Interliwd Fach Gerddorol

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Ebrill 7, 2014.

Rhag ofn bod chi ‘di methu o – a dwi’n meddwl bod y rhan fwya ohono chi wedi gwneud – wnes i fideo newydd wythnos diwetha. Famma mae o. Fel arfer, mae o’n stiwpid. Ond wnes i roi lot o ymdrech i mewn iddo fo hefyd. Felly mae o fel y ffilm Waterworld. Pa well argymhelliad gewch chi na hwnna?

Dwi ddim yn planio i’r cofnod yma fod yn hir iawn. Gawn ni weld sut wneith hwnna weithio allan. Ond ella gewch chi gofnod bonws arall cyn diwedd yr wythnos. Os ‘da chi’n blantos da.

Dwi’n dipyn o ffan o gerddoriaeth. Mae o’n dda, dydi? Michael Jackson… D Ream… ac yn y blaen. A hei, os ‘da chi ddim yn ffan yn barod, dwi’n cynnig bod chi’n gwrando ar dipyn o Plant Duw os ‘da chi’n cael y cyfle. Dwi’n clywad bod y basydd yn dipyn o nyrd. Uffar o foi golygus hefyd.

A dros y blynyddoedd, mae cerddoriaeth wedi cael dipyn o effaith arna i. Wnes i ddim darganfod cerddoriaeth alternatif tan i fi droi’n bymtheg oed, felly cyn hyn, yr oll o’n i’n gwrando arno fo oedd cerddoriaeth o gemau, fwy neu lai. A’r soundtrack i Ghostbusters 2.

Felly be dwi am wneud, yn syml iawn, ydi rhestru ychydig o fy hoff gerddoriaeth o gemau. A be ‘da chi’n mynd i wneud ydi ista’n ôl, tywallt gwydraid o sherry, goleuo sigâr, clicio ar yr holl lincs isod, a mwynhau.

The Legend of Zelda

Y dadi. I mi, mae prif thema’r gyfres The Legend of Zelda i fyny efo themâu Star Wars, Indiana Jones, a Back To The Future. Mae o’n un o themâu gorau’r ugeinfed ganrif. Roedd o’n eiconig ar y NES nôl yn 1987, ond bellach, wedi ei berfformio gan gerddorfa lawn fel yn The Legend of Zelda: Skyward Sword, mae o’n syfrdanol. Mae’r prif thema yn dechra ar 2.40, ond mae o’n werth gwrando ar yr holl gerddoriaeth o ddiwedd y gêm. Dwi’m yn meddwl bod ‘na unrhywbeth gwell na hyn yn yr holl gyfres.

Jest cyn rhyddhau’r gêm yna, wnaeth Nintendo ryddhau CD o nifer o ganeuon o’r gyfres wedi eu recordio gyda cherddorfa. Mae o werth ei glywed. A dyma fo. Dydw i’n ffeind?

Super Mario Bros.

Y diwn sydd, mae’n debyg, yn dod i feddyliau’r rhan fwyaf o bobol pan mae nhw’n meddwl am gerddoriaeth o gemau.

OK, doedd o ddim yn swnio cweit fel’na yn yr wythdegau. Ond mae cerddorfeydd yn briliant, felly caewch hi.

Ac mae ‘na lot mwy i Mario na jyst y dôn yna. Mae gan bron iawn i bob un gêm Mario ryw gân eiconig. Dyma rai o fy ffefrynnau.

Y gân ar ddiwedd Super Mario Bros. 2.

Diwedd Super Mario World.

Thema’r sleid o Super Mario 64.Cowbois Rhos Botwnnog, eat your heart out.

Y thema wirioneddol anhygoel o Super Mario Galaxy. Dwi’n meddwl mai dyma’r tro cynta i Nintendo ddefnyddio cerddorfa fyw i recordio thema mewn gêm. Gobeithio wnawn nhw barhau i wneud.

Ac, y… popeth o Super Mario Bros. 3, wedi ei berfformio gan y nytars yma.

Dwi wrth fy modd efo Japan.

Banjo-Kazooie

Dwi’n meddwl bod ‘na lot o bobol yn cofio’r gerddoriaeth o Banjo-Kazooie mwy na’r gêm ei hun. Dim bod ‘na unrhywbeth yn bod efo’r gêm o gwbwl. Mae o’n briliant. Ond c’mon. Hwn.

Hm. Mae’n dod yn gliriach ac yn gliriach o lle gafodd y Cowbois eu dylanwadu.

A dyma gerddorfa eto. Achos bod cerddorfa yn gwella bob dim. Hyd yn oed os ydi o’n gerddorfa sy’ dipyn bach yn rybish.

Rayman Legends

Gêm ddaeth i fy sylw’n ddiweddar. Wnes i fideo bach am Rayman Legends yn barod, ond be wnes i ddim sôn amdano fo oedd cerddoriaeth y gêm. Mae ‘na lefelau yn Rayman Legends sy’n ailweithio rhai o glasuron canu poblogaidd – Black Betty’, er enghraifft, neu ‘Eye Of The Tiger’. Mae’n rhaid i chi wneud eich ffordd rownd y lefel, yn amseru eich neidio a’ch rhedeg i gyd-fynd efo’r rhythmau’r caneuon. Mae o’n syniad athrylithgar, a dwi’n meddwl bod o’n bosib gwneud gêm cyfan allan o’r peth. Ond am y tro, rhaid i ni fyw efo’r llond llaw o lefelau yn y gêm. Ar ben bod yn uffernol o wreiddiol, mae nhw hefyd yn lot fawr iawn, iawn o hwyl i’w chwarae – ac i’w gwylio, dwi’n meddwl.

Gwnewch ffafr i’ch hun a gwyliwch rhein i gyd. Dyma pam dwi’n caru gemau gymaint.

The Elder Scrolls

Does ‘na ddim lot newydd am y gerddoriaeth yn gemau The Elder Scrolls. Mae o’n ddigon epig, ac yn ddigon dramatig, ac yn dod â dreigiau ac Orcs ac ogofeydd tywyll i’r meddwl yn syth, fel dyla fo wneud. Ond mae’r gemau ‘ma mor hir, ‘da chi’n byw efo’r gerddoriaeth am oriau maith. Ar ôl sesiwn hir efo un o gemau’r gyfres, mae o fel bod y gerddoriaeth wedi treiddio i mewn i chi rywsut. Ac mae o’n reit cŵl sut mae themâu’r gemau diweddaraf yn y gyfres – Morrowind, Oblivion a Skyrim – yn rhannu lot o’r un motifs ond yn llwyddo i swnio’n wahanol ar yr un pryd, fel mae’r fideo yma’n ei brofi:

Dyma fersiwn o thema Skyrim wedi ei chwarae ar ffidil gan ferch ddeniadol. Dros 33 miliwn hit. Un dydd, fydd fy adolygiad i o Enaid Coll yn cyrraedd yr uchelfannau yna. Gewch chi weld.

Portal

Pan ddechreuais i chwarae gemau, prin o’n i’n gallu dychmygu y byddai ‘na gemau un dydd yn cynnwys cerddoriaeth efo geiriau. Geiriau go-iawn ‘fyd, mewn geiriadur a phopeth.

Foneddigion a boneddigesau, y prif thema o Cannon Fodder ar yr Amiga:

OK, ella dydi hwnna ddim yn enghraifft briliant. Ond mae’r gân ar ddiwedd Portal, ‘Still Alive’, yn athrylithgar.

Dyma’r syniad: ‘da chi wedi chwarae drwy’r holl gêm – ac am gêm, lle mae ‘na robot gwallgo o’r enw GLaDOS yn trio’ch lladd chi ac yn gwneud hwyl ar eich pen chi o bell wrth i chi weithio’ch ffordd drwy ddwsinau o bosau 3D. Mae’r gêm yn gorffen wrth i chi ymladd GLaDOS ei hun, ei thorri hi’n ddarnau ac yn llosgi ei chorff. ‘Da chi’n dianc. Mae’r credits yn rowlio…

… a drostyn nhw, mae GLaDOS yn canu ryw fath o gân serch wedi ei anelu atoch chi. Ac mae o’n briliant.

Mae o wedi dod braidd yn eiconig yn ddiweddar. A pam lai, efo’r geiriau fel:

“I’m not even angry
I’m being so sincere right now
Even though you broke my heart and killed me
And tore me to pieces
And threw every piece into a fire”

Dyma gôr o blant yn canu’r gân i’w rhieni – sydd, mae’n debyg, erioed wedi bod mor conffiwsd. A dyma fersiwn wedi ei berfformio gan gyfansoddwr y gân, Jonathan Coulton. Efo theremin.

A wnaeth o ddim stopio fanna. Ddaeth Jonathan Coulton yn ôl i gyfansoddi’r gân ar ddiwedd Portal 2, ‘Want You Gone’, efo GLaDOS yn ei ganu eto. A gesiwch be? Mae o’n briliant. Ac yn dechrau efo’r geiriau:

“Well, here we are again
It’s always such a pleasure
Remember when you tried to kill me twice?”

Jiniys.

The Walking Dead

Dwi ‘di sôn o’r blaen am fy nghariad i at y gemau The Walking Dead gan Telltale. Mae’r ail gyfres o gemau yn cael ei ryddhau ar y funud, ac mae’r defnydd o gerddoriaeth yn dod yn fwy ac yn fwy cryf.

Fe orffenodd y gyfres gynta efo’r gân ‘Take Us Back’ gan Alela Diane, oedd yn ffordd effeithiol iawn o atalnodi un o’r profiadau mwya emosiynol erioed mewn gemau. A dydi hi ddim yn swnio’n rhy annhebyg i Cate Le Bon. Ers hynny, mae’r gyfres wedi defnyddio cerddoriaeth gan artistiaid sydd, os nad yn adnabyddus iawn, yn llawn haeddu bod ar y soundtrack – fel Anadel, Dan Sartain, ac Orphanette. Ond pennod ddiwetha’r gêm wnaeth y defnydd gora o gerddoriaeth, dwi’n meddwl. Mae’n gorffen efo Janel Drewis – sy’n un o animeiddwyr y gêm, neno’r Tad – yn canu fersiwn o hen gân draddodiadol sydd, mae’n ddigon posib, yn curo fersiwn Nirvana.

Mae o’n fwy effeithiol byth pan ‘da chi’n sylweddoli pa mor berthnasol ydi’r geiriau’r gân i stori Clementine yn y gêm. Mae o’n gyrru ias i lawr fy nghefn bob tro.

A dyna ni. Dim amser i sôn am Sonic The Hedgehog, Mega Man, Street Fighter, na amryw o gemau eraill. Wel… mae gen i amser. Dwi jyst ddim isio. Ella wna i gofnod tebyg i hwn rywdro eto. Ond am y tro, dwi am ymlacio efo dipyn bach o gerddoriaeth. Springsteen, ella, neu Arcade Fire. Neu’r Beatles, neu…

O, pwy dwi’n trio ‘i dwyllo? Soundtrack Ghostbusters 2 amdani.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s