@dafprys yn sgwennu pwt heddiw am y gem Dragon’s Crown
Yn sbesiffig, ar y PS Vita, ac yn fwy sbesiffig byth, y bronnau enfawr sydd gan pob merch sy’n rhan o’r gem (hyd yn oed y cymeriadau yn y cefndir). Mi oeddwn yn chwarae’r gem hon ar y ffordd nol o Sbaen yn ddiweddar, yn sdyc rhwng dwy ferch ar yr awyren ac o’n in teimlo fel pyrfyn llwyr. Efo fy nghymeriad, yr Amazonian (tebyg i’r Arnie a welsant yn y fflm Hercules) yn gwisgo bikini i frwydro bwganod y byd, does nunlle i guddio gan y rhagfarn.

So nes i gorfod troi y peth off achos mi oedd y wethred jysd yn rhy wawdiog, wir. O’n i mwy neu lai yn dweud: ‘Get an eye-full of this, love, and they’re not even real! As in, you know, not silicone but digital. Peanut?’
Fi erioed wedi teimlo siom cyn hynny mod i’n chwarae gem cyfrifiadurol, a dwi ddim wedi chwarae’r gem ers hynny, achos, wel achos edychwch ar y llun uwch. Ma fe’n hollol hurt. A fi methu credu fod fi wed meddwl, am un eiliad, fod y gem yma’n iawn i chwarae. Ond prin anaml ydw i’n cael y cyfle o weld cyd-destun fy ngweithred i o chwarae gem mewn termau cymdeithasol. Hen bryd i fi gychwyn dwi’n credu.
Wedi dweud hynny mi oedd un o’r merched yn darllen un o’r dyrtibwcs newydd ‘na, (rhyw shade o rhywbeth) so, ar ol rhoi’r Vita gadw, ges i blydi gwd perfyn llenyddol tra’n esgus edych allan o’r ffenest. Dyw’r bwbs yn y llyfrau ‘na ddm yn wir chwaith.
Dafprys