Comic-Con 2014

Mae Comic-Con, Eisteddfod y gîc-fyd, drosodd am flwyddyn arall, ac mae pobol San Diego yn mwynhau dinas gymharol dawel erbyn hyn, yn rhydd o bobol yn crwydro’r strydoedd wedi eu gwisgo fel Chewbacca a Chun Li a be bynnag ydi hwn. Yn anffodus, fedra i ddim trafod popeth. Tan iddo fo ddod yn gyfreithiol i fi gael clôn o fi fy hun, dim ond un dyn ydw i. Ond be am i fi redeg drwy ychydig o uchafbwyntiau’r sioe? Fysa chi’n licio hwnna? ‘Na ni ta. Gwnewch banad o Horlix i chi’ch hun a steddwch yn ôl. Go on. ‘Da chi’n haeddu o.

Batman v Superman: Dawn of Justice

Felly. Gawson ni lwyth o stwff gan Zack Snyder, Warner Bros. a DC Comics. Yn gynta, llun arall o Ben Affleck fel Batman, yn edrych chydig bach yn isel unwaith eto.

Chwarae teg – welodd o ei rieni’n cael eu llofruddio pan yn blentyn. Fysa chi braidd yn depresd hefyd, mwn. Yn y panel ar gyfer y ffilm, welson ni Batman, Superman a Wonder Woman efo’i gilydd o’r diwedd.

Chydig bach hapusach fanna. Gawson ni weld Wonder Woman yn ei thogs newydd…

… a gafodd y dorf oedd yno’n fyw weld ryw fath o drelyr teaser bach ar gyfer y ffilm – ffilm, cofiwch chi, sydd ddim allan tan 2016. Yn anffodus, does ‘na ddim fersiwn da o hwn wedi ei uwchlwytho hyd yn hyn, ond fedrwch chi weld fersiwn aneglur iawn fan hyn os ‘da chi isio. Am y tro. Mae teimlad y peth i’w weld yn sbot-on, yn cymryd lot o ddylanwadau o The Dark Knight Returns gan Frank Miller… yn amlwg, allwn ni ddim barnu’r holl ffilm ar lai na munud o fideo o safon isel iawn. Ond fel un oedd yn eitha hoff o Man Of Steel, yn ffan mawr o Batman, a – wna i gyfadda’r peth – yn ffan o Ben Affleck hefyd, dwi yn edrych ymlaen at hwn. Lot.

Marvel

Roedd Marvel yn Comic-Con hefyd, coeliwch neu beidio. Yn ogystal â chyhoeddi Guardians Of The Galaxy 2, wnaethon nhw hefyd gynnal panel i drafod Ant-Man a The Avengers 2. Fedrwch chi weld o fan hyn. Dydw i’n foi clên?

Oherwydd bod Edgar Wright ddim yn rhan o’r prosiect dim mwy, sgen i ddim lot o frwdfrydedd tuag at Ant-Man. Dwi’n siŵr fydd Avengers 2 yn lot o hwyl, a dwi’n clywed bod y panel wedi bod yn dda ‘fyd (dwi ddim ‘di gwatshiad y fideo achos bod gen i fywyd, diolch yn fawr). Ond os dwi’n cymharu hwn efo Batman v Superman… sori, Marvel, ond DC sy’n ennill hwn.

The Last Of Us

Felly, ar ôl blynyddoedd maith o ffilmiau yn seiliedig ar gemau cyfrifiadur sydd wedi bod yn hollol rybish (disgwyliwch gofnod ar hwnna rywdro), mae ganddon ni ychydig o brosiectau diddorol ar y ffordd. Assassin’s Creed, yn serennu Michael Fassbender. Warcraft, wedi ei gyfarwyddo gan Duncan “Mab David Bowie” Jones. A’r un diweddara, gafodd ei gyhoeddi yn ystod Comic-Con, The Last Of Us, yn seiliedig ar un o’r gemau gorau erioed, yn ôl y sôn.

Dwi ddim ‘di chwarae’r gêm eto – dwi yn bwriadu gwneud pan mae o’n cael ei ryddhau ar y PS4 ar Ddydd Gwener. Mae’r stori i fod yn sinematig iawn, a dydi’r ffaith bod Maisie Williams o Game Of Thrones yn debyg o serennu ynddo fo ddim yn brifo pethau. Ond rhaid i fi ategu cwestiwn Graham Linehan fan hyn:

Mae Warcraft ac Assassin’s Creed yn gaddo adrodd straeon cwbwl newydd ym myd y gemau yna. Ar y llaw arall, mae The Last Of Us yn addasiad strêt o’r gêm, meddai nhw. Mae’r stori yna wedi ei ddweud yn barod, ac am y rheswm yna, fedra i ddim cynhyrfu gormod am hwn. OK, mae addasiadau ffilm o nofelau, dramâu a.y.y.b. yn gallu gweithio’n dda, ond mae naratif gemau yn dueddol o fod yn hollol wahanol i’r cyfryngau yna. Dyna un o’r rhesymau, dwi’n meddwl, pam bod lot o ffilmiau’n seiliedig ar gemau wedi bod mor wael hyd yn hyn.

Dwi’m yn gwbod. Dwi’n mynd braidd yn athronyddol fan hyn, a fel dwi’n deud, dwi’n bwriadu trafod hyn i gyd rywdro eto. Gawn ni weld sut eith pethau, ia? ‘Na ni ta.

Tusk

Rŵan dyma ffilm dwi’n edrych ymlaen ato fo. Dwi’n ffan mawr o Kevin Smith, ac mae o’n disgrifio hwn fel ei ffilm orau erioed. Mae o am ddyn sy’n cael ei herwgipio a’i fforsio i ymddwyn fel walrws am weddill ei ddyddiau. Dyma’r trelyr. Croeso.

Paneli Nerd Machine

Do’n i ddim wedi clywed am Nerd Machine cyn y Comic-Con yma. Mae cipolwg sydyn ar eu gwefan nhw’n datgelu eu bod nhw’n cynnal digwyddiadau i nyrds o bob lliw a llun, ac yn codi arian at achosion da ar yr un pryd. Ac roedd ganddo nhw lond trol o bethau’n digwydd yn Comic-Con, fel allwch chi weld o’u sianel Youtube nhw. Isio gweld sgwrs efo cast The Walking Dead? ‘Ma chi. Be am “A Conversation With Badass Women”, sy’n cynnwys gwesteion o Dexter, Game Of Thrones, Agents Of S.H.I.E.L.D., a mwy o raglenni cyffelyb? Ac fy ffefryn i, sgwrs efo dau o fy arwyr, Felicia Day a Wil Wheaton. Rhei o bobol neisia showbiz. Wwww, hyfryd.

Game Of Thrones

Dim llwythi o bethau newydd yn y panel yma, oni bai am gyhoeddi cast newydd Cyfres 5 (a wir, sut mae nhw’n mynd i ffitio’r holl gymeriadau ‘na i mewn?). Ond mae’r fideo yma’n cynnwys cast, cynhyrchwyr ac awdur Game Of Thrones. Yn trafod Game Of Thrones. Be well ar Ddydd Llun heulog?

The Simpsons a Family Guy

Reit. I wneud hwn yn berffaith glir: mae’r Simpsons ar ei waetha yn well nag unrhywbeth ellith Family Guy gynnig. A dyna ei diwedd hi. Felly dwi ddim yn siŵr iawn pam bod hwn yn digwydd.

Ond mae o’n digwydd. Allwn ni ddim ei stopio o. Dwi’n rhoi’r fideo yma rhag ofn bod gan unrhywun ddiddordeb.

Ochenaid. Dwi’n drist rŵan.

Nintendo

Ac i orffen ar gemau – roedd gan Nintendo bresenoldeb eitha cry’ yn y sioe flwyddyn yma, ac roedd criw IGN yna i drafod popeth. Dyma nhw’n trafod gêm fach fydd dwi’n meddwl yn synnu lot o bobol, Captain Toad: Treasure Tracker. Dyma nhw’n chwarae Bayonetta 2, ac fel un wnaeth orffen chwarae’r Bayonetta cynta neithiwr, dwi ‘di cynhyrfu’n lân ar gyfer hwn. A ‘co nhw’n trafod lluniau o’r Super Smash Bros. newydd mewn lot gormod o fanylder. Braf gweld Nintendo’n troi fyny mewn steil i sioe fel Comic-Con – sydd ddim fel arfer yn rhoi gormod o bwyslais ar gemau fideo – ac atgoffa pobol eu bod nhw’n dal i fodoli.

A dyna ni. Digon fanna i’ch cadw chi’n brysur am y tro. Dwi off i weld Dawn Of The Planet Of The Apes Of The Dawn Of The Planet Of The Dawn Of The Rise Of The Apes Of The Apes mewn munud. Neu bynnag ‘di teitl y ffilm. Ac ar ôl hynny, dwi’n mynd i weithio ar fideos newydd. Jyst i chi.

Off i’r De ar ddiwedd yr wythnos, felly fydd ‘na ddim byd newydd gen i am sbel. Os ‘da chi’n digwydd bod yn y Steddfod ar Ddydd Llun neu Ddydd Mawrth, dewch i ddweud helo. Fi fydd y boi’n crwydro rownd y maes yn ddryslyd, yn mwmian pethau am Hearthstone iddo fo ei hun. Hwyl am y tro.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s