor. Jysd gwnewch e. (Chi’n meddwl am Nike nawr? Bois clyfar y’nhw!)
Unrhywbeth ar y Nintendo Wii.
As in rili, oes unrhywun dal i neud unrhywbeth ar hwn? Haha trolled (twmffat!).
Valiant Hearts: The Great War
Ci! Gret.
Un arall gan Ubisoft, a mi oedd na ambell un arall ganndo nhw gall wedi bod ar y rhestr fer yma, Child of Light yn enghraifft dda: digon posib fod hwn ond yn dangos fod Ubisoft dal i neud y gemau tir-canol ‘na sydd efallai yn colli eu lle ymysg sgrech bois y Triple A. Ta waeth, daeth y gem yma allan yn 2014, sef canmlwyddiant cychwyn y rhyfel byd cyntaf, ac i rai efallai yn brofiad rhy ddyrys, neu efallai yn edrych fel bod nhw’n cymryd mantais – ond y gwir yw fod y profiad yn un llawer mwy clos a deallus gyda gweledigaeth cartwnaidd yn shafio’r ochrau anesmwyth a naratif cryf yn cylchdroi rownd perthynas ci efo gwahanol bobl yn y trenches. Taflwch hwn arno fel talc , bois bach, and drink it in.
Nai feddwl am fwy o gems cyn bo hir dyliff fwy o bobl brofi, onibai bod e’n edrych fel fi’n neud e ar bwrpas i edrych yn rili cwl er mwyn tynnu pobl a sdyff fel’na.