Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mai 28, 2014.
Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dod eto. Mae E3 bron yma.
I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwbod, E3 (yr Electronic Entertainment Expo) ydi’r sioe fawr lle mae’r rhan fwya o’r gemau sy’n mynd i’n diddanu ni dros y flwyddyn nesa a thu hwnt yn cael eu datgelu am y tro cynta. Fydd y cynnwrf i gyd yn dechrau yn Los Angeles ar y 10fed o Fehefin. Mae ‘na chydig o amser i fynd eto felly, ond dwi’n mynd i ŵyl gerddoriaeth yn yr Iseldiroedd mewn chydig dros wythnos, felly ga i ddim cyfle i ddweud fy nweud yn union cyn y sioe.
Wrth gwrs, does neb cweit yn siŵr pa gemau fydd yn cael eu cyhoeddi, felly ella wir bod hwn yn enghraifft berffaith o fi yn wastio fy amser fy hun a’ch amser chithau hefyd. Ond fe alla i wisgo fy het Sherlock Holmes a gwneud chydig o amcanion synhwyrol…
Jyst peidiwch a ‘meio i os dydi’r un o’r gema ‘ma’n ymddangos.
Fallout 4
Mae hi’n bedair mlynedd ar ôl i Fallout: New Vegas lanio ar y silffoedd, a byth ers hynny ‘da ni wedi bod yn awchu am gêm newydd yn y gyfres. Yn y cyfamser, mae Bethesda Softworks wedi rhoi Skyrim i ni, ac yn lle helpu pethau, wnaeth hwnna bethau’n waeth. Dwi ddim wedi gallu stopio dychmygu gêm Fallout yn defnyddio technoleg newydd y PS4 a’r Xbox One, efo Bethesda yn adeiladu ar sylfeini Skyrim ac yn gwella eu camgymeriadau, yn cymryd eu cymysgedd perffaith nhw o’r RPG a’r gêm sandbox i’r lefel nesa.
I wneud pethau’n fwy dryslyd, mae ‘na bob math o honiadau wedi eu gwneud am y gêm yn ddiweddar – rhai pobol yn dweud ei fod yn bodoli, eraill yn eu profi nhw’n anghywir, ac yn y blaen. Yn ôl y sibrydion mwya dibynadwy, mae’r gêm wedi ei leoli yn Boston, a rhai o gymeriadau Fallout 3 yn dychwelyd…
Mae’n rhaid bod hwn ar ei ffordd. Rywdro.
E3 fyddai’r adeg perffaith i stopio’r sibrydion unwaith ac am byth.
Half-Life 3
Sôn am ddisgwyl. Bois bach. ‘Da ni ddim wedi cael gêm yn y gyfres Half-Life ers 2007.
Dwy. Fil. A. Saith.
A ‘da ni bellach yn eitha sicr bod y gêm yn cael ei ddatblygu, diolch i gyn-weithwyr o’r cwmni Valve sydd wedi gweld gwaith celf yn gysylltiedig â’r gêm. Gyda Valve yn cyhoeddi’r peiriannau Steam flwyddyn nesa, a sylwebwyr o fewn y diwydiant ymhell o fod yn siŵr a fydd y gambl yna’n gweithio, mae nhw angen rywbeth sy’n sicr o fod yn hit. Does ‘na ddim byd sy’n fwy tebyg o gynhyrfu pobol na Half-Life 3.
Game Of Thrones gan Telltale
Dwi ‘di sôn am fy hoffter i o gyfres gemau Telltale yn seiliedig ar The Walking Dead. Dwi wedi darllen yr holl gomics The Walking Dead bellach, ac er eu bod nhw’n eitha da, fedra i ddeud yn ddi-flewyn-ar-dafod bod y gemau lot, lot gwell. Mae nhw’n gampweithiau.
Ac felly fedrwch chi ddychmygu fy nghynnwrf i – dyn sy’n berchen ar un crys T Arya Stark a dau grys Daenerys Targaryen – pan wnaeth Telltale gyhoeddi sbel yn ôl eu bod nhw’n gweithio ar gemau tebyg yn seiliedig ar Game Of Thrones. Does ‘na ddim manylion eraill ar gael ar y funud, oni bai am y ffaith y bydd rhai o gast y gyfres deledu yn ymddangos. Yn bersonol, dwi’n gobeithio bydd y gêm yn taflu goleuni ar anturiaethau’r Brotherhood Without Banners yn dilyn digwyddiadau’r “Briodas Goch”. Ond mae ‘na fyd llawn cymeriadau briliant i chwarae efo fo, felly pwy a wyr lle fydd y gêm yn mynd â ni. Dwi jyst yn gobeithio gawn ni fwy o fanylion yn fuan. Os ddim, dwi’n beryg o ffrwydro.
Estyniad i Grand Theft Auto 5
Fel ddywedais i wythnos diwetha, doedd Grand Theft Auto 5 ddim yn berffaith. Er bod yr ysgrifennu chydig bach yn pants ar adegau, ac yn chwerthinllyd o wael ar adegau eraill, ellith neb wadu bod y gêm yn lot fawr iawn o hwyl, ac yn fuddugoliaeth dechnegol syfrdanol. ‘Da ni’n gwybod bod ‘na estyniad “sylweddol” i’r gêm ar y ffordd, ond yn gwybod dim byd am ei gynnwys. Mae o i fod i ddod allan flwyddyn yma, ‘fyd. Fydda i’n synnu os ‘da ni ddim yn cael golwg dda iawn ar hwn yn ystod sioe E3. Ai hwn fydd y cynnwys mawr ola i gael ei ryddhau ar y genhedlaeth ddiwetha o gonsols, tybed?
“Project Morpheus”
Y mwya dwi’n glywed am y systemau Virtual Reality sydd ar eu ffordd, y mwya dwi’n cyffroi. Dyma, dwi’n meddwl, fydd y naid fawr nesa – yr unig beth yn y byd modern i gymharu efo’r teimlad ‘na o symud o’r Super Nintendo yn syth at fyd 3D Super Mario 64. Er mai’r Oculus Rift sydd wedi cael y mwya o sylw yn yr wasg, mae ‘na lot o bobol – gan gynnwys Notch, creawdwr Minecraft– wedi eu siomi’n fawr bod Facebook wedi prynu’r system. Ychwanegwch at hynny’r ffaith ‘mod i’n berchen ar PS4 yn barod, a dwi’n meddwl mai “Project Morpheus” gan Sony ga i yn y diwedd.
Eto, ‘da ni’n gwybod dim byd am y system. Dim pris, dim dyddiad rhyddhau, dim manylion am y gemau… ond mae’n bownd o achosi stŵr pan mae’r wybodaeth yna’n dod yn gyhoeddus. Dwi’n edrych ymlaen at y chwyldro.
The Order: 1886
O’r holl gemau sydd i fod i ddod allan ar y PS4, dim ond Batman: Arkham Knight, Mirror’s Edge 2, Diablo 3 a The Last Of Us dwi’n edrych ymlaen atyn nhw – ac mae dau o rheini wedi ymddangos ar systemau eraill yn barod. Dwi’n siŵr fydd ‘na lwythi a llwythi o gemau newydd sbon ar y PS4 yn cael eu cyhoeddi yn E3, ond o’r rhai ‘da ni’n gwybod amdanyn nhw’n barod, ella mai The Order: 1886 ydi’r mwya diddorol, yn dilyn brwydr rhwng y ddynol ryw a hil o hanner-dynion / hanner-bwystfilod yn Llundain Oes Fictoria.
OK, dydi’r argraffiadau cynta o’r gêm ddim wedi bod yn briliant, ond mae o hefyd wedi ei oedi’n sylweddol yn ddiweddar – mae’n debyg er mwyn cael gwared o’r holl broblemau ‘na. Fel dwi’n deud, fydd ‘na bethau gwell yn cael eu datgelu ar y PS4, dwi’n siŵr. Ond dwi’m yn gwbod am y pethau yna. Dwi’n gwbod am hwn. Ac mae o’n edrych yn olreit.
Rhywbeth gan Rare
Sgen i ddim lot o ddiddordeb be sy’n digwydd ym myd Microsoft a’r Xbox One bellach – achos dwi ddim yn berchen ar un. Dwi’n dychmygu y bydd lot o’u gemau mawr hefyd ar gael ar systemau eraill, oni bai eu bod nhw’n cyhoeddi gêm Gears Of War newydd. A dwi’n siŵr fydd hwnna’n debyg iawn i’r hen gemau Gears Of War, felly dydi o’m otsh.
Ond eu harf cudd ydi Rare – y cwmni wnaeth gymaint o ddaioni i Nintendo yn y 90au ac ar drothwy’r ganrif, cyn gwerthu eu heneidiau i Bill Gates. Ac ers hynny… oni bai am y gemau Viva Pinata, a’r fersiwn HD o Conker’s Bad Fur Day, mae’r stwff mae nhw wedi bod yn ei gynhyrchu wedi fflopio. Does gen i ddim syniad oes ganddyn nhw rwbath da ar y gweill, ond os felly, fysa hwnna’n beth da iawn i Microsoft.
“System Ansawdd Bywyd” Nintendo
Does dim rhaid i fi ddweud bod y Wii U ddim yn rhoi’r byd ar dân ar y funud – er bod ‘na fwy o gemau da ar hwnna na’r PS4 a’r Xbox One efo’i gilydd, yn fy marn i. Dydi Nintendo ddim wedi llwyddo i ddal gafael ar y gynulleidfa o’r henoed a phobol sy ddim yn licio gemau aeth allan i brynu’r Wii yn eu miliynau. Yr ateb? System newydd, wedi ei greu i “wella’ch ansawdd bywyd” – felly yn llawn fersiynau diddiwedd o Wii Fit a Wii Sports, debyg. Ella y bydd o’n llwyddiannus iawn, ac yn llenwi coffrau Nintendo efo aur. Sy’n beth da. Ond dwi’n annhebyg o brynu un.
Eto, wnes i ddeud hwnna am yr iPod.
Dim syniad gawn ni fwy o wybodaeth am hwn yn ystod E3, ond mae o ar y ffordd, er gwell neu waeth…
X
Gêm arall ‘da ni’n ddim yn gwybod lot amdano fo. Mae popeth ‘da ni’n ei wbod, deud y gwir, wedi ei gynnwys yn y fideo yma, gafodd ei ryddhau yn ystod yr E3 diwetha:
Mae’r Wii U angen gêm chydig bach mwy hardcore ar y funud, ac mae hwn i’w weld yn ffitio’r bil yn neis iawn, diolch yn fawr. Gawn ni fwy o wybodaeth yn E3 2014? Ta fydd X yn diflannu i ebargofiant? Cwestiynau, cwestiynau, cwestiynau.
The Legend Of Zelda ar y Wii U
Hefyd yn yr E3 diwetha, wnaeth Nintendo addo y bydden nhw’n dangos gêm Zelda newydd ar y Wii U flwyddyn yma.
C’mon, Nintendo. Dwi’n eich caru chi… a dwi’n gwbod bod chi ‘di gwneud lot o betha stiwpid dros y blynyddoedd. Ond ‘da chi erioed ‘di dweud celwydd o’r blaen. ‘Da chi’m isio dechra rŵan, na ‘da chi?
Super Smash Bros.
Felly mae ‘na ddau fersiwn o Super Smash Bros. allan flwyddyn yma: un ar y 3DS yn yr haf, a’r llall ar y Wii U tua’r Dolig. Mae’r fersiwn 3DS yn siŵr o werthu fel teisennau poeth, ond o’n i yn poeni y byddai’r fersiwn Wii U – oedd yn edrych yn eitha chyffing tebyg – yn dioddef fel canlyniad.
Bellach, mae
‘na sibrydion bod y fersiwn Wii U yn mynd i fod yn wahanol iawn: yn defnyddio ffigyrau o Mario, Link, Pikachu ac ati, a la Skylanders, fydd yn rhyngweithio efo’r gêm mewn ffyrdd gwahanol. Mae Skylanders yn wirion o boblogaidd – achos, gesiwch be, mae plant yn hoff o gasglu teganau – er bod y gemau eu hunain ddim yn briliant. Ar y llaw arall, mae Super Smash Bros. ymhlith cyfresi mwya poblogaidd Nintendo fel mae hi, ac efo’r elfen yna o gasglu wedi ei ychwanegu… dydi o ddim yn amhosib bod hwn yn gallu achub y Wii U ar ben ei hun.
Dydi o ddim yn glir bellach fydd rhaid cael y ffigyrau ‘ma i chwarae, ta fydden nhw jyst yn opsiwn ychwanegol. Ac fel dyn sy’n agosau’n frawychus o gyflym at fod yn 30 oed, dydi’r syniad o gasglu teganau ddim yn fy llenwi i efo cynnwrf, mae’n rhaid i fi ddeud. Ond mi wna i os oes rhaid i fi.
Os oes rhaid i fi.
A dyna ni. Hyd yn oed os ydw i’n iawn am bob dim, fydd ‘na lwyth o stwff arall does neb ‘di gallu ei broffwydo. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gwbod be sy’ o’n blaena ni. A gewch chi ddarllen fy sylwadau i am bob dim ar ôl y sioe.
Wna i fy ngora glas i wneud adolygiad fideo o Mario Kart 8 cyn i fi fynd i ffwrdd ddiwedd wythnos nesa. Felly gewch chi edrych mlaen at hwnna i sioncio’ch bywydau bach llwm i fyny. Hwyl am y tro.