Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mehefin 13, 2014.
Ers ychydig o oriau bellach, mae drysau’r sioe E3 yn Los Angeles wedi cau am flwyddyn arall. Fel arfer, dwi’n treulio’r sioe wedi fy ngludo i sgrîn fy nghyfrifiadur yn gwylio’r holl gyflwyniadau gan y cwmniau mawr a’r holl drafod ar wefannau fel IGN. Flwyddyn yma, ro’n i mewn cae yn yr Iseldiroedd yn gwylio’r Rolling Stones ac yn trio cadw’n sych ac yn saff yng nghanol y stormydd mwya nyts dwi erioed wedi gweld. Felly dwi ddim yn hollol ymwybodol o bob un dim ddigwyddodd yn y sioe, ac yn sicr wna i ddim trio trafod popeth ddigwyddodd, achos fyswn i yma tan yr E3 nesa tyswn i’n gwneud hynny. Ond wna i roi rundown bach o’r pethau wnaeth ddenu fy sylw.
A be am ddechra wrth ailymweld â’r blogiad wnes i wythnos diwetha, lle wnes i ragweld be allwn ni weld yn ystod y sioe? Be ges i’n iawn? Be ges i ddim?
O diar.
Fallout 4; Half-Life 3; Game Of Thrones gan Telltale; Estyniad i Grand Theft Auto 5; “Project Morpheus”; Rhywbeth gan Rare; “System Ansawdd Bywyd” Nintendo
Dim byd. DIM. BYD. dfshndgfsoinjdgfaplidgfamnjdgfasklnabnfkjabrfawuihyhdfs;df;dfsnfasFLASNFS
The Order: 1886
Welson ni dipyn bach mwy o hwn… ond oedd ‘na gymaint o bethau mwy cŵl wedi eu datgelu ar y PS4. Meh.
Xenoblade Chronicles X
Neu jest “X“, fel oedd pawb yn galw’r gêm cyn wythnos yma. Eto, gawson ni dipyn bach mwy o fideo a manylion am hwn, ond gafodd ‘na lot o bethau gwell eu datgelu ar y Wii U. Fel…
The Legend Of Zelda
‘Na welliant.
Felly. Gêm Zelda. Ar y Wii U. Wedi ei ddylanwadu, o bosib, gan gemau fel Skyrim a Dark Souls, yn rhoi rhyddid llwyr i chi grwydro’r byd fel y mynnech chi, ac yn edrych fel’na?
Kerching.
Super Smash Bros.
Felly gawson ni gadarnhâd o’r diwedd bod Nintendo yn cynhyrchu ffigyrau bach ciwt i ryngweithio efo’u gemau, gan gynnwys Super Smash Bros. (a Mario Kart 8, a llwyth o betha eraill). “Amiibo” mae nhw’n eu galw nhw. A dyma nhw fan hyn.
Iawn, de? Ella wnawn nhw ddim rhoi’r byd ar dân, ond mae nhw fwy neu lai fel Pokemon ‘da chi’n eu casglu yn y byd go-iawn. Ac mae rwbath felly yn mynd i wneud lot fawr iawn o bres i Nintendo.
Ac am y gêm Super Smash Bros. ei hun… wel, wnaeth Nintendo ddatgelu bod Palutena o’r gemau Kid Icarus, eich cymeriad Mii, a Pac-Man am fod yn gymeriadau ynddo fo. Blincin’ Pac-Man! Mae o’n edrych yn well ac yn well bob tro dwi’n ei weld o, a fedra i ddim disgwyl i chwarae hwn Dolig yma.
Felly be am y stwff wnes i ddim rhagweld? Wel…
Mario Maker
Gêm y sioe i fi, o bosib. Fysa chi’n licio dylunio eich lefelau Super Mario Bros. cwbwl nyts eich hun, eu rhannu nhw dros y we, chwarae lefelau cwbwl nyts pawb arall, a gwylio fideos Youtube o bobol yn methu’n llwyr i chwarae Super Mario Bros., drosodd a throsodd a throsodd? Wrth gwrs eich bod chi. Ddylsa hwn ‘di digwydd flynyddoedd yn ôl. Dyma’r math o beth o’n i’n ei wneud efo papur a phensel yn hogyn bach, a rŵan ‘mod i’n 29 oed, fyswn i’m yn gallu bod yn hapusach bod hwn yn dod allan.
“Star Fox”
Gawson ni bugger-all o wybodaeth am hwn. Jest y fideo yma. Ond mae o’n bodoli. Ac mae hwnna’n beth da.
Splatoon
Rhaid i fi fod yn onest: dwi ‘di diflasu’n llwyr efo gemau saethu. Yr un diwetha i fi chwarae oedd Killzone: Shadow Fall ar y PS4, ac er bod ‘na ddim byd mawr yn bod efo fo, ro’n i’n teimlo fel ‘y mod i wedi profi’r un peth droeon o’r blaen. Ond efo Splatoon, mae Nintendo yn gobeithio gwneud i gemau saethu be wnaeth Mario Kart i gemau rasio. Swnio’n addawol.
Yoshi’s Woolly World, Kirby And The Rainbow Curse, Mario Vs. Donkey Kong, Captain Toad: Treasure Tracker
Ac yn ola gan Nintendo, wnaethon nhw gyhoeddi llwyth o gemau platfform ciwt er mwyn llenwi’r amserlen chydig bach. O ran Yoshi’s Woolly World a Kirby And The Rainbow Curse, mae nhw’n edrych yn brydferth iawn, ond dwi’n annhebyg o’u chwarae nhw os nad ydyn nhw’n cynnig dipyn o sialens. Sy ddim am ddigwydd, dwi’m yn meddwl. Ella ro i go i Mario Vs. Donkey Kong, achos mod i ‘di mwynhau’r gemau tebyg ar y GBA, DS, ac yn y blaen.
Yr un sy’n fy nghyffroi i fwya ydi Captain Toad: Treasure Tracker, sy’n spin-off o Super Mario 3D World. Os na wnaethoch chi chwarae’r gêm yna, ella bod hi’n anodd deall pam dwi’n edrych ymlaen at hwn… ond roedd y lefelau “Captain Toad” yn uchafbwyntiau mewn gêm oedd yn llawn darnau ffantastic. Wneith o ddim shifftio Wii Us fel Zelda neu Mario Kart, ond lenwith o dwll.
No Man’s Sky
Un o’r pethau mwya cyffrous yn yr holl sioe. Mae No Man’s Sky yn edrych fel gwyrth o gêm, i fod yn blwmp ac yn blaen. Dychmygwch fersiwn sci-fi o Minecraft, lle ‘da chi’n rhannu’r un bydysawd efo pawb arall, a ‘da chi hanner ffordd yna. Neu jest gwyliwch hwn:
Mae’r gêm yn eich dympio chi ar blaned – planed newydd, wedi ei greu ar hap gan y cyfrifiadur, does neb wedi ei weld o’r blaen, ac yn rhoi’r rhyddid llwyr i chi grwydro’r bydysawd o fanna. Allwch chi ddarganfod anifeiliaid newydd, planhigion newydd, planedau newydd, eu henwi nhw… a ‘da ni ddim yn gwbod lot mwy am y gêm na hynny. Ond mae hynny’n ddigon am rŵan, dydi? O. Ac mae’r holl beth wedi ei ddatblygu gan bedwar o bobol. Pedwar. Iesu mawr.
Mae’n fy atgoffa i o syniad newydd sydd wedi taro’r byd gemau bwrdd yn ddiweddar, fel y gwelwn ni yn Risk Legacy, a’r gemau SeaFall a Pandemic Legacy, eto i’w cyhoeddi: gemau sy’n newid wrth i chi chwarae nhw, ac yn gadael i chi rhoi eich stamp eich hun ar bethau. Fe all hwn fod yn fawr iawn, iawn.
Rise Of The Tomb Raider
O’n i’n ffan mawr o’r gêm Tomb Raider diwetha, a sgen i ddim rheswm i amau y bydd hwn jest mor dda. Dwi ddim am lincio i’r trailer, achos dydi o ddim yn dangos unrhywbeth o’r gêm ei hun, a dwi’n casau trailers fel’na. Ond eto – mae o’n bodoli. Cŵl.
Mass Effect 4
Eto, gawson ni ddim lot o fanylion am hwn, achos fydd o ddim ar y silffoedd am sbel – mae hwnna’n dipyn o thema yn yr E3 yma, deud y gwir. Ond fel rywun sy’n chwarae Mass Effect 2 ar y funud ac wrth fy modd efo’r peth…
(Ia, dwi’n gwbod bod Mass Effect 2 yn bedair oed. Caewch chi.)
… dwi’n edrych mlaen.
Bloodborne
Rŵan ta. Mae hwn yn ddiddorol. Gan From Software, creawdwyr y gemau Demon’s Souls a Dark Souls. Dim ond cwpwl o fisoedd yn ôl gafodd Dark Souls 2 ei ryddhau, ac er bod gen i gopi, dwi ddim wedi dechra ei chwarae o eto. Yn ôl pob sôn, dydi o ddim cweit mor dda ag oedd pawb yn ei obeithio. Ac mae Bloodborne yn edrych yn… wel, yn stiwpid o debyg, i fod yn onest.
Dyma drailer sy’n profi fy mhwynt, efo’r teitl dros dro “Project Beast”.
Waeth iddyn nhw alw’r peth yn Dark Souls 3 ddim.
Y cwestiwn ydi, am faint mae From Software wedi bod yn gweithio ar hwn? Oedd Dark Souls 2 jest yn ryw fath o test run ar gyfer Bloodborne? Amser a ddengys. Ond dwi’n eitha sicr ‘mod i’n mynd i chwarae hwn yn dwll, beth bynnag yr ateb.
Mortal Kombat X
Dydi o ddim yn beth trendi iawn i gyfadda, ond dwi’n ffan mawr o’r gyfres Mortal Kombat. Roedd yr un diwetha’n grêt, a dwi’n siŵr fydd hwn yn lot o hwyl hefyd. Fydd o ddim yn gwneud unrhywbeth hollol newydd, ond dim otsh. Dwi’m isio lot mwy na’r cyfle i saethu harpoon drwy benglog rywun, diolch yn fawr.
Mae ‘na rwbath yn deud wrtha i y bysa Huwcyn yn mwynhau’r gêm yma.
Grim Fandango
Ddim yn hir ar ôl i fi gyfadda ‘mod i erioed ‘di chwarae Grim Fandango, ac mae Sony’n cyhoeddi bod fersiwn newydd o’r gêm ar y ffordd i’r PS4 a’r PS Vita. Dwi’n mynd i smalio y bysa hwnna ddim ‘di digwydd oni bai am y blog.
Roedd ‘na bob math o gemau eraill yn y sioe, wrth gwrs. Ges i hefyd fy nghynhyrfu gan Devil’s Third ar y Wii U, Code Name S.T.E.A.M. ar y 3DS, Doom, Far Cry 4, The Golf Club…
…ydw, dwi’n licio gemau golff. Ond yn casau golff ei hun. Dwi’n enigma.
… Uncharted 4, Middle-Earth: Shadow Of Mordor, a bob math o bethau eraill. Dwi’n siŵr bod ‘na stwff ecsgliwsif ‘di gyhoeddi i’r Xbox One hefyd, ond ‘sgen i ddim un. Felly ‘da chi allan o lwc os oeddech chi’n disgwyl i fi drafod hwnna. Sori.
Felly, be o’n i’n feddwl o’r sioe yn gyffredinol? Wel, fel ‘da chi’n gwbod erbyn hyn, mae ‘na lond trol o bethau ar y ffordd. Ond dydi lot fawr iawn o’r pethau ‘ma ddim am gyrraedd tan flwyddyn nesa. Dwi’n disgwyl i’r E3 nesa fod yn llawn manylion am rai o’r gemau ‘ma fyd. Sy’n siom. Ella felly na fydd 2014 yn glasur o flwyddyn i’r diwydiant, ond mae 2015 yn edrych lot gwell.
Mae hwn yn arbennig o wir yn achos Nintendo – ro’n i yn disgwyl mwy o gemau mawr allan tua’r Dolig. Sori bois, ond dydi Super Smash Bros. a llwyth o gemau platfform 2D ddim am droi pethau rownd. Ond o leia bod ‘na gemau’n dod allan ffwl-stop.
A gafodd ‘na ddim lot ei gyhoeddi ar y 3DS a’r Vita, sydd dipyn bach yn annifyr. Mae’r systemau cludadwy angen dipyn o gariad hefyd.
Ond, ar y cyfan, dwi ‘di fy nghyffroi. Fydd Zelda, Mario Maker, a No Man’s Sky yn chyffing briliant. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.
Mae’r gorffennol yn cŵl ‘fyd. Dwi newydd brynu Sega Dreamcast. Mynd i chwara hwnna rŵan.
Da ‘di gemau.