Seafall: Blocbystyr o Gêm Fwrdd

gan Elidir Jones

Mae’n rhaid i fi fod yn onest a chyfadde ‘mod i ddim wedi bod yn chwarae lot o gemau bwrdd yn ddiweddar. Dwi hefyd wedi colli trac o’r gemau newydd sy’n dod allan, ac wedi rhoi’r gorau i lot o’r arferion da oedd yn arfer fy nghadw i yn y lŵp, fel gwylio sianel The Dice Tower bob bore. Rhywbeth dwi’n ei awgrymu i bawb.

Ond mae ‘na un gêm fwrdd, wedi bod mewn datblygiad am flynyddoedd, dwi wedi bod yn cadw llygad barcud arni. Bellach, mae’n falch gen i ddweud, mae Seafall (bron) yma o’r diwedd.

A tra fy mod i isio codi’r lefel o heip am y gêm yma hyd yn oed yn uwch na mae o’n barod, mae hi hefyd braidd yn anodd trafod Seafall. Yn un peth, dwi ddim wedi cael cyfle i’w chwarae. Hefyd, mae hon yn beth eitha prin: gêm fwrdd… efo spoilers.

Y pethau syml, ta. Mae Seafall yn gêm i 3 – 5 o chwaraewyr, lle fyddwch chi’n hwylio ar draws y môr mawr yn darganfod ynysoedd newydd, ac yn brwydro efo’ch ffrindiau dros y trysorau a’r nwyddau ‘da chi’n eu darganfod yno. Os hoffech chi gip ar sut i’w chwarae, dyma fideo bach handi i’ch helpu chi…

… sy’n para bron i 40 munud. Ddylsa hynny roi syniad i chi o ran cymhlethdod y gêm.

Ond y peth arbennig am Seafall ydi ei bod hi’n ran o genre newydd o gemau bwrdd: gemau “legacy”. Mae o reit yna yn y teitl llawn – Seafall: A Legacy Game. Mae hyn yn golygu bod y gêm wedi ei gynllunio i chael ei chwarae efo’r un criw o bobol bob tro, dros nifer cyfyngiedig o sesiynau, a’i fod o’n newid o gêm i gêm. Fyddwch chi’n ychwanegu sticeri i’r bwrdd i gynrychioli ynysoedd, ac yn datgloi rheolau a throeadau yn y gynffon wrth i chi fynd ymlaen, a hyd yn oed yn dinistrio rhannau o’r gêm – yn rhwygo cardiau i fyny pan mae ‘na reolau yn cael eu taflu allan o’r ffenest, er enghraifft. Ac yna, ar ôl tua ugain o sesiynau, fe fydd eich bwrdd chi yn edrych yn gwbwl wahanol i un pawb arall sydd wedi chwarae’r gêm, ac fe fyddwch chi wedi cael profiad cwbwl unigryw.

SF01-Metal_Coins-Sample1

Dydi hyn ddim yn beth hollol newydd. Risk Legacy oedd y gêm cynta i ddefnyddio’r system yma, nôl yn 2011. Fe wnaeth o sblash enfawr ym myd y gemau bwrdd, er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobol yn cytuno bod Risk yn gêm rybish. Yna, flwyddyn diwetha, fe gafodd y system ei ychwanegu i gêm llawer iawn gwell, sef Pandemic. A roedd ‘na lot o ddathlu.

Ond Seafall ydi’r gêm cynta i gael ei ddylunio, o’r top i’r gwaelod, er mwyn cymryd mantais o’r system “legacy”. Ac mae hynny’n gyffrous. Peth cyffrous arall ydi mai Rob Daviau, yr un dyn wnaeth ddylunio’r gemau “legacy” blaenorol, sydd y tu ôl i hwn hefyd. Mae’n ddyluniwr sydd – a plis maddeuwch y pyn cwbwl angenrheidiol – ar dop ei gêm.

Fel y gallwch chi ddisgwyl, mae gêm enfawr fel hyn yn cymryd lot fawr iawn o amser i’w hadolygu’n drylwyr. Dim ond ambell i argraff cyntaf sydd ar gael ar y funud. Dyma un ysgrifenedig gan Leigh a Quintin o Shut Up & Sit Down, a dyma fideo gan fois The Dice Tower. Mae eu synnwyr ffasiwn nhw’n hurt bost, ond mae nhw’n deall gemau bwrdd yn well na neb. Onest.

Mae’n ddigon clir bod Seafall ddim i bawb. Dydi hon ddim yn gêm i’w chwarae efo Nain ar ôl cinio Dolig. Mae’n ara deg iawn, eich gêm cynta yn dysgu’r holl reolau i chi dros sesiwn o tua tair awr cyn i’r profiad go-iawn hyd yn oed ddechrau. Dyma gêm o feddwl, o bendroni, o blotio eich symudiadau nesa, yn hytrach na gêm barti o sgrechian a gweiddi. Gêm i bobol sy’n au fait efo gemau bwrdd yn gyffredinol, a sy’n deall pa fath o brofiad sy’n eu disgwyl. Gêm hefyd sydd, yn ôl pob sôn, yn well efo llai o chwaraewyr, sy’n beth prin iawn.

Gawn ni weld sut fydd y farn boblogaidd yn datblygu wrth i fwy a mwy o sesiynau gael eu chwarae. Ond hyd yn oed os dydi Seafall ddim yn byw i fyny i’r holl heip, mae’r ffaith bod y gêm yn bodoli o gwbwl yn dipyn o gamp, a’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i ddylunio’r peth yn wirioneddol syfrdanol. Ac mae’n haeddu llwyddo. Ar y cyfan, mae dylunwyr gemau bwrdd yn llawer mwy parod i gymryd risg ac i drio syniadau newydd na dylunwyr gemau fideo. Mae angen cefnogi hynny, a sicrhau ei fod yn parhau.

Serch hynny, dwi ddim yn gwybod fydda i’n cael cyfle i chwarae Seafall. Hyd yn oed i rhywun fel fi, sydd wrth ei fodd efo gemau bwrdd, mae’n dipyn o ymrwymiad. Mae’r copi o Pandemic Legacy sy’n dal i fod gen i ar y silff heb ei hagor yn dangos hynny. Ond dwi’n hynod, hynod genfigennus o unrhywun sy’n cael cyfle i wneud. A hei, os ‘da chi’n cael gafael ar gopi ac yn mynd ar eich antur chi’ch hun ar draws y moroedd, rhowch wybod i ni sut aeth hi.

Heb spoilers, wrth gwrs.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s