Sori bod blogfyd Fideo Wyth wedi bod braidd yn dawel yn ddiweddar – yn un peth, ‘da ni wedi bod yn chwarae Destiny. Ac mae o’n eitha da, cofiwch. Ond hefyd ‘da wedi bod yn paratoi ar gyfer ein rôl yng Ngwyl Golwg, Dydd Sul yma, Medi 14, ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.
Dyma be sy’n digwydd: am 12 o’r gloch fe fydd tîm Fideo Wyth (Daf Prys ac Elidir Jones, diolch am ofyn) yn ymuno â Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, ar gyfer sgwrs am ddyfodol y diwydiant gemau cyfrifiadur yn Gymraeg. Fydd ‘na chwerthin, dadlau, ella ffeit neu ddau, a wedyn gewch chi gyfle i ymuno yn yr hwyl efo cwestiynau.
Ac yna, rhwng un a phump, fe fyddwn ni’n rhedeg ein cystadleuaeth Mario Kart 8.
Er mwyn tegwch, ‘da ni wedi penderfynu bydd y prif gystadleuaeth yn cymryd ffurf Treialon Amser rownd un trac penodol (sydd eto i’w ddewis, ond mae Toad Harbor, Shy Guy Falls a Mount Wario yn cynnig eu hunain…). Ond unrhyw bryd does neb yn trio’r gystadleuaeth, fydd ‘na gyfle i chwarae’r gêm efo’ch gilydd. Ac mae ‘na dderyn bach hefyd wedi dweud wrtha i y bydd ‘na fersiynau retro o Mario Kart hefyd ar gael i chwarae…
Gwobrau. O oes, mae ‘na wobrau. Sut mae ceir “remote-controlled” Mario a Yoshi yn eich siwtio chi? Be am docyn rhodd o siop Game? Neu gasgliad o gemau indie ar gyfer y PC, sydd hefyd yn cynnwys copi o’r ffilm Indie Game: The Movie? Dwi isio’r wobr yna fy hun, deud y gwir, achos dwi ddim ‘di cael cyfle i weld hwnna eto. Ond dwi ddim yn ei gael o. Achos dyna’r rheolau.
Hwyl i’r holl deulu felly. A cofiwch ddefnyddio’r hashnod #mkfideo8 ar Twitter er mwyn brolio’ch sgiliau. Er enghraifft: “Fi yw’r gorau, ac mae hynny’n sicr!”; “Fi fydd yn ennill, y dihirod salw i chi!”; etc.
Lot mwy o gynnwys fideo ar y ffordd, gan gynnwys stwff am ein panel, am y gystadleuaeth Mario Kart, stwff am Destiny, ac efallai cyfres bach am The Sims 4…
Am y tro, wna i adael chi efo’r gân yma, o ddiwedd Destiny, gan Paul “Mull Of Kintyre” McCartney. Ac… o. O diar.
– Elidir