Gemau Diweddar

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mai 1, 2014.

‘Mai.

Mae gen i bob math o bynciau di-ri i’w trafod yn y man. Ond dwi’n teimlo’n ddiog heddiw, felly i gyd wna i ydi mynd drwy’r gemau dwi wedi chwarae (a gorffen) yn ddiweddar a sgwennu llond llaw o adolygiadau bach. Os ‘di hwnna’n iawn ganddoch chi.

Bish bash bosh. Ffwrdd â ni.

Donkey Kong Country: Tropical Freeze

Dwi ‘di sôn droeon gymaint o ffan ydw i o’r gyfres Donkey Kong Country. O’n i’n hollol obsesd efo’r gyfres ar y SNES yn blentyn, a Donkey Kong Country Returns oedd fy hoff gêm ar y Wii. O’n i’n edrych ymlaen at hwn. Lot.

Yn anffodus, ges i fy siomi braidd. Doedd o ddim yn helpu ‘mod i ‘di dechrau’r gêm yn syth ar ôl gorffen Rayman Legends, lle mae pethau fel hyn yn digwydd ar ollyngiad het:

I gymharu efo Rayman, mae Donkey Kong druan yn dipyn o luddite. Dydi o ddim yn gwneud lot mwy na rhedeg, a neidio, a slapio’r llawr, a… dyna ni. Dydi’r lefelau ddim wedi cynllunio mor dda â’r gemau eraill yn y gyfres chwaith. Ond y broblem fwya efo’r gêm, dwi’n meddwl, ydi pa mor anodd ydi o. Dydi o ddim fel gemau Mario, yn dechrau’n hawdd ac yn symud yn llyfn at fod yn stiwpid o anodd erbyn y diwedd. Mae Tropical Freeze yn dechrau’n anodd ac yn datblygu i fod bron yn amhosib. Fe allwch chi fod yn ymladd bos am ddeng munud ac yn gwneud yn dda iawn, jyst i’r diawl newid ei dactegau a’i symudiadau’n llwyr, eich lladd chi, a’ch fforsio chi i ddechrau’r holl broses eto. Welais i rywun ar y we yn galw’r gêm yn Donkey Kong Country: Trial And Error. Dydi hwnna ddim yn bell o’r gwir, mae gen i ofn.

Ond dwi’n gwneud i’r gêm swnio’n waeth nag ydi o. Wnes i fwynhau’r profiad o’i chwarae ar adegau. Mae o’n… iawn. Ond ar y pwynt yma yn hanes y Wii U, efo cyn lleied o gemau ecsgliwsif yn cael eu rhyddhau ar y system, mae o angen dipyn bach mwy na gemau “iawn”.

NES Remix 1 & 2

Dyna welliant. Mae’r gemau NES Remix, dau ohonyn nhw wedi eu rhyddhau’n agos iawn at ei gilydd yn ddiweddar, yn ailbecynnu lot o hen gemau’r Nintendo Entertainment System ac yn taflu sialens sydyn ar ben sialens sydyn atoch chi – dipyn bach fel fersiwn retro o’r gemau Wario Ware. Ond mae nhw ar eu gorau pan mae nhw’n “ailgymysgu” gemau. Er enghraifft, dyma Link o The Legend Of Zelda yn taclo lefel cynta Donkey Kong.

Mae’r gemau yn cynnwys eitha dipyn o “filler” – pwy, er enghraifft, sy isio ailymweld â Clu Clu Land neu Golf? Ond ar y cyfan, mae nhw’n lot o hwyl, ac yn atgoffa chi jyst pa mor dda mae goreuon y NES yn dal i fod. Mae’r gyfres wedi derbyn eitha dipyn o sylw ar wefannau fel IGN, ac os ellith Nintendo ddal i bwmpio nhw allan, ella bod ganddyn nhw winar ar eu dwylo. Allech chi ddychmygu pa mor dda fysa SNES Remix? Neu N64 Remix? Cymrwch fy mhres i rŵan.

The Legend Of Zelda: The Wind Waker HD

Er bod y Wii U ddim yn rhoi’r byd ar dân ar y funud, mae o ‘di cael eitha dipyn o sylw gen i’n ddiweddar. Chwaraeais i The Wind Waker am y tro cynta ar y Nintendo Gamecube unarddeg mlynedd yn ôl. Ar y pryd, er ei fod o’n gêm brydferth iawn, yn dod at agos at edrych fel cartŵn ar adegau, do’n i ddim yn meddwl bod o’n dod yn agos at oreuon y gyfres, Ocarina Of Time ac A Link To The Past.

Erbyn hyn, mae’r farn boblogaidd am y gêm – oedd dipyn yn negatif pan gafodd o ei ddatgelu am y tro cynta – wedi meddalu cryn dipyn, a ges i lot mwy o hwyl yn chwarae drwy’r peth am yr ail waith. Doedd y ffaith bod o mewn HD yn sicr ddim yn brifo. Bellach, efo côt newydd o baent, dydi o ddim yn dod yn agos at edrych fel cartŵn – mae o yn gartŵn.

Mae ‘na lond llaw o ychwanegiadau newydd i’r gêm hefyd, fel yr hwyl newydd i’ch cwch sy’n gadael i chi deithio ar draws y byd yn llawer cyflymach. Serch hynny, mae Nintendo wedi colli cyfle i wneud mwy o newidiadau. Mae’n amlwg wrth chwarae’r gêm gwreiddiol bod lot o’r cynnwys wedi cael ei dorri er mwyn rhyddhau’r gêm yn gynt, ac roedd hyn yn gyfle euraidd i roi’r cynnwys yna’n ôl. Ond mae The Wind Waker yn dal i fod yn berl fel mae o. Fydda mwy o fersiynau HD o hen gemau Nintendo yn ychwanegiad briliant at gatalog y Wii U, dwi’n meddwl. Super Mario Galaxy HD plis.

Warhammer 40,000: Space Marine

Ac ymlaen at yr Xbox 360. Gan fy mod i ddim ‘di prynu 360 tan diwedd 2011, mae gen i restr hir o gemau gorau’r system i’w gorffen. Ar y funud, er enghraifft, dwi’n chwarae Bioshock.

Ia, y Bioshock cynta. Erioed ‘di chwarae o. Siwiwch fi.

Fysa neb yn cysidro Warhammer 40,000: Space Marine fel un o’r gemau gora ar y 360, ond oedd o’n wirion o rhad, felly wnes i bigo copi i fyny. A do’n i’m yn gallu gwrthod y cyfle i saethu Orcs yn y gwyneb. Drosodd a throsodd a throsodd.

Do’n i ddim yn disgwyl lot o’r peth, ond rhaid dweud, ges i fi siomi ar yr ochr ora. Mae’r gêm yn chwarae eitha dipyn fel Gears Of War, ond yn symlach, a ddim yn cymryd ei hun gymaint o ddifri. Mae o dipyn yn undonog, a does dim rhaid defnyddio’ch ymennydd chi ar unrhyw bwynt yn ystod yr holl beth, ond fedrith neb ddweud bod o ddim yn lot fawr iawn o hwyl.

Ond wir, os fydda i byth yn clywed Orc Cockney yn gweiddi “Space Marine!” ata i’n flin eto, wna i farw’n hapus.

South Park: The Stick Of Truth

Y peth prin hwnnw – gêm sydd wedi derbyn sylw yn y wasg Gymraeg yn barod. Dyma adolygiad gwych Fideo Wyth:

Waeth i chi stopio darllen hwn, achos dwi’n cytuno efo fwy neu lai popeth yn yr adolygiad yna. Mae’r hiwmor yn hollol sbot-on – fel allech chi ddisgwyl, gan bod Trey Parker a Matt Stone wedi rheoli bob agwedd o’r sgript. Dim sboilers, ond o’n i yn fy nyblau yn ystod y rhan o’r gêm wedi ei leoli yng Nghanada. Cliciwch yma os ‘da chi isio gwbod pam.

Fe allech chi ddadlau bod RPG sy’n para ryw 12 awr yn hytrach na’r 30+ awr arferol ddim cweit yn gweithio, ond fysa fo fwy neu lai yn amhosib cynnal yr hiwmor dros gêm o’r hyd yna. Mae o’n cynnig lot mwy i rywun (fel fi) sy reit gyfarwydd efo’r gyfres, ond hyd yn oes os ‘da chi erioed wedi gwatshiad pennod, mae o’n werth eich amser. Mae o’n hwyl ac yn addysgiadol.

A cofiwch: peidiwch â rhechu ar geilliau unrhywun.

Tomb Raider

OK, amser i fi gyfadde rwbath arall: cyn hyn, do’n i erioed wedi chwarae gêm Tomb Raider.

Dwi’n gwbod, Wna i nôl fy nghôt.

Unwaith eto, dwi’n beio’r ffaith ‘mod i ‘di chwarae dim byd ond stwff Nintendo am flynyddoedd. Felly pan gafodd y gêm ddiweddara yn y gyfres ei ailryddhau ar y PS4, wnes i neidio ar y cyfle – yn bennaf achos bod ‘na bygyr-all arall yn cael ei ryddhau ar y PS4 ar y funud.

Dwi ‘di bod yn ffŵl. Mae Tomb Raider yn briliant. Wnes i chwarae drwy’r holl beth mewn ryw dri sesiwn. Mae ‘na rwbath ewfforig am y peth. ‘Da chi’n neidio ac yn dringo, yn llithro lawr llethrau, yn sleifio o gwmpas efo bŵa a saeth, ac yn chwythu byddinoedd o elynion yn racs jibidêrs efo gwn peiriant. Mae’r controls yn berffaith o lyfn, edrychiad y gêm yn hyfryd o sinematig, a’r posau yn ddigon caled i’ch testio chi heb fod yn wirion o annheg. Wnes i fwynhau’r profiad gymaint, es i allan a phrynu Tomb Raider: The Angel Of Darkness ar y Sega Dreamcast. A dwi ddim hyd yn oed yn berchen ar Sega Dreamcast. Dim eto, beth bynnag.

Mae o’n cael seren aur gen i. Gawn nhw roi hwnna ar y bocs.

A dyna ni am y tro. Wna i un arall o’r rhein ar ôl gorffen pentwr arall o gemau, yn sicr. Fel dwi’n deud, dwi’n gwneud fy ffordd drwy Bioshock ar y funud, yn ogystal â Dragon Quest 9 ar y DS. Dwi’n bwriadu troi yn fuan at Child Of Light, Batman: Arkham Origins, Mass Effect 2, Bayonetta, The World Ends With You… ac erbyn i fi orffen efo rheini, mae’n debyg fydd Mario Kart 8 a Watch Dogs allan. Happy days, bois.

One comment

Leave a comment