Wythnos diwetha, fe wnaethon ni gyhoeddi’n canfed cofnod ar Fideo Wyth.
Glywsoch chi hwnna’n iawn. Erbyn hyn, ‘da ni wedi cyhoeddi cant o fideos a thrafodaethau yma. Mae’r wefan yma fel ail gartre i ni, bois. Pa amser gwell felly i edrych yn ôl a dewis y goreuon? A gan mai Fideo Wyth ydi’n henw ni, be am ddechra efo’r fideos?
Wyth ohonyn nhw.
‘Da chi’n gweld be wnaethon ni fanna?
Fydden ni’n mynd drwy wyth o’n herthyglau gora ar Ddydd Gwener. Ond am y tro, steddwch lawr. Gwnewch baned. Estynnwch baced o Chocolate Hob-Nobs o’r cwpwrdd. A gadewch i’r dihirod yma eich diddanu chi.
Y Fideo Cynta
Pa ffordd well o ddechra nag efo Daf yn martshio’n benderfynol ar draws caeau Tal-y-Bont i gyfeiliant cerddoriaeth o Zelda? Felly ddechreuodd bob dim, coeliwch neu beidio, nôl yn Rhagfyr 2013 (!!), ar Golwg 360. Mae ‘na gathod, gwartheg, a chomedi. Hwre.
Adolygiad Alien Isolation
Adolygiadau ydi ein bara menyn yma ar Fideo Wyth, ac mae ‘na ddigon o ddewis. Be am ein hadolygiad o’r gêm ddwyieithog Enaid Coll? Neu ein triniaeth anarferol o ddwys a sensitif o Never Alone? Neu Bloodborne, o bosib y gêm gora i ni drafod hyd yn hyn?
Ond mae un yn sefyll allan – Alien Isolation. Pam? Achos y montage.
Os ‘da chi newydd ofyn “Pa montage?”, ‘da chi ddim ‘di gwylio’r fideo.
Huwcyn Yn Chwarae: Grand Theft Auto V
Ein ymdrech cynta i wneud fideo comedi pur o safon, yn dilyn plentyn ysgol o’r enw Huwcyn yn gweithio drwy ei holl neuroses wrth chwarae Grand Theft Auto. I gyfeiliant Caryl Parry-Jones. Ac wrth adrodd barddoniaeth T.H. Parry-Williams.
Mae o’n gwneud lot mwy o sens pan ‘da chi’n ei wylio.
Sioe Gemau Cymru 2014
Y tro cynta i Daf ac Elidir gyfarfod, fe wnaethon nhw ffilmio adroddiad ugain munud o hyd o Sioe Gemau Cymru yng Nghaerdydd. Mae Fideo Wyth wedi ei adeiladu ar seiliau cryf, bobol.
Mega
OK, OK, dim ni wnaeth hwn. Ond mae o ar sianel Fideo Wyth. Ac mae o’n briliant. Rhaglen am gemau fideo ar S4C (dychmygwch y peth!) o’r 90au cynnar. Ac mae’r bennod yma yn cynnwys merch fach yn dweud y frawddeg “Sensoriaeth ydi’r ateb”. Dydi’r ddynol ryw ddim wedi gwella ar hwn.
Er Mwyn Byw
Ein cyfres fwya poblogaidd, yn dilyn anturiaethau Rhys Mwyn, Mari Lovgreen, Shane Williams a Meri Huws – i gyd yn byw mewn tŷ efo’i gilydd, ac wedi ei “ffilmio” yn gyfangwbl gan ddefnyddio The Sims 4. Gwyliwch y bennod gynta er mwyn cael blas ar y peth, ac ewch ymlaen at yr ail ar bob cyfri. Ond mae’r drydedd braidd yn sbeshal…
‘Da ni yn bwriadu cynhyrchu mwy o Er Mwyn Byw – ond mae o’n cymryd gymaint mwy o waith nag unrhywbeth arall. Awn ni’n sicr ati os oes ‘na ddigon o alw.
Y Lle
Oedd hi’n bleser gweithio efo Y Lle ar gyfres o eitemau, a ‘da ni’n edrych ymlaen at wneud eto. Mae ‘na playlist handi fan hyn, ond be am ddechra efo’r cynta yn y gyfres? Allwn ni ddim dweud bod yr ymchwil ar gyfer yr un yma wedi bod yn hwyl i gyd chwaith…
Effaith Mario Kart Ar Y Natur Ddynol
Wnaethon ni dipyn o fideos yn ystod ein twrnament Mario Kart yng Ngŵyl Golwg – ond be sy’n crynhoi’r teimlad o chwarae’r gêm (a gemau yn gyffredinol) na hwn – criw o hogia yn cael eu troi i mewn i ffyliaid llwyr tra’n chwarae. Llond y lle o ddyfyniadau gwerth chweil yn hwn.
“Terrible news.”
Mwy o’n goreuon ni ar Ddydd Gwener, fel ddywedais i. Ond ddylsa fod ‘na ddigon i’ch cadw chi’n brysur yn fan hyn am y tro…
– f8
[…] yn ôl, achos bod ni wedi cyhoeddi cant o bethau yma, fe wnaethon ni redeg drwy wyth o’n fideos gora. Achos ni ydi Fideo Wyth. Clyfar, […]