Pan O’n I’n Reslar

Wnes i ymuno â chynghrair fantasy football yn ddiweddar. Dwi ddim yn gwybod unrhywbeth am bêl-droed y tu allan i glwb Dinas Bangor. Fydd o’n drychinebus. Debyg wna i sgwennu am y profiad un dydd.

Ond wnaeth hwnna fy atgoffa i. Ro’n i mewn cynghrair ffantasi o’r blaen. Un eitha gwahanol.

Yn fy arddegau, ro’n i wrth fy modd efo reslo.

(Ia, ia. Dwi’n gwbod bod o’n ffug. Ond mae The Godfather yn ffug hefyd. Caewch hi.)

Un broblem fach: doedd gen i ddim Sky i’w wylio fo. Ro’n i’n gorfod bod yn hapus efo darllen canlyniadau ar y we, prynu ambell DVD, a chwarae gemau diddiwedd o WWF No Mercy ar yr N64.

No-Mercy-4

Doedd hwn ddim yn ddigon i fi, wrth gwrs. Ro’n i angen mwy. Ac yna, un diwrnod, tra’n wastio amser yn y stafell sgwrsio ar WWF.com (sef y steil ar y pryd), gefais i fy nghyflwyno i e-reslo.

Fel fersiwn rhyfedd o fantasy football (ond efo mwy o steroids, dim Sepp Blatter, a lot llai o rowlio rownd ar y llawr a smalio bod chi wedi brifo), y peth cynta fyddwch chi’n ei wneud ydi dylunio’ch reslar eich hun. Mae unrhywbeth yn bosib. Fedrwch chi ddwyn syniadau gan rai go-iawn (ac yn fy nydd i, roedd hanner y cymeriadau yn ripoffs llwyr o gymeriadau Gothig ac edgy fel Raven neu Gangrel), neu fod yn hollol wreiddiol. Yna, fyddwch chi’n cael eich taflu i mewn i ornest efo cymeriad arall, wedi ei reoli gan chwaraewr go-iawn, jyst fel chi. Y ffordd i ennill yr ornest yna? Sgwennu’r promo gora – y rhannau grêt ‘na o sioe reslo pan mae pawb yn brolio eu hunan.

Fel hwn. Ond ddim yn hollol rybish.

Os ‘da chi’n sgwennu darnau cyson a da, wnewch chi ennill mwy a mwy o ornestau, gan arwain yn y pen draw at y bencampwriaeth fawr, a chlod ac enwogrwydd am byth… ymysg y dwsin o bobol sy yn y gynghrair efo chi, o leia.

Fy nghymeriad cynta i?

Red Dragon
Boi cŵl, suave, o Ogledd Cymru, efo cyhyrau mawr a gwallt coch, sbeici.

OK, roedd rhaid i’r tebygrwydd rhwng fi a fo ddod i ben rywbryd.

Hwn oedd fy mhrif gymeriadErbyn i fi stopio, roedd o wedi llawn haeddu’r enw “The Man Who’s Done It All”. Fe ennillodd o sawl pencampwriaeth, ar draws sawl cynghrair, a byw drwy sawl sidekick – gan gynnwys Maverick, ei warchodwr personol moel a sinistr; Suzy, ei gariad pync Yoko Ono-aidd; ei hen hyfforddwr Oroku Saki, wedi ei enwi ar ôl Shredder o Teenage Mutant Ninja Turtles; a’r ewythr gwallgo Kinky John, wedi ei ‘seilio’ ar gymeriad Vic & Bob o’r un enw. Mewn geiriau eraill, roedd o’n union yr un fath.

Ia… roedd yr un yna’n gamgymeriad.

Wrth i amser basio, doedd creu cymeriadau ddim yn ddigon i fi ddim mwy. Ro’n i isio mwy o buzz. Felly wnes i ddechrau gwirfoddoli i sgwennu’r gornestau eu hunain: penderfynu ar ba symudiadau oedd yn cael eu defnyddio, a sgwennu sylwebaeth ddigri i fynd efo fo. Achos roedd rhaid i rywun wneud. A roedd pobol yn cymryd y stwff yma o ddifri. Os doeddech chi ddim yn trin reslar arall efo parch, roeddech chi’n cael gwbod am y peth.

Ac o fan hyn, wnes i ddechrau cynghreiriau newydd efo rai o fawrion yr hobi. Bryd hynny, fi oedd yn penderfynu pwy oedd yn ennill ac yn colli! Allwch chi ddychmygu’r fath bŵer? Ac efo’r cynghreiriau yma, cymeriadau newydd. Gan gynnwys…

The New Samoans
Tîm o ddau ffŵl mawr, Mafu a Kong, o Samoa. Lle arall? Wnaeth rhain ddim para’n hir iawn. A wnes i byth weithio allan pwy ar wyneb y ddaear oedd “The Old Samoans”.

“Whiteboy” Stan Marshall
Roedd y boi yma’n briliant. Fy mharodi bach i o Eminem – reslar gwyn, dosbarth-canol, oedd yn dod i lawr y ramp i gyfeiliant Public Enemy… efo ei fam y tu ôl iddo bob amser. Ella fy hoff greadigaeth o’r adeg od yma o fy mywyd. Ella ddylswn i ‘di trio sgwennu sitcom am y boi yma yn lle ei wastio fo ar hwn. Ond dyna ni.

Roedd ‘na foi arall hefyd…ryw foi mawr drwg o Siapan, mewn cynghrair oedd wedi ei seilio yn gyfangwbl ar y sîn reslo draw fanna. Ond dwi’m yn cofio unrhywbeth amdano fo, achos roedd o braidd yn rybish.

Dwi ddim yn siŵr iawn bellach faint wnaeth yr hobi od yma bara. Blynyddoedd, yn sicr. Erbyn y diwedd, wnes i golli fy angerdd tuag ato fo’n llwyr. Roedd sgwennu tudalennau a thudalennau o promos bob wythnos yn teimlo, erbyn hynny, dipyn bach gormod fel gwaith cartref.

Ond dyna’r peth: gwaith cartref oedd o, mewn ffordd, heb i fi sylwi. Dwi’n cofio pan o’n i dal wrthi efo hwn, yn edrych yn ôl at y darnau cynta i fi ysgrifennu…

… a diolch byth dydyn nhw ddim ar-lein bellach…

… a sylweddoli gymaint oedd fy sgwennu wedi gwella achos hyn. Ac ar ben hynny, roedd o’n hwyl, yn fwy aml na pheidio. Dwi’n cofio un Dydd Sul yn arbennig, ryw flwyddyn i mewn, lle wnes i a ffrind sgwennu ryw bump o ddarnau yr un, un ar ôl y llall, bob un ohonyn nhw’n adeiladu ar yr un ddaeth o’r blaen, ac yn gwneud newidiadau sylfaenol i’n cymeriadau. Ac erbyn hyn, dim ryw promos bach ffwrdd-a-hi oedden ni’n sgwennu. Roedden nhw’n straeon byrion go-iawn, ac yn rhyfeddol o arti, a chysidro eu bod nhw i gyd am reslo yn y pen draw. Hyd heddiw, dwi’n ffeindio hi’n anodd i sgwennu gymaint â hynny mewn diwrnod, ond bryd hynny, wnaeth ‘na ryw awen gymryd drosodd. Y wefr o sgwennu oedd yn bwysig, a dim yr ornest ei hun. Mewn geiriau eraill, roedd o’n gêm, yng ngwir ystyr y gair.

Felly. Peth eithriadol o “drist” i wneud, os ‘da chi’n credu bod gan eiriau felly unrhyw ystyr o gwbwl. Dyma’r agosa ddeuais i erioed at gemau chwarae rôl fel Dungeons & Dragons. Ond, bron i bymtheg mlynedd ar ôl i’r llwch setlo, dwi’n edrych yn ôl ar y profiad efo eitha dipyn o hoffter. Yn ystod adeg o ‘mywyd pan o’n i’n brwydro efo gwaith ysgol bob dydd, wnaeth e-reslo fy nysgu i bod sgwennu jyst er mwyn sgwennu yn beth oedd yn bodoli, bod o’n hwyl, a bod gan yr ysgol ddim monopoli ar y math yma o beth.

A hei, ella tyswn i ddim wedi sgwennu’r holl stwff ‘ma bryd hynny, ella fyswn i ddim yn sgwennu hwn rŵan. A dyna drychineb fysa hwnna.

Mae e-reslo’n dal i fodoli. Os ‘da chi isio dechrau bywyd newydd fel superstar y byd reslo ar-lein (a pwy sy ddim?), dwi’n argymell y peth. Jyst… watshiwch eich cefn. Ella fydda rhaid i fi ddod nôl i ddysgu gwers i chi.

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s