gan Elidir Jones
Waw. Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi redeg drwy’r gemau diweddaraf sydd wedi bod yn gwneud fy mywyd i’n fwy lliwgar… yn bennaf, dwi’n meddwl, achos bod gymaint o fy amser wedi mynd ar Overwatch. Ac mae’n debyg fydd y mis yma’n mynd yn llwyr ar grwydro’n hamddenol o gwmpas byd The Witcher 3, felly ella fydd hi’n sbel cyn y cofnod nesa fel hyn, hefyd.
Ac am y tro cynta erioed, mae lot o’r gemau dan sylw fan hyn wedi cael eu trafod ar ein podlediad. Ewch i wrando fan hyn (neu ar iTunes, Stitcher, a TuneIn). ‘Da ni’n hapus iawn efo’r peth yma yn f8 HQ.
Beth bynnag. Ymlaen at y gemau!
Uncharted 4: A Thief’s End (PS4, 2016)
Mae’n Joe ni wedi adolygu Uncharted 4 yn barod, ar ffurff fideo sgleiniog. Sydd fan hyn. Cyfleus.
O’m rhan i, wnes i fwynhau’r gêm gymaint â Joe ar y pryd, ond ers hynny, mae ‘na ambell i amheuaeth wedi cropian i mewn i fy meddwl… y rhan fwya ohonyn nhw ar ôl gwrando i’r podlediad (ia, un arall) yma gan Gamers With Jobs, sy’n rhwygo’r gêm yn ddarnau. Mae’n werth gwrando – dyma un o’r dadansoddiadau gorau o gêm wedi erioed wedi ei glywed, a dwi’n cytuno efo sawl pwynt. Mae Uncharted 4 yn teimlo fel fan-fiction ar brydiau, yn benodol oherwydd cyflwyniad brawd colledig Nathan Drake, ac mae rhai cymeriadau (helo Elena!) yn llawer, llawer gwannach nag oedden nhw yn y gemau eraill.
Ond mae’r profiad chwarae – er yn ddigon cul – mor dda ag erioed, a wnes i hefyd ffeindio fy hun yn cael fy sugno i mewn i’r ochr multiplayer o bethau, sy’n eitha prin i fi. Methiant, o bosib, o ran stori a chymeriadu, ond lot o hwyl fel arall.
Overwatch (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
O, Overwatch.
Ella eich bod chi’n cofio fy argraffiadau cynnar o Overwatch, ar ôl y Beta, a ‘mod i ddim mewn cariad efo’r profiad. Ac er bod lot o fy sylwadau yn dal dŵr – mae’r gêm yn undonog, a heb ddigon o amrywiaeth hyd yn oed rŵan – dwi wedi rhoi lot fawr iawn o oriau i mewn i’r profiad, ac yn llwyr ddisgwyl i neidio i mewn bob hyn a hyn am fisoedd i ddod, os nad blynyddoedd, wrth i fwy o gymeriadau, lefelau a ffyrdd o chwarae gael eu hychwanegu.
Yn ddiweddar, er enghraifft, fe wnaeth Lucioball – fersiwn (rip-off) Overwatch o Rocket League – roi sawl noswaith o bleser i ambell un yn nhîm f8. Dim ond gwella wneith Overwatch dros amser. Ac er bod y profiad ddim wedi clicio’n syth, dwi’n edrych ymlaen lot at weld sut fydd y gêm yn datblygu.
Doom (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
Gwaedlyd. Cyflym. Ac yn teimlo yn union fel chwarae’r Doom gwreiddiol. Mae ambell remake werth eich amser, wedi’r cwbwl.
Gêm arall wnaeth ddim clicio’n syth, am un rheswm penodol – mae’r lefelau yn y Doom newydd mor llawn cyfrinachau, mae’n slofi’r gêm i lawr eitha dipyn wrth i chi gropian o gwmpas yn chwilio amdanyn nhw. Ond wedi i chi ennill un neu ddau o welliannau i’ch siwt ar hyd y daith, a’i gwneud hi’n lot haws dod o hyd i’r cyfrinachau, mae popeth yn disgyn i’w le, ac mae Doom yn rhuo i fywyd.
Hyfryd o gêm – yn nostalgaidd ac yn slic ar yr un pryd. Alla i ddim sôn am yr agwedd multiplayer, ond o ran y prif stori, mae Doom yn un o brofiadau mwya llyfn y flwyddyn i mi. Ella bod ‘na ambell beth o’i le – mae’n rhy hawdd, o bosib – ond ar y cyfan, mae’n werth taflu tua £25 – £30 ar hwn os oes ganddoch chi tua wythnos yn sbâr.
The Walking Dead: Michonne (PC & Mac / PS4 / Xbox One / PS3 / Xbox 360 / iOS & Android, 2016)
Mae cyfresi The Walking Dead gan Telltale ymysg fy hoff gemau erioed. Ond ar ôl dwy ohonyn nhw, a’r spin-off byr 400 Days, a’r gyfres Game Of Thrones sy’n union yr un peth yn fecanyddol, ro’n i’n teimlo fel fy mod i’n dechrau blino ar y fformiwla.
Wnes i ryfeddu braidd, felly, gymaint o’n i’n mwynhau The Walking Dead: Michonne. Yn un peth, tair pennod sydd yma yn hytrach na’r chwech arferol. Mae’n bosib mynd drwy’r holl beth mewn un noson hir, sy’n help y dyddiau yma. Hefyd, mae’n brofiad grêt i ffans o’r comics, yn dilyn cymeriad Michonne yn ystod cyfnod sy’n cael ei adael allan yn llwyr ar bapur ac inc, wrth iddi galifantio ar draws y lle ar long yn pigo blodau ac yn dysgu ballet i ferched ifanc.
Neu ymladd zombies. Un o’r ddau.
Mae ‘na ambell welliant hir-ddisgwyliedig wedi ei wneud i edrychiad y peth – drychwch ar y teitlau, er enghraifft – ac mae’r gêm mawr nesa yn y gyfres, The Walking Dead: A New Frontier, yn cynnig mwy fyth o welliannau. Mae’n deg dweud bod fy nghyffro am gemau Telltale wedi ei gynnau eto. Ac mae’r gyfres Batman newydd allan rŵan. Amser ychwanegu’r un yna at y rhestr felly…
10 Second Ninja X (PC / PS4 / Xbox One / Vita, 2016)
Gêm fach wnes i ei phrofi yn sioe EGX Rezzed yn y gwanwyn, mae 10 Second Ninja X yn gêm blatfform sy’n hawdd i’w chwarae ond yn anodd ei meistroli, lle mae’n rhaid i chi glirio’r lefelau byr o fewn deg eiliad.
Roeddwn i’n gwybod hynny i gyd o flaen llaw. Be oedd yn fy synnu i wrth chwarae’r gêm llawn oedd pa mor ddigri ydi 10 Second Ninja X. Yn y bôn, mae’n fath o barodi ar Sonic The Hedgehog sy’n gwybod yn iawn pa mor hurt ydi o. Felly mae ganddoch chi baddie yn ymddwyn yn union fel Dr Robotnik, sydd ddim mor ddrwg yn y bôn ac yn hollol ansicr o’i hun, a sidekick fel Tails sy’n ymddangos ar bwyntiau penodol, cyn marw’n syth. Lot o hwyl.
Fe fyddai meistroli pob un lefel yn rhoi digon o werth i’ch arian… ac yn gwneud i chi rwygo’ch gwallt allan yr un pryd, debyg. Os ydi hynny’n swnio fel hwyl, i ffwrdd a chi. Ond hyd yn oed heb gael sgôr perffaith ym mhob lefel, mae’n ddigon i dynnu’ch sylw chi am tua 5 awr. Ac ar ôl i chi orffen, ‘da chi’n datgloi gêm fach ychwanegol. Efo zombies. A lleianod. Mae’n stiwpid o gaethiwus. Roedd rhaid i fi frwydro’n galed i rwygo fy hun o’r gêm cyn iddo lyncu fy amser yn llwyr.
Rogue Legacy (PC & Mac / PS4 / Xbox One / PS3 / Vita, 2013)
Sôn am lyncu amser… mae Rogue Legacy yn beryg bywyd.
Gêm blatfform 2D (arall), mae’n teimlo fel fersiwn modern o rhywbeth fel Ghosts ‘n’ Goblins, efo sblash eitha mawr o Dark Souls hefyd. ‘Da chi’n chwarae fel marchog sy’n aelod o deulu mawreddog, fydd yn mentro i mewn i gastell llawn trapiau a gelynion sy’n cael ei ddylunio o’r newydd ar hap bob tro ‘da chi’n chwarae. Wnewch chi farw. Yn aml. Ond mae’r holl drysorau ‘da chi’n eu hennill ar y daith yn mynd i’ch ‘disgynyddion’, yn rhoi mwy a mwy o bwerau i chi ar eich trip nesa i mewn i’ch castell, ac yn gwella eich HQ bach y tu allan i giatiau’r castell ar yr un pryd.
Mae’n wych, a’r posibiliadau o ran steiliau gwahanol o chwarae bron yn ddiddiwedd. Ac ar ôl gorffen, mae’n bosib chwarae drwy’r holl beth eto, ond efo lot mwy o elynion ar ôl eich gwaed. Os oedd hynny’n bosib.
Dwi ddim yn siŵr pam wnes i anwybyddu hwn dair mlynedd yn ôl… ond mae’n neis ac yn rhad erbyn hyn, o leia. Dim rheswm i chi beidio ei chwarae, felly.