Fideo Wyth yng Ngwyl Golwg

Efallai ein bod ni wedi sôn am hyn o’r blaen, ond fe fu Fideo Wyth yng Ngŵyl Golwg yn ddiweddar. A gan ei fod o’n ddigwyddiad mor hanesyddol, mae sawl fideo wedi dod allan. Gwnewch baned a steddwch i lawr. Fydd o fel bod chi yna.

I ddechrau’r diwrnod, fe wnaethom ni gymryd rhan mewn panel efo Huw Marshall, rheolwr digidol S4C, ar ddyfodol gemau yng Nghymru. Mae’n debyg y bydd ‘na fideo o hwnna’n ymddangos ar sianel Golwg yn y man, ond am y tro, dyma fideo byr o Elidir yn crynhoi’r drafodaeth.

Ac wedyn at ein stondin fach ni, a’r gystadleuaeth Mario Kart 8 fawreddog. Dyma Elidir (fo eto) yn ein harwain ni o gwmpas y stondin yn ei ffordd amaturaidd ei hun.

Ar ôl pedair awr o gystadlu, fe ddaeth Iolo Cheung allan fel ennillydd, a llongyfarchiadau mawr iddo fo. ‘Co ni lwyth o gyfweliadau efo fo, a lot o’r rhai llai ffodus.

Ac yna – jyst er mwyn hwyl – fe wnaeth griw o’r bois ddod at ein gilydd ar gyfer gêm gyfeillgar. A dyma be ddigwyddodd. Wir, mae’n rhaid i chi wylio hwn i weld be mae Mario Kart yn ei wneud i bobol sy’n (weddol) gall fel arfer.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s