Adolygiad: Lego Batman 3 – Beyond Gotham

Rydym ni’n falch o gyflwyno ein cyfraniad gwadd cynta! Joe Hill sydd wedi bod yn cymryd golwg ar y gêm diweddara i gyfuno Batman a Lego mewn un pecyn hyfryd.

Os hoffech chi gyfrannu, cysylltwch: @fideowyth neu facebook.com/fideowyth ydi’r llefydd gora.

Awê, Joe.

lego batman 2

Fel y byddech yn ei ddisgwyl o’r enw, mae Lego Batman 3: Beyond Gotham yn gêm Lego ac hefyd yn gêm Batman. Yn union fel yr hen hysbyseb Ronseal.

Mae trwydded estynedig y gem yn cynnwys sawl cyfaill a gelyn. Llawer iawn. 150 ohonynt i fod yn union a tua hanner ffordd trwy’r prif stori mae Batman yn symud o’r neilltu efo Green Lantern yn troi’n seren y sioe. Lle mae’r tin ‘na o Ronseal ‘di mynd?

Wedi dweud hynny, mae’r gêm yn gwasanaethu’r selogion â sawl jôc fewnol. Mae ‘na gyfeiriad at stint Arnie fel Mr Freeze (‘Yoooah not sending me to da coolah!!’) ac mae Superman yn gofyn os yw e dal yn gyflymach na’r trenau yma ym Mhrydain. Stwff digon difyr.

Mae’r enw Beyond Gotham hefyd yn gliw mawr, efo’r antur yn gadael Gotham, ac yn wir y byd, yn eitha cyflym. Mae ‘na sawl blaned o’r bydysawd Lantern Corps yn lwyfan i’r helynt yn ail hanner y stori. Dyw’r lefelau yma ddim cystal a’r hanner cyntaf; maent yn fyrrach efo posau symlach ac yn creu y teimlad bod TT Games wedi rhuthro wrth eu cwblhau. Gellir gorffen 15 lefel y brif stori mewn llai na 10 awr, yn hawdd. Llai o amser na paentio’r shed.

Felly, gem digon difyr ond nid y profiad Batman diffiniol. Ond, fel wedes i yn yr agoriad, mae hyn hefyd yn gêm Lego.

Os ydych wedi chwarae unrhyw gêm Lego, fe fyddwch yn gwybod y strwythur erbyn hyn; cwblhewch y prif stori tra’n anwybyddu o leia hanner y posau, cyn ei ail-wneud tra’n defnyddio cymeriadau efo’r pwerau cywir i’w ddatrys. Mae ‘na lwyth o eitemau i’w gasglu (150 cymeriad, 160 minikit, 250 bricsen aur, ayyb) – hen ddigon o her i unrhywun efo mymryn o OCD, hyd yn oed nesa i unrhyw gem Ubisoft. Mae ‘na o leia 20 awr arall o adloniant i’w gael os oes gennych amynedd (neu OCD, wedyn ‘sdim dewis).

Ond, mae’r gêm yma wedi ei anelu at blant. Ac mae ambell agwedd o’r cynllun yn gamau gwag gan gofio’r gynulleidfa:

  1. Anwybyddwch hanner y gêm tra’n ei chwarae am y tro cyntaf. Digon dryslyd i rhywun bach sy methu deall pam na all Batman gyrraedd y darn sgleiniog yn y gornel.
  2. Balans anhawster y posau. Mae rhai yn syml iawn, ond wedyn mae ‘na eraill sy’n defnyddio mecanig sydd heb cael ei esbonio na’i ddefnyddio unrhywle arall yn y gêm (Penguin yn y lefel ‘Same Bat-time! Same Bat-channel!’). Mae ‘na hefyd sawl pwynt lle mae’n hawdd i beidio sylwi ar eitem bach sydd ei angen i symud ymlaen. Roedd hyn yn digon i gythruddo’r adolygwr yma yn ei dridegau…
  3. Gwaethaf oll yw’r penderfyniad i ddefnyddio mannau penodol am safio’r gem. Yn y lefelau hwyrach, dyw hyn ddim yn rhy wael gan eu fod mor fyr. Ond yn y lefelau cynnar, gellir chwarae am dros 30 munud o leia cyn cyrraedd y safbwynt nesa. Bydd angen amynedd…

lego batman

Felly, i gloi. Mae’r tin Ronseal wedi gael ei lorio erbyn hyn. Dyw’r gêm Batman i blant yma ddim yn wir yn gêm Batman, na chwaith wedi ei gynllunio’n addas i blant. Ond i’r ffans DC comics efo tueddiad gotta collect ‘em all, bydd hwn i’r dim iddynt.

– Joe Hill

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s