Cofnod byr (ella) heddiw – o’n i isio dod a’r blog yn ôl at gemau, a gan bod y blogiad nesa yn debyg o fod am yr holl newyddion sy’n dod allan o Comic-Con, does ‘na ddim amser gwell i wneud.
Be wna i, welwch chi, ydi mynd drwy’r holl gemau dwi ‘di bod yn chwarae’n ddiweddar, jyst fel wnes i’r tro arall ‘na. Dwi yn twyllo dipyn bach tro ‘ma achos bod dau o’r gemau yn rai dwi ‘di sôn amdanyn nhw ar y blog yn barod. Ond mae gen i fywyd i fyw. Stopiwch syllu arna i fel’na.
Ffwrdd â ni!
Bioshock
Ia. Y Bioshock gwreiddiol. Ydi, mae fy ymgais i weithio fy ffordd drwy’r tua dwsin o gemau Xbox 360 sydd gen i ar ôl yn parhau, a dim ond rŵan dwi ‘di boddran estyn y clasur yma o 2007 o’r silff. Mae o wedi heneiddio braidd, mae’n wir – mae’r UI (User Interface) yn edrych braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn, ac mae lot o’r syniadau wedi eu “benthyg” a’u defnyddio mewn gemau eraill. Ond does dim dwywaith bod rhannau helaeth o’r gêm yn dal i fod yn syfrdanol – yn enwedig y dechrau, a’ch cyflwyniad i ddinas Rapture.
Fedra i weld yn iawn pam bod y byd wedi mynd yn nyts am y gêm saith mlynedd yn ôl, ac er bod amser wedi dylu’r profiad braidd, dwi yn edrych ymlaen at gracio Bioshock 2 a Bioshock Infinite ar agor, at weld lle mae’r stori’n mynd yn y dyfodol, ac at ymladd lot mwy o’r “Big Daddies” brawychus ‘na.
Dim yr un yna.
Batman: Arkham Origins
Gêm gafodd ei golbio eitha dipyn yn y wasg, a’i gymharu’n anffafriol iawn i Arkham Asylum ac Arkham City, y gemau blaenorol yn y gyfres. Ro’n i’n ymwybodol iawn o’r feirniadaeth yma, ac ella am y rheswm yna, achos ‘mod i’n disgwyl gêm chydig bach yn crymi, wnes i ddod allan o’r peth wedi mwynhau’r profiad eitha dipyn. Dydi o ddim yn bad.
OK, dydi’r ysgrifennu ddim yn cymharu efo Asylum a City (oherwydd nad oedd yr awdur Batman enwog Paul Dini yn rhan o’r prosiect, siŵr o fod), a dydi’r system ymladd ddim cweit mor dda, a dydi’r prif elynion ddim cweit mor eiconig, ac mae absenoldeb Mark Hamill fel y Joker yn golled mawr, et cetera et cetera. Ond do’n i ddim yn disgwyl profiad fysa’n newid fy mywyd. I gyd o’n i’n ei ddisgwyl oedd cael hedfan o gwmpas Gotham City, yn glanio ar ben adeiladau o bryd i’w gilydd ac yn malu botymau’n ddifeddwl i guro’r baddies, fel mod i’n chwarae Streets Of Rage neu rwbath. A dyna be ges i. Dyddiau da.
Flwyddyn nesa, mae Arkham Knight allan ar y PS4 a’r Xbox One. Dwi’n edrych ymlaen. Yn un peth, fydd o ddim yn ymddangos ar y 360 a’r PS3, ac felly yn gêm next-gen go iawn o’r blincin’ diwedd. Hefyd, mae o i fod yn cyrraedd uchelfannau gemau cynta’r gyfres unwaith eto. A dwi’n siŵr fydd ‘na gyfle i fi falu botymau fel chimpanzee beth bynnag. Felly fydd pawb yn hapus. Dyma’r trelyr. Achos.
Child Of Light
Dwi rhwng dau feddwl braidd am Child Of Light. Yn un peth, mae o’n “turn-based RPG” (bob lwc yn trio cyfieithu hwnna), fy hoff genre o gemau. Mae’r graffeg yn hyfryd. Mae’r gerddoriaeth yn hudolus. Mae’r system ymladd ymysg y gorau mewn unrhyw RPG erioed, yn syml ar un llaw, yn hynod o dactegol ac anodd i’w feistrioli ar y llaw arall.
Ond mae’r sgwennu yn uffernol. Wnaeth ‘na ryw athrylith benderfynu bod yr holl ddeialog yn y gêm yn gorfod odli. A wedyn wnaethon nhw gyflogi rhywun i sgwennu’r peth oedd ddim yn gallu odli, ddim yn deall rhythmau barddoniaeth da, a prin yn gallu siarad Saesneg o gwbwl. Wele y bennill fach yma o ddiwedd y gêm:
The bell tolled on Easter Sunday,
All looked quite lost.
The people cowered on the hilltops
That were nearly under tossed.
“Under tossed”? Cywirwch fi os dwi’n rong, ond dydi hwnna ddim yn derm, nadi? Mae nhw jyst yn gwneud y stwff ‘ma fyny er mwyn gallu odli pethau. Rybish. Ac mae’r gêm yn llawn enghreifftiau fel’na.
Hefyd, dwi ddim wedi fy llwyr argyhoeddi bod RPGs byr fel hwn a South Park: The Stick Of Truth cweit yn gweithio. Mae nhw’n gemau eitha da, ydyn, ond pan dwi’n chwarae RPG, dwi’n disgwyl 30+ awr o gynnwys, sy’n rhoi’r amser i chi uniaethu efo’r cymeriadau, teilwra’r gêm i ffitio eich steil chi o chwarae, a suddo i mewn i’r peth yn ara deg fel eich bod chi’n darllen nofel ffantasi hir. Dwi ddim yn siŵr bod 10 awr o’r math yma o beth yn effeithiol. Yn un peth, ‘da chi’n newid eich offer ac yn addasu eich cymeriad bob dau funud. Cymharwch hyn efo rywbeth fel Skyrim, lle ‘da chi’n defnyddio’r un arf am ryw bum awr, ac mae o’n foment fawr pan ‘da chi’n newid o’r diwedd.
Felly dyna Child Of Light. Cyfuniad o’r da a’r drwg. Dipyn bach fel bywyd, de? Ia wir. Dyma fideo o gŵn a babanod yn chwarae.
Hearthstone: Heroes Of Warcraft
Wnes i alw hwn yn “gêm y flwyddyn” sbel yn ôl. Gewch chi ddarllen am Hearthstone, mewn lot gormod o fanylder, fan hyn.
A dwi’n dal i chwarae’r gêm. Dwi ddim yn gallu rhagweld pwynt lle fydda i’n stopio, yn enwedig pan ‘da chi’n gallu ennill $100,000 drwy ennill twrnaments Hearthstone. A hyd yn hyn, dim ond £20 dwi ‘di wario ar gardiau newydd. Alla i ddim colli.
Mae’r estyniad cynta yn y broses o gael ei ryddhau ar y funud. Ei enw o ydi Curse of Naxxramas, ac mae o’n ychwanegu 30 o gardiau newydd i’r gêm yn ara deg dros y wythnosau newydd, gan droi’r holl beth ar ei ben. Fedra i ddim esbonio pa mor ecseited ydw i am hyn i gyd. Gwrandwch, os wnes i ddim eich perswadio chi i lawrlwytho’r gêm tro diwetha, wna i ddim tro yma. Ond i’r rhai ohonoch chi sy’n gaeth iddo fo’n barod, does dim rhaid i fi esbonio pam bod y fideo yma mor ddiddorol.
O ho ho. Clasur.
Mario Kart 8
Dwi’n meddwl bod hwn yn esbonio popeth.
Watch Dogs
Cyn i chi ddarllen be sgen i i’w ddweud am Watch Dogs, darllenwch adolygiad fy nghohort ffyddlon Daf Prys o’r gêm fan hyn.
Digwydd bod, dwi’n cytuno efo bob dim sydd ganddo fo i’w ddweud. Dydi Watch Dogs ddim yn gêm ffôl o gwbwl, ond am ryw reswm, mae rhywun yn teimlo fel rhestru’r holl bethau sy’n bod efo fo yn hytrach na chlodfori’r pethau da amdano fo. Mae hyn, mae’n debyg, yn ymateb i’r hype gwirioneddol nyts oedd yn gysylltiedig â’r gêm. O wrando ar yr holl fân siarad yn arwain at ei lawnsiad, roedd rhywun yn disgwyl profiad next-gen bythgofiadwy, dim ryw knock-off o Grand Theft Auto. Mae siom lot o chwaraewyr y gêm yn amlwg i’w weld o’i sgôr gan ddefnyddwyr Metacritic. 6.3. Aw.
Ond eto, fel dwi’n deud, dydi o ddim rhy ddrwg. Dydi’r stori na’r cymeriadau ddim yn afaelgar, ac mae o braidd yn undonog ar adegau, ond mae o’n edrych yn ddigon derbyniol (ar y PS4, o leia). Mae’r cerbydau yn y gêm yn ymateb yn lot gwell na’r rhai yn GTA. Er nad ydi’r mecanweithiau yn ymwneud â hacio’r byd o’ch cwmpas chi yn chwyldroadol o bell ffordd, mae nhw’n sicr yn gwahanu Watch Dogs oddi wrth gemau “byd agored” eraill. Mae o’n becyn soled ar y cyfan. Ond yn y pen draw, er yr holl waith sydd wedi mynd i mewn i hwn, alla i ddim stopio cysidro gymaint gwell fydd Watch Dogs 2. Hwn, mae’n debyg, ydi cyfres fawr newydd Ubisoft, ac os fydden nhw’n rhyddhau gemau Watch Dogs mor aml â gemau Assassin’s Creed, fydd ganddo ni lot i edrych ymlaen ato fo yn y dyfodol. Ond am y tro, mae Watch Dogs yn 8 / 10 cryf. Prynwch gopi. Os ‘da chi’n ei ffeindio fo’n rhad. Os ‘da chi isio.
Dyma Conan O’Brien yn trio ac yn methu chwarae’r gêm yn ei steil mymryn-yn-annifyr ei hun.
A dyna ni. Disgwyliwch un arall o rhein pan dwi ‘di gorffen llond llaw o gemau eto. Cwpwl o bethau allan ar y PS4 mis nesa, coeliwch neu beidio – y fersiynau sgleiniog newydd o The Last Of Us a Diablo 3 yn benodol. Dwi’n edrych ymlaen at bwmpio lot gormod o oriau i mewn iddyn nhw. Fydd ‘na fideos newydd allan rywdro gen i hefyd. Gaddo.
Ond am y tro – pa gemau ‘da CHI wedi chwarae’n ddiweddar? Gadewch sylw isod.
(Dwi’n gwbod wnewch chi ddim gadael sylw. Wnes i ddweud hwnna jyst i wneud sgwrs, deud gwir.)
– Elidir
Dwi chydig bach fel Conan wrth chwarae gemau 1st person. Nes i fethu hynna i gyd a rwan ma fel bo fi heb ddysgu sut ma sgwennu.
Ti’n iawn ma dechrau Bioshock yn wych, ond dwi’n meddwl bod o rhy intense i fi. Dwi’n meddwl o’n i’n disgwyl llai o saethu am rhyw reswm. Swn i’n lecio llai o saethu, mwy o puzzles. Ella, bod fi ond yn gallu handlo saethu os ma’n di cartwneiddio fel Zelda. Neu wedi ei dynnu’n llwyr allan o unrhyw gyd-destun moral fel saethu llongau gofod ne rwbath. Dwi’n deall taw dyna yw pwynt Bioshock i raddau helaeth, ond dwi’m yn siwr os allai fod yn arsed neud lot mwy o saethu er mwyn gweld y stori.
Roddai un go arall arno fo ella, ag adrodd nôl…
Mae o’n intense iawn. Mae o’n gêm sydd wedi ei ddylanwadu lot gan gemau ‘Survival Horror’, felly ti wastad yn isel ar ammo, ti byth yn siwr be sydd rownd y gornel nesa, a.y.y.b. Felly ia, dwi’n siwr bod o’n anodd os ti ddim ‘di chwarae gemau am sbel! Ond dydi o ddim yn rhy hir – ryw 12 awr. Mae ‘na lot o gemau sy’n fwy o commitment. Jyst meddylia am y peth fel darllen War & Peace neu rwbath – poenus ar adegau, ond rwbath ti’n gorfod ei wneud!
– Elidir
[…] ddau wedi ymweld â Sioe Gemau Cymru 2014, Comic Con yn San Diego eleni ac wedi adolygu’r gêmau diweddaraf… ac wrth gwrs, peidiwch ag anghofio’r fideos ‘Huwcyn yn Chwarae…’! […]