Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Ebrill 27, 2014.
Helo a howdi dw. Sori bod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi wedi bod reit brysur (wel, mor brysur a ellith sgwennwr di-waith fod…), ac yn reit sâl hefyd.
Ond wele. Dyma fideo newydd, sef adolygiad o dri fersiwn digidol o gemau bwrdd: Ticket To Ride, Small World, a Talisman. Dwi’n gwbod bod o’n bwnc niche iawn, a ddim am gael lot o wylwyr, mae’n debyg. Ond motsh. Tyswn i’n poeni am fod yn boblogaidd, fyswn i ddim yn treulio fy nyddiau yn cadw blog Cymraeg am gemau cyfrifiadur.
Mae fy salwch i’w glywed yn glir yn y fideo, a doedd fy meicroffon gora ddim yn fodlon gweithio’n iawn, felly dydi ansawdd y sain ddim yn berffaith. Ond dydi o’m yn bad. A beth bynnag, ‘da chi ddim yn talu amdano fo, na ‘dach? Stopiwch gwyno, wir Dduw.
‘Ma fo.
Ac os hwnna wedi pricio’ch chwilfrydedd, dyma Tabletop yn chwarae Ticket To Ride…
Ticket To Ride: Europe…
… a Small World.
A dyma Beer And Board Games yn taclo Talisman yn eu ffordd unigryw eu hunain. Mae gwylio’r fideos yma’n lot mwy o hwyl na chwarae’r gêm, coeliwch chi fi.
Adios muchachos.