Syrcas Hedegog Monty Peithon

Ia, ia, dwi’n gwbod – dydi hwn ddim am gemau unwaith eto. Sori. Ond does gen i ddim byd gwreiddiol na diddorol i’w ddeud am Mass Effect 2, Dragon Quest 9 a Pikmin 3, y gemau dwi’n chwarae ar y funud. Ac yn y dyddiau rhyfedd hyn cyn Comic-Con, mae o fel bod yr holl gîc-fyd yn cysgu beth bynnag.

Oni bai am un rhan bwysig iawn o’r gîc-fyd, thgwrs. Rhan sydd mor anatod o’r gîc-fyd â Star Trek, Dungeons & Dragons, neu dderbyn wedgie bob amser cinio yn yr ysgol.

Dwi’n sôn, wrth gwrs, am sioeau ola criw Monty Python. Fel ‘da chi’n gwybod, dwi’n siŵr, roedd ‘na gyfres o gyngherddau wedi eu cynnal yn yr O2 yn Llundain, gan orffen efo un sioe fawreddog gafodd ei ddarlledu’n fyw i 2,000 o sinemâu ar draws y byd, ac ar y sianel Gold ym Mhrydain (efo’r holl ddarnau budur – a roedd ‘na lot o ddarnau budur – wedi eu sensro cyn naw, yn ôl y sôn). Fues i’n ddigon ffodus i fachu ticed i weld y sioe yn fyw o sinema Cineworld yng Nghyffordd Llandudno.

Be? Adolygiad? Go on ta.

I ddechrau, chydig bach am fy hanes i efo Python. Roedd o’n un o driawd o raglenni comedi – efo Fawlty Towers a The Smell Of Reeves And Mortimer – wnes i wylio yn y nawdegau cynnar, a finnau’n lot rhy ifanc, wnaeth siapio nid yn unig fy synnwyr digrifwch, ond fy mhersonoliaeth. I’r rhaglenni yma mae’r diolch (neu’r bai), dwi’n sicr, am bethau fel fideos Huwcyn. Gwir, dydi bob un sgetsh ddim yn glasur, ond allwch chi enwi un rhaglen sgetshys sy’n taro deuddeg 100% o’r amser? Oni bai am Limmy’s Show. Mae Limmy’s Show yn berffaith.

A wedyn mae ganddoch chi’r ffilmiau. Ac i setlo’r ddadl yma unwaith ac am byth: mae The Life Of Brain ymysg y ffilmiau comedi pwysicaf erioed. Mae o’n beth prin iawn, iawn, sef ffilm gomedi sy’n dweud pethau gwirioneddol ddiddorol ac arloesol am grefydd, gwleidyddiaeth, a be mae’n feddwl i fod yn ddynol. Ond mae Holy Grail jyst yn fwy digri. A dyna ddiwedd hynny.

Felly at y sioe ola. Wedi darllen ychydig o’r adolygiadau ychydig llai na chlên, doedd fy ngobeithion i ddim yn uchel iawn. Diolch byth ‘fyd, achos oedd hi braidd yn dorcalonnus gweld y boi ar draws yr aisle i fi, oedd yn dechrau’r sioe yn clapio ac yn canu ac yn dweud yr holl linellau efo’r cast, yn llithro i mewn i ddistawrwydd wrth iddo fo sylweddoli bod y sioe – yn yr hanner cynta, o leia – ddim yn lot o cop. Roedd ‘na deimlad cryf bod y Pythons yn cadw’r showstoppers i gyd tan y diwedd, ac felly y buo hi. Gwir, roedd ‘na ddarnau da, fel yr hen sgetsh “Four Yorkshiremen” yn cael ei berfformio bron yn union fel y gwreiddiol, efo John Cleese yn cymryd rhan Graham Chapman, ond roedd ‘na hefyd lot, lot gormod o filler. Dwi’n deall bod angen i’r cast newid gwisgoedd bob dau funud, a bod gofyn i hen ddynion neidio o gwmpas ar lwyfan yn ddi-baid am ddwy awr a hanner yn gofyn eitha lot (er bod Springsteen yn ei wneud o drwy’r amser), ond oedd wir angen gymaint o ddawnsio, a chymaint o glipiau fideo o’r Flying Circus er mwyn llenwi amser? Mae gen i rheini i gyd ar DVD, diolch yn fawr. Ond, wedi dweud hynny, animeiddio Terry Gilliam ydi fy hoff ran o’r rhaglen bellach, a doedd ganddo fo ddim lot arall i’w wneud oni bai am wisgo fel ffŵl a gwneud gwynebau hurt o gefn y llwyfan, felly dwi’n falch iddyn nhw gael eu cynnwys.

Roedd y sgetsh am y dynion o’r enw Bruce mewn coleg yn Awstralia – yn ffefryn gen i nôl yn y dydd – yn isafbwynt pendant. Roedd o’n wahanol iawn i’r fersiwn gwreiddiol (mae’n debyg achos bod hwnnw braidd yn an-PC erbyn heddiw, er bod y gân “I Like Chinese” rywsut wedi gwneud ei ffordd i mewn i’r set), ac yn cynnwys cameo cwbwl di-bwynt gan Eddie Izzard – digrifwr sydd wedi cael ei ganmol ormod erioed, yn fy marn i, a sydd wedi llithro i mewn i hunan-barodi yn fwy diweddar.

Mae hyn i gyd yn swnio braidd yn rybish, dwi’n cyfadda. Ond mae’n rhaid i fi ddweud fy mod i wedi gadael y sinema efo gwên ddireidus wedi sleifio ei ffordd ar fy ngwyneb, achos roedd yr ail hanner gymaint gwell. Ddim yn berffaith – roedd y dawnswyr a’r hen glipiau yn dal i gymryd gormod o amser – ond famma roedd yr holl sgetshys enwog yn dod allan i chwarae. Dead Parrot. Nudge Nudge, Wink Wink. Argument Clinic. Cheese Shop. Ac roedd popeth yn gorffen, wrth gwrs, efo “Always Look On The Bright Side Of Life” – dewis addas, a chofio bod y gân yn un o’r rhai mwya poblogaidd mewn angladdau y dyddiau yma. Ac eto, roedd rhai o’r sgetshys llai cofiadwy o’r gyfres yn sefyll allan, mae’n debyg oherwydd ein bod ni ddim wedi eu gweld nhw hyd syrffed. Er bod John Cleese ymysg y rhai llai egnïol o’r cast ar y noson, roedd ei berfformiad nyts fel “Ann Elk” yn sicr yn uchafbwynt.

Y darnau mwy syml o’r sioe oedd yn gweithio orau. Unwaith eto, dwi’n gweld y rheswm pam eu bod nhw wedi penderfynu defnyddio gymaint o ddawnswyr a.y.y.b. i bapuro dros y craciau, ac y byddai dwy awr a hanner o hen ddynion yn eistedd i lawr ac yn perfformio comedi o’r 60au yn mynd braidd yn syrffedus. Ond fysa dipyn bach mwy o hwnna ddim wedi brifo, mae’n siŵr gen i.

Y peth ydi, mae’n amhosib gwylio’r Pythons yn perfformio “Always Look On The Bright Side Of Life”, efo’i gilydd, yn fyw, am y tro olaf un, a pheidio teimlo hapusrwydd gwyllt, a / neu theimlo lwmp maint albatross yn y gwddw. Ac er holl broblemau’r sioe, ac er bod ‘na broblemau sain yn Cineworld Llandudno, fyswn i fel ffan o Python wedi eistedd yna’n weddol gytûn am ddwy awr a hanner yn gwylio’r pump ohonyn nhw’n sefyll o flaen wal frics.

Duw a ŵyr be oedd yr hogan fach naw oed o ‘mlaen i yn feddwl o’r holl beth (yn enwedig yn ystod “The Penis Song” ac “Every Sperm Is Sacred”). Ond doedd y sioe ddim i fod iddi hi, neno’r tad. Rhag ei chywilydd hi’n troi fyny yn y lle cynta. Roedd y sioe i bobol sydd wedi tyfu i fyny’n gwylio’r rhaglen, ac i’r bobol yna, roedd ail hanner y sioe yn taro’r holl nodau cywir. Roedd y boi ar draws yr aisle yn ôl yn clapio ac yn canu’n hapus, ac wrth i mi gamu allan i nos glòs Cyffordd Llandudno, rhaid i fi ddweud ‘mod i’m yn teimlo rhy ddrwg am yr holl brofiad. Dydi hwnna ddim yn gymeradwyaeth gwyllt, dwi’n gwbod, ond be ‘da chi’n ddisgwyl? Ddylsa’r Pythons fod yn mwynhau eu hymddeoliad erbyn hyn, ddim yn gwisgo fel merched er mwyn gwneud i bobol fel fi a chi chwerthin. A dywedwch be ‘da chi isio am y sioe, ond ar ôl dros 30 mlynedd o beidio perfformio’n fyw, ro’n i’n falch o weld y bois yn ôl. Do’n i’m yn disgwyl hynny. Na. Doedd neb yn disgwyl hynny.

O, c’mon. Roedd rhaid i fi sticio hwnna mewn.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s