<START TRANSMISSION #NoMansSky/]>
A MESSAGE FROM OUR COSMIC EMPEROR @BillBailey— PlayStation UK (@PlayStationUK) 10 August 2016
‘Da ni’n hapus reit heddiw ar fideo wyth gan i ni dderbyn gem diweddaraf Hello Games i’r Playstation: No Man’s Sky. Gem darganfod ac anturiaethu trwy’r cosmos (sy’n handi wir achos mae Daf wedi bod yn gwylio lot o rhaglenni dogfenol am y Cosmos yn ddiweddar – gall esbonio i chi yn iawn beth yw parsec ac mae’n ffrindiau newydd efo Neil deGrasse Tyson).
Wele fan hyn fod Bill Bailey wedi deall hi’n iawn – fel hyn fydd Elidir yn siarad efo’i deledu am rhai fisoedd i ddod.
Dewch i ymuno efo’r miri pan fydd Elidir a Daf yn gosod fideo o’r diwrnod cyntaf ar youtube heno.
‘Engage’.