gan f8
Ail bennod ein podlediad! Ail! Bennod!
‘Da ni’n llwyddiant. Yn swyddogol.
Yn y bennod yma:
– Y gemau diweddara mae’r bechgyn wedi bod yn eu byseddu. Gan gynnwys: No Man’s Sky! Deus Ex: Mankind Divided! The Legend Of Zelda: Twilight Princess HD! The Walking Dead: Michonne! 10 Second Ninja X! Rogue Legacy!
– Newyddion gemau yr wythnos o sioe Gamescom. Yn trafod datgelu Metal Gear Survive, ymdrechion Blizzard i droi mewn i Pixar, pa mor dda mae Star Citizen yn edrych, fersiynau sgleiniog newydd y PS4 a’r Xbox One, ac oes ‘na ddyfodol i’r math yma o sioe wedi’r cwbwl.
– Adran newydd lle ‘da ni’n cyflwyno ac yn trafod un agwedd o gemau i rai sy’n newydd i’r cyfrwng. Tro yma, yr FPS (first-person shooter).
– Elidir yn rantio am Suicide Squad a bron yn popio gwythïen yn ei ben yn gwneud, cyn symud ymlaen at drelyr newydd Rogue One. Sydd yn ei dro yn cychwyn Daf ar rant ei hun. Am y prequels. A’r Hobbit. A phopeth rhyngddyn nhw.
Dyma chi! A cofiwch bod y podlediad ar gael ar iTunes, Stitcher a TuneIn hefyd. Peth da ‘di dewis.
Mwynhewch y bennod.
Os am gael golwg ar rai o’r fideos ‘da ni’n eu trafod mis yma, dyma nhw:
Teitlau The Walking Dead: Michonne:
Trelyr Death Stranding:
Y ffilm fer The Last Bastion gan Blizzard:
Demo Star Citizen: