Fideo ddoe, fideo heddiw… ‘da ni ddim yn gall.
Do’n i ddim yn bwriadu gwneud adolygiad fideo o Bloodborne, ond fe ddaeth hi’n glir yn ddigon cyflym bod y gêm yn haeddu un. Os ‘da chi’n hollol newydd i’r gêm, gewch chi ddarllen fy argraffion cynta i fan hyn.
Ddim i sbwylio unrhywbeth, ond bosib iawn mai dyma’r gêm gora i ni drafod ar Fideo Wyth erioed. Gwyliwch y fideo i ddarganfod pam.
– Elidir