Rhywbeth dipyn yn wahanol heddiw. Mae Bloodborne newydd ei ryddhau ar y PS4, ar ôl eitha dipyn o ffanffêr. Yn ddilyniant i’r gemau Demon’s Souls a Dark Souls ac yn un o’r gemau prin sy’n ecsgliwsif i’r consol, mae o’n haeddu lot fawr iawn o sylw. Ond mae o hefyd yn gêm fawr, a do’n i ddim isio disgwyl 50+ awr cyn ei drafod. Felly dyma fy argraff gynta ar ôl ryw ddiwrnod a hanner efo’r gêm, wedi brwydro’n galed i guro dau fos… ar ôl ryw saith awr.
Os ‘da chi’n gwbwl anwybodus o’r gêm, cymerwch ddeg munud i wylio’r fideo yma gan yr hyfryd Matt Lees. Fyswn i ‘di gwneud fideo hefyd, ond wnaeth o ‘nghuro i. Damia fo.
Ac mae’r ail ran fan hyn. Mae nhw’n laff. Awê.
Felly. Does ‘na ddim lot o bwynt i fi fynd i fanylder am stori’r peth, achos hyd yn hyn does ‘na ddim lot ohono fo. Ond mae’r un peth yn wir am y gemau Souls hefyd. Atmosffer ydi’r peth yn hytrach na naratif, efo’r gêm yn gollwng cliwiau bach ynghylch y stori o bryd i’w gilydd. Hyd yn hyn, dwi’n gwybod ‘mod i’n ddieithryn sy’n cael ei ollwng yng nghanol dinas o’r enw Yharnam, yn ystod noson o’r flwyddyn lle nad oes unrhywun call yn mentro allan ar y strydoedd. Fwy neu lai fel nos Sadwrn ym Mangor.
Ac mae hwnna’n ddigon am y tro, achos mae’r gêm jyst yn diferu atmosffer, efo gelynion a bwystfilod hunllefus ym mhob twll a chornel. Mae Bloodborne yn lot mwy o gêm arswyd na’r gemau Souls, ac mae be dwi wedi ei ddarllen am weddill y gêm yn crybwyll gwaith H.P. Lovecraft yn aml. Sy’n gyffrous iawn, iawn. Os nad braidd yn ddychrynllyd hefyd.
Er enghraifft, mae ‘na frain anferth sy’n llusgo eu hunain ar hyd y llawr er mwyn eich lladd chi, gwaed yn diferu o’u cegau. Dweud y cyfan.
Ar yr un pryd, mae ‘na rywbeth am y gemau yma – a Bloodborne yn enwedig, ella – sy’n gwneud i chi fod isio byw ynddyn nhw. A fedra i ddim cweit esbonio pam. Y graffeg, ella? Neu’r ffaith bod gwneuthurwyr y gêm yn amlwg wedi rhoi cymaint o ymdrech a chariad i mewn i’r peth. Dwi’n siŵr y byddai Yharnam yn le reit neis i fod tysa hi ddim yn nos o hyd a bod pawb yn trio’ch lladd chi. Wrth i fi sgwennu hwn, alla i ddim stopio meddwl am neidio’n ôl i mewn i sesiwn. Dwi ddim ‘di teimlo felly am gêm antur fel’ma am sbel.
Mae ‘na fân wallau, serch hynny. Mae hi’n cymryd dipyn bach gormod i lwytho, yn enwedig ar ôl i chi farw – ond mae sôn bod hyn am gael ei drwsio’n fuan. Mae dechrau’r gêm hefyd braidd yn rhwystredig. Allwch chi ddim cryfhau eich cymeriad mewn unrhyw ffordd tan i chi ymladd y bos cynta… all gymryd sbel. ‘Da chi’n ddibynnol ar eich sgil, ar gofio patrymau’r gelynion, ac ar ailchwarae’r un profiad drosodd a throsodd. Ond wedi hynny, mae’r cymylau’n clirio, elfennau RPG y gêm yn cael eu cyflwyno, a’r holl brofiad yn agor.
Ond hyd yn oed yn ystod y darnau rhwystredig, dydi’r gêm ddim yn stopio bod yn hwyl. Achos yn wahanol i Dark Souls 2, ella, dydi o ddim yn annheg. ‘Da chi yn gwella – yn dysgu sut mae’r gêm yn gweithio, ac yn teimlo’ch hun yn ran ohono fo, fel eich bod chi’n dawnsio rownd y gelynion oedd yn gymaint o boen i ddechra. Chi sy’n gyfrifol am yr adegau pan mae popeth yn mynd o chwith, ond hefyd am y llwyddiannau mawr – am yr adegau ‘na pan ‘da chi’n curo bos oeddech chi’n ei ymladd am oria, a’i wylio’n ffrwydro mewn cwmwl mawr o waed. Ysblennydd.
Felly dyma’r sefyllfa. Mae gen i Dark Souls 2 ar ei hanner ar yr Xbox 360, a dwi’m yn gweld fy hun yn dychwelyd at hwnna am amser maith. Achos mae Bloodborne gymaint gwell. Hyd yn oed ar ôl diwrnod a hanner, mae hwnna’n glir. Os ‘da chi wedi bod ar y ffens am brynu PS4, dyma’r peth ddylsa newid eich meddwl chi. Mae hi mor braf hefyd cael gêm sy’n cyfiawnhau un o’r consols newydd, fysa jyst ddim yn bosib yn defnyddio hen dechnoleg.
Profiad hanfodol i unrhywun sy’n cysidro eu hunain yn ffan o gemau. Fyddwch chi’n clywed lot mwy am hwn ganddon ni.
– Elidir
[…] Do’n i ddim yn bwriadu gwneud adolygiad fideo o Bloodborne, ond fe ddaeth hi’n glir yn ddigon cyflym bod y gêm yn haeddu un. Os ‘da chi’n hollol newydd i’r gêm, gewch chi ddarllen fy argraffion cynta i fan hyn. […]