Gamescom, mein herr (mae’n her!)

Gamescom, Sioe Gemau cyfrifiadur mawr Ewrop, a’i cynhaliwyd yn Kuln, Almaen.

Gamescom 2014

Mae agweddau yn newid o hyd. Gamescom, mae’n hawdd i’w ddadlau, ‘nawr yw sioe fwya gemau cyfrifiadur y blaned. Doedd dim llawer iddi ond rhyw 5 mlynedd ‘nôl a nawr drychwch arni, bwystfil ble mae’r newyddion mwya syfrdanol ym myd gemau cyfrifiaurol yn cael ei rhyddhau: fideo cynta o gem Quantum Break yn rhedeg, y gem sy’n neud i lot o bobl feddwl taw dyma’r amser i brynu Xbox One, Sierra Studios yn cael ei atgyfodi gyda’i cyfresi hollbwysig ‘Galaxy Quest’ a ‘Geometry Wars’, o ie, a ‘r ffaith bach na fod Tomb Raider nawr am fod yn console exclusive i Xbox (nôl at hwn mewn eiliad).
Mae’n beth digon diddorol yn ei hun fod Gamescom yn cael ei chynnal yn yr Almaen, gan feddwl am y perthynas digon bregus rhwng y cwmniau cyhoeddi a bwrdd sensoriaeth yr Almaen, sydd yn fwrdd hanesyddol geidwadol dros ben, cyfatebol i Awstralia ar ba mor gyndyn ydyn nhw i adael i’r sdwff mwy ffraeth sydd i’w canfod mewn gemau trwy’i drysau gwladol. Mae yna wastad rhyw helynt flynyddol am rhyw gem yn cael ei wrthod gan yr Almaen, ac erbyn hyn, mae sawl cwmni cyhoeddi wedi dallt y dalltings ac yn anghofio hyd yn oed trio cal ei gemau trwy y system (Sega er enghraifft ddim wedi ceisio efo ‘Madworld’), siwr o fod yn safio cwpl o geiniogau lleoleiddio (neith Cymru eich derbyn chi, chwi gwmniau mawrion, os oes unrhywun yn darllen o Sony neu Nintendo et al). Mein, ahem, *mae’n* hanes ddiddorol iawn a rhesymau difyr tu ol i’r peth ac efallai bydd erthygl yn y dyfodol ar y pwnc.

Ond ta waeth, rhestr o hoff bethau @dafprys ddaeth allan yn ystod y sioe.

Rise of the Tomb Raider
Dim yn union yn hoff beth, fel petai, ond atsain o’r hen do fan hyn, gem sy’n exclusive i Xbox yn unig a does neb yn siwr os y daw hwn allan ar y Playstation o gwbl. Falle ddim yn swnio fel newyddion mawr iawn, bosib, i’r rheiny sy’n cofio dyddiau *da* exclusives Resident Evil, Final Fantasy a Dead Rising, ond erbyn heddiw mae’n syfrdanol gan greu ymateb chwyrn yn y safleoedd arferol. Mae’n anodd deall pam fod unrhyw gem third party yn exclusive erbyn hyn, gan gofio cost uchel datgblygu gemau AAA console (a PC wrth gwrs). Ond mae’n rhaid bod rhesymau da gan Xbox a Crystal Dynamics, datblygwyr gem nesaf Lara Croft, i ddod i’r fath gytundeb. I Xbox, cwmni sydd gan gyfoeth anferthol Microsoft tu ol iddynt, hawdd yw taflu arian at broblem a derbyn pluen yn ei het am y trafferth, mae’r Xbox One yn treilio’r PS4 o 3 i 1 o ran niferoedd a werthwyd i bobl yn ei tai, a rhaid meddwl bod bois Microsoft felly yn meddwl taw dyma’r gem i neud i droi’i lwc. Ond mae’r niferoedd yna yn bwysig i Crystal Dynamics hefyd, gan fod nhw’n tynnu’r gem allan o hyd braich rheina sydd efo PS4 dan y teli, hynny yw marchnad arferol namyn 10 miliwn bois y Playstation, a dal i gyfri. Yr ateb am pam fod hwn wedi digwydd? Arian o flaen llaw. Mae exclusives yn golygu arian parod o flaen llaw, budget a cash flow agored ar gyfer prosiectau newydd, gyda datblygwyr mawrion yn gwynebu trafferthion taliadau dydd i ddydd y dyddiau yma falle bod sefydlogrwydd heddiw yn fwy pwysig na ceiniogau mawr fory.

Gems gems gems

Gweithred gem ‘asymmetric’
Ffad newydd! Mae pawb yn mwynhau ffads, fi’n cofio ffad yo-yos yn yr wythdegau a bob yn ail blentyn efo llygad ddu. Ffad ice buckets, a doc martens, scandinoir a’r BMX, y Wii… a nawr ‘asymmetric gameplay’. Beth yw hwn de? Mae gemau amlchwaraewr fel arfer wedi creu rownd y syniad o 2 dim cyfartal, 5 erbyn 5 e.e. yn brwydro i ennill fflag neu rhywbeth. Wel mae ‘Asymmetric Gameplay’ yn torri hwn ac yn cynnig gweithred a chyfathrach digidol tra gwahanol, e.e. yn Fable:Legends. O, Fable, ti a dy obsesiwn efo rhech a gwirioni. Yn aml yn cuddio systemau digon soffistigedig oddi tano, ond dwi wastad wedi mwynhau’r gemau. A mae’r nesaf yn y gyfres yn troi mewn i rhyw fath o dungeons and dragons, i’w weld, gyda lefelau yn cael ei osod gan un chwaraewr sy’n ymddwyn fel dungeon keeper tra bod 4 chwaraewr arall yn profi’r sialens.

Run peth yn Evolve, 4 heliwr yn trio dal creadur hunllefus sy’n cael ei reoli gan chwaraewr arall. Wele hwnna fan hyn.
Arlwy tebyg i beth oedd Nintendo yn ceisio creu gyda’I gemau bychan yn Nintendoland, y gem oedd yn dod efo’r WiiU, ac hwnnw wrth gwrs efo’r gamepad unigryw yna efo sgrin ei hun. Dwi’n ffan mawr o’r syniad. Dwi’n ffan mawr o unrhywbeth newydd (ocheniad).

The Tomorrow Children
Hwn oedd yr un nath taro fi yn syth fel yr un i edrych allan amdano. Wedi seilio ar syniadaeth Karl Marx, gem efo gweithred syml Minecraft o gloddio wedi’i chroesi efo byd cyson MMO a gwaith celf trawiadol dros ben. Am rhyw reswm yn atgoffa fi o animeiddio rhaglenni plant y 70au ac 80au (Magic Roundabout a Posman Pat e.e.), hynny yw bach yn cripi ond methu tynnu llygaid i ffwrdd! Dim llawer o fanylion o ran sut bydd popeth yn chwarae ond dyw hwnna erioed wedi sdopio fi rhag manylu fod y gem am fod yn superawesome’A-Ok’number1!

Volume
Mike Bithell (Thomas Was Alone) sydd tu ol hwn ac yn neidio o top down 2d pixel art i stealth 3d. Os am naid, neidiwch yn wyllt. Y rheswm fod hwn yn argoeli’n dda yw achos Thomas Was Alone. Oes angen i fi sgwennu fwy? Blincin ec oce te. Gem aruthrol yw Thomas Was Alone, edrych fel drôr lego plant efo bits o sgwariau fan hyn fan draw ond nerth y peth oedd y weithred – mwy neu lai gemyddio wedi ferwi lawr in un wy moel a’r melynwy bellach yn llwyd berffaith. Dim y disgrifiad orau falle ond gwych ta waeth. Felly os MB + TWA = bawdgodi felly bawdgodi/MB x Volume yw % o TWA… ffacin maths!

P.T. (Silent Hills)
Gem arswyd, felly na, nesaf!

Mae Hideo Kojima a Guillermo del Toro wedi dweud taw nod y gem yma yw i neud i fi (a pahwb arall) llenwi trons. I fod yn deg, dyw tronsus ddim yn rhad dyddie ma ac am rhyw reswm ma’r cariad wedi cychwyn prynu rhai gwyn i fi sy’n gamgymeriad ar sawl lefel. Amau fi’n creu bach o arswyd fy hun nawr…

The Order
Gen i deimladau cymysg iawn am hwn. Pobl eto fyth yn cloddio mytholeg Arthuraidd ac yn ploncio’r peth ynghanol Llundain yr 18fed ganrif gan gynnig criw y bwrdd gron fel rhyw fath o heddlu yn erbyn radicals y ddinas a, yrm, blaidd-ddynion.
Mae cymeriadau arferol o gread rhamantus y mytholeg oll yna, Galahad, Gawain etc., ac yr holl beth wedi plethu fewn fframwaith Elizabethaidd, oes sydd mwy neu lai, megis Bulldog mewn fflag San Sior yn chwalu peint o ‘Best’ tra’n dawnio’r Morris, ymysg yr oesoedd fwya ‘seisnigaidd’ fedra i feddwl amdano. Sai’n credu fod Ready at Dawn, y bois tu ol i’r gem, wedi clywed am Taliesin. Ond pam teimladau cymysg felly? Achos mae’r weledigaeth yn fabulous, darling. Wele’r peth fan hyn.

No Man’s Sky
Siomedigaeth fi methu rhegu’n wyllt allan o bleser pur fan hyn, digon posib fydd e’n dod ar draws fel cyfres o eiriau anghysylltiedig ta waeth, felly na’i sibrwd y mochyndra i’n hun gan obeithio fod y gath ddim yn gwrando. Mae rheswm da pam fy mod yn teimlo’n angenrheidiol ar rhegu, a’r rheswm hynny yw No Man’s Sky. Sdim pwynt sgwennu mwy – anelwch eich marblis sgwiji at y sgrin oddi tano’r frawddeg hon.

Ori and the Blind Forest
Ma na lot o 2d platformers gwych wedi ymddangos dros y blynyddoedd dwethaf, rhai ar ffurf ‘roguelike’ megis spelunky ac eraill yn rhai pur megis Rayman Legends, sy’n gem mor dda ma fe’n hollol hollol hurt, ac mae Ori and the Blind Forest I’w weld yn cario mlaen y gwaith da hynny. A tebyg i be dwi wedi sgwennu o’r blaen, weithiau dwi jysd yn hoffi mynd i’r chwith ac i’r dde, a neidio ambell dro. Eto, dilynwch y linc yma i weld mwy.

dabo
dafprys

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s