Awn am Dro

Awn am dro

Y frawddeg nesa, mi fydd hon yn sicrhau fy statws sengl am byth siwr o fod: ‘dwi ddim yn mwynhau mynd i gerdded. Loncian ar hyd traeth neu brasgamu fyny rhyw fryn. Ma nghlustiau i’n dueddol o ddwyn losg gwynt a dim ond hyn a hyn o fryniau gwyrdd/tonnau toredig gall berson edrych arno a hefyd … well gen i fod adre flaen tan (oce, y teli go iawn).

‘Ti eisiau mynd am dro heddiw’? (unrhyw ex gewch chi enwi)

‘Yrm…’ (fi)

‘Tyd flaen mae’n dda i ti, cyfle i hel meddyliau a chadw’n heini.’

‘Fi’n cysgu 4 awr y nos a fi’n mynd i’r gym bob dydd. I’ve got those covered.’

Ond yn sydyn reit mae na brofiadau ‘cerdded’ wedi dechrau ymddangos ar ein systemau gemau fideo, a ‘da chi’n gwybod be, dwi’n hollol in heart efo nhw.

Angen esboniad siwr o fod

‘Walking simulators’ – dyna beth mae criw nawddoglyd yr internet yn galw cyfres o gemau diweddar ond pam ‘walking simlulator’? Wel mae’n cael ei ewni’n hynny gan fod agweddau nodweddiadol i’r gyfres o gemau a rheina yw:

  • Yn arferol dim ond un botwm mae person yn defnyddio, a mae hwnna’n ond yn i gynnig cyfathrach efo’ch amgylchfyd (agor drws, darllen nodyn e.e.) – bach yn rhy sidet i rhai
  • Elfen gref naratifol, a nod y profiad – mwy nac unrhywbeth arall – yw i ddatguddio beth sydd wedi digwydd, yn hytrach na chwarae rol beth sydd am ddigwydd, neu sy’n digwydd yn y presenol.
  • Archwilio yn hytrach nac anturiaethu
  • Cyflymder araf i’r weithred, h.y. ‘da chi’n cerdded bobman – dim rhedeg yn y coridor! (dyma pam walking simulator)

Wel ‘dwi wedi bod yn profi sawl gem fel hyn yn ddiweddar, gemau megis Firewatch, The Witness, Everbody’s Gone to the Rapture, Gone Home, a ‘dwi yma i ddweud fod nhw’n ffantastig o ffordd i dreilio awren neu ddwy, yn enwedig i’r rheina sydd braidd yn snobyddlyd tuag at ein diwydiant.

Pam fod nhw’n ‘ffantastig’ de Daf?

Oherwydd mae nhw’n troedio maes hollol newydd rhwng llenyddiaeth ffilm a gemau fideo: yn dod ac elfennau cryfach y genres yna oll at ei gilydd ac yn creu profiad unigryw. Gweledigaeth ffilm, naws llenyddiaeth, agosatrwydd gemau fideo. Gan taw chi sy’n ‘rheoli’r’ cymeriad canolog yna ‘da chi’n teimlo’n rhan o’r naratif, yn hytrach na derbyn stori.

Ond mae’r gair naratif bach yn gamarweiniol gan fedrwch dorri’r trydydd wal ar unrhyw adeg, a chreu unrhyw lwybr dychmygol i’r llif – ffansi eistedd lawr a gwylio’r haul yn mynd lawr am sbel fach? Dim problem. Wir eisiau archwilio pensaerniaeth ty Tuduraidd yn y pellder, cer amdani! Does dim rheolaeth yn y profiad sy’n dweud ‘na, rhaid i chi ddilyn y goleuadau ffordd allan’ i weld diwedd y stori a’I fwynhau I’r eithaf.

Sgan Turner ddim byd ar hyn

Agwedd arall dwi’n meddwl sy’n gryf am y fath yma o brofiad yw’r ‘sky-boxes’. ‘Sky-box’ yw’r term am fframio olygfa anhygoel o fewn gem fideo, i helpu chi mae sawl esiampl hyfryd ar y sgrin nawr ond ar y cyfan maent yn cynnwys tywydd trawiadol, tirwedd dramatig ac efallai rhyw elfen sy’n eich syfrdanu.

Yn Firewatch e.e. mae’r gem wedi ei seilio yn y Rockies yn Arizona ac roedd lliw yr awyr a’r haul, yn enwedig yn taro yn erbyn creigiau mwyn yn gofiadwy. Yn Everybody’s Gone to the Rapture roedd tirwedd cyfforddus ‘middle-England’ yn cael ei ehangu gan olygfeydd arall-fydol tra bod lliwiau dramatig The Witness yn gwneud i berson ebychu yn uchel – mor brydferth!

Dwi’n siwr fod y golygfeydd yma yn deillio o deimlad y gemau, nod nhw yna i chi wir blymio I fewn iddynt a teimlo yn rhan o’r profiad ond hefyd i wefreiddio yn llwyr yn yr hyn yr ydych yn profi. Eiliadau bythgofiadwy sydd wedi ei tanio mewn naratif rymus, a’r holl beth yn cael ei gyfarwyddo gan neb ond chi eich hunain. Fellu, pwy sydd ffansi dod am dro?

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s