Clwb Llyfrau f8: “Y Brawd a’r Chwaer”

gan Elidir Jones

Maddeuwch i mi wythnos yma os ydw i’n benthyg cynnwys o flog Cymraeg arall. Ond ydi o’n dal i gyfri fel benthyg cynnwys os mai chi sgwennodd o yn y lle cynta?

Dros y wythnosau diwethaf, mae Y Stamp wedi bod mor garedig â chyhoeddi stori fer gen i. Ac nid jest unrhyw stori fer. Fe allech chi ddweud mai dyma’r rhan gynta o stori fawr iawn. Un fydda i’n ei adrodd, gobeithio, am weddill fy mywyd.

Fe allech chi ddweud hynny. Os ‘dach chi isio bod yn arti a smarmi am y peth.

Ers peth amser bellach, dwi wedi bod yn sgwennu nofel. Arall.

(Fe allech chi ddarllen am y gynta, Y Porthwllfan hyn, gyda llaw.)

Stori ffantasi ydi hi, o’r enw Ffrwyth y Duwiau. A ffantasi yng ngwir ystyr y gair – ffantasi epig, heb gysylltiad i’n byd ni o gwbwl, yn tynnu ar Tolkien, a George R. R. Martin, a Daniel Abraham, a Dungeons & Dragons, a phob math o stwff da fel’na.

Fe ddechreuodd y nofel fel stori antur ddigon ffwrdd-a-hi, efo Raiders of the Lost Ark yn ddylanwad eitha amlwg. Jest dipyn o ddihangfa o’r byd go-iawn. Ond, fel dywedodd Tolkien am ei gyfres yntau o straeon, “the tale grew in the telling”. Nid un stori sydd yma bellach, ond cyfres ohonyn nhw. Rhai’n fawr, rhai’n fach. Digon o ddeunydd i bara am byth, am wn i.

Ac felly, wrth sgwennu, fe wnes i ddechrau plannu hadau bach i fi’n hun. Ambell i gwestiwn am gymeriad neu leoliad arbennig fyddai ddim yn cael eu hateb yn y nofel, er mwyn i mi gael trio gwneud nes ymlaen.

A bellach, mae Y Stamp wedi cyhoeddi’r ymgais gynta gen i drio ateb rhai o’r cwestiynau yna. Mae ‘na leoliad yn y nofel – mynachdy unig, yng nghanol yr anialwch – a chymeriad – hen fynach ecsentrig – roeddwn i isio gwybod mwy amdanyn nhw. A felly dyna fynd ati i roi dipyn o gig ar yr esgyrn. Dwi’n eitha hapus efo’r canlyniadau.

Darllenwch “Y Brawd a’r Chwaer” mewn tair rhan ar Y Stamp:

RHAN 1

RHAN 2

RHAN 3

Fe fydd ‘na fwy o straeon byrion yn dod, cyn i Ffrwyth y Duwiau gyrraedd y silffoedd. Pryd bynnag bydd hynny.

Y bwriad, yn y man, ydi gwahodd awduron eraill i gyfrannu straeon wedi eu lleoli yn yr un byd, a chreu’r “shared world” ffantasi cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Ond mae hynny ymhell yn y dyfodol, mae’n siŵr gen i.

Un cam – ac un stori – ar y tro. Diolch am gymryd y cam cyntaf yma efo fi.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s