Anodd braidd yw trafod cynnwys gemau cyfrifiadurol yn Gymraeg gan fod yna gymaint o ddeunydd penodol iawn i’w nodi, a’r termau a’r geiriau yna’n bodoli yn barod yn Saesneg (i fi ta waeth, yn derbyn rhan fwyaf o’n ngwybodaeth trwy wefannau a chylchgronau Saesneg eu hiaith).
Er enghraifft, wrth adolygu os ydw i’n dweud neu sgwennu ‘floaty’ neu ‘deadzone’ mae’n hollol amlwg, i’r rheiny sy’n diddori, beth ydw i’n ceisio dweud – sut ydw i am farnu gemau a’u trafod yn y Gymraeg trwy ddefnyddio termau megis ‘arnofllyd’ a ‘ardalmarw’?
Oes angen cychwyn rhyw fath o dudalen gyfeirnod? Neu yw defnyddio geiriau Saesneg yn iawn, gan ymuno â thraddodiad parod yn y Gymraeg i fenthyg geiriau ym myd technoleg (e.e. teleffon, fideo, sgrin).
Mae digon o eiriau wedi eu bathu ac mewn defnydd cyffredinol (cyfrifiadur, trydar) ond mae’r eitemau yna’n rhan o fywydau pobl o ddydd i ddydd. Dyw sgwrs drylwyr am gemau cyfrifiadurol ddim yn digwydd yn aml iawn ar S4C na Radio Cymru, nac yn Golwg (gwae nhw) felly at ba ddiben bydd ceisio?
Cyfeirnod digidol?
Er hynny, cynigaf adeiladu cyfeirnod termau technegol a digidol Cymraeg, o ran hwyl a gan fod gofyn, a gobeithio bydd chwant gan rywun gynnig cymorth i greu’r peth. Bydd person yn medru lincio ato ar ben pob tudalen sydd am drin technoleg neu ddeunydd digidol o hyn ymlaen. Ac wedyn Bob yw eich ewythr (neu dad i mi). Be chi’n feddwl, ymgais gwerth chweil? Trydarwch ataf@dafprys.
Ond ta waeth, ymlaen i un o’r termau amlycaf ym myd gemau cyfrifiadurol, sef MMO. Mae MMO yn sefyll am ‘Massively Multiplayer Online’. Ydy hynny’n dal i olygu dim i chi? I egluro felly, y profiad o gymryd rhan cymeriad mewn byd digidol sydd yn llawn chwaraewyr ‘byw’ eraill, a’r rhan fwyaf o’r naratif yn llifo o’r cysyniad eich bod yn rhannu byd yn hytrach na phrofi’r byd ar ben eich hun.
Felly gêm Aml-gymeriad Anferthol Arlein? Triple-A! Mae’r sêr yn siapio o’m blaen. Oni bai fod ‘triple-A’ yn golygu dim… gall hwn gymryd sbel.
Mytholeg South Park…
Mae’n siŵr fod unrhyw un sydd wedi gwglo (neu bingio i bobl od) y gair mabinogi wedi gweld, erbyn hyn, fod gwefan mabinogi.nexon ar dop y tudalen, yn uwch na mabinogi.net ac yn uwch na llyfr Sioned Davies ar amazon (how very dare they).
Gêm MMO yw mabinogi.nexon, ond does dim byd llawer sy’n cysylltu’r ddau beth ond am yr enw. Sbin, yrm… diddorol iawn sydd ganddynt ar y byd unigryw hwn. Mewn gair, does ‘dim’ sydd yn yr MMO yma yn agos at unrhyw beth sy’n digwydd yn straeon y Mabinogi.
Mae’n llawer agosach at straeon Celtaidd y Gwyddel os unrhyw beth, ond dim ond gan eu bod yn benthyg enw ambell gymeriad, felly pam fod gan yr MMO yma yr enw ‘Mabinogi’? Mewn gair arall, ‘dimclem’.
Mae steil y gwaith celf yn amlwg yn un sy’n hanu o dde-ddwyrain Asia gyda dwylo brwnt anime drwyddi draw ac wedi bach o dyrchu, hawdd gweld taw cwmni o Dde Corea yw Nexon ac, gan drio bod mor deg a phosib gyda nhw, efallai nad oes llawer o ymchwil yma… Ond mae’n tanlinellu pwynt digon dilys, pam nad oes gêm lwyddiannus wedi’i ryddhau sydd wedi’i seilio ar fyd y Mabinogi?

Dyma fideo hyrwyddo The Witcher 3: Wild Hunt (Rhybudd: mae’r fideo yn cynnwys deunydd sydd yn anaddas i blant.)
Mae cyfres o gemau The Witcher, wedi ei seilio ar lyfrau ffantasi Andrzej Sapkowski (Wiedźmin yn y Bwyleg wreiddiol), wedi bod yn ddychrynllyd o lwyddiannus, gyda byd ffantasi cyflawn wedi ei seilio ar syniadau pwyllog a thrwm yn cael ei wreiddio mewn gêm gyfrifiadur: yr un peth efo Lord of the Rings; The Walking Dead; hyd yn oed South Park erbyn hyn!
Mae’r rhestr o enghreifftiau bydoedd ffuglen yn cael eu hail-greu’n llwyddiannus ar lwyfan gêm gyfrifiadurol yn hirfaith, ac mae’n hen bryd gweld yr un peth yn digwydd efo’r Mabinogi.
Does dim rhaid cynnig profiad rhy wahanol i’r RPG (Role Playing Game) clasurol, gan mai dod am y stori â’r cymeriadau mae taeogion o’r genre. Beth well na cheisio atal Seithennyn rhag meddwi, ac osgoi’r llif wedi methu? Neu hela’r twrch trwyth am y crib yn ei flew, gwych! Mae’r olygfa wedi ei osod, a’r her ar y bwrdd. Ond cofiwch, fi nath sgwennu am y peth cynta, felly dibs. Beth yw dibs yn Gymraeg?
Dafprys